Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cyfalaf oedd y broblem fawr. Yr ateb oedd perchnogaeth cymunedol gyda nifer fawr o gyfrandaliadau lleol cymysgiad o arian ac adnoddau craidd fel buddsoddiadau. Sefydlwyd tri chwmni Jefferson, Limestone a Chambric. Oherwydd dirwasgiad byr bu oes y Limestone a Chambria. Y Rhyfel Cartref oedd achubiaeth cwmni Jefferson. Yn ystod eu bodolaeth ni fu gweithio ar y Sul erioed. Ond roedd y cwmni yr un mor broffidiol ac hefyd roedd y ffwrnais haearn golosg olaf i gynhyrchu haearn yn Ohio tan 1916. Yn yr un cyfnod roedd cefnogaeth dda i'r capeli a'r Gymraeg. Nid oedd gwasanaeth Saesneg yn Horeb tan 1901 a chynhaliwyd gwasanaethau Cymraeg yn y capeli tan y cyfnod 1918-1922 (1920 oedd blwyddyn yr uno rhwng y Methodistiaid Calfinaidd ac Eglwys BresbyteraiddyrUDA.) O uchafswm o 12 capel "MC", doedd dim ond 6 ym 1926. Cynhaliwyd gwasanaethau wythnosol yn y Gymraeg yn Oak Hill, Moriah a Horeb tan 1920, ac yn achlysurol yn Oak Hill (MC) tan y 1970au. Y diwydiant llechi oedd rheswm symudiad o Gymru i'r ardal ar y ffîn rhwng taleithiau Efrog Newydd a Vermont, yn arbennig ar ôl agor y rheilffordd i'r ardal ym 1851. Yn naturiol roedd nifer helaeth o'r ymfudwyr o drefi'r llechen yng Ngwynedd. Sefydlwyd Ysgol Sul a chanolfan pregethu ym 1850 a roedd rhaid i'r capel cyntaf rannu adeilad efo'r Eglwys Gatholig! Sefydlwyd capel unedig yn Fair Haven ym 1854, ond bu hollt ym 1860 a sefydlwyd achosion Methodistiaid Calfinaidd a'r Annibynwyr ar wahân. Erbyn 1860 roedd 4 capel ar gyfer 440 0 oedolion a 329 o blant yn y gymuned Gymraeg. Agorwyd capel newydd (MC) wedyn yn Eagle Quarry (wedyn Blissville) a Jamesville (A) ym 1865. Fel yng Nghymru aeth y diwydiant llechi trwy amserau da a drwg, ond ar ôl 1912 bu dirywiad parhaol. Agorwyd capeli newydd ar ôl agor chwareli newydd West Pawlet (1883), South Poultney (1898) ac ail-adeiladwyd rhai Poultney (1901), Granville (1901) a Middle Granville (1906). Caewyd rhai ar ôl cau'r chwarel leol Blissville a Jamesville (1883). Erbyn 1892 roedd 12 capel ar gyfer poblogaeth Gymraeg o 2,500. Yn ystod y Rhyfel Mawr aeth llawer o'r dynion ifanc i ffwrdd er mwyn ennill cyflogau gwell yn y diwydiant rhyfel, gyda dim ond ychydig yn dychwelyd. Ar yr un amser bu trai ar y Gymraeg. Ym 1936 ymddatodwyd Cymanfa Bresbyteraidd Cymraeg Efrog Newydd a Vermont gyda'r 6 eglwys (MC) Fair Haven, Granville, Middle Granville, Poultney, South Poultney a west Poultney yn ymuno ag eglwysi Saesneg yr ardal. Bu gwasanaeth Cymraeg ym Methel, South Poultney tua y 1930au, ond gyda ymddeoliad y Parch Maldwyn Davies o Beniel, Granville ym 1950 nid oedd gweinidog Cymraeg yn yr ardal am y tro cyntaf ers canrif. Yr unig gapeli Cymreig heddiw yw Granville, Poultney a Middle Granville i gyd wedi eu sefydlu gan y Methodistiaid Calfinaidd. "Upstate New York" oedd un o brif ganolfannau'r Cymry yn yr UDA trefi fel Utica, Remsen, Steuben a Rome yn sir Oneida. Fel y llyfrau eraill, ceir hanes cymdeithasol a chrefyddol cymunedau'r Cymry. Mewnfudwyr amaethyddol oedd y Cymry o ddiwedd y ddeunafed ganrif ymlaen. Roedd 700 o Gymry yn 1812, erbyn 1838 roedd 7,000. Rhestrir 83 o gapeli gan Jay G Williams HI. Diboblogi'r ardaloedd gwledig oedd y prif reswm dros gau y rhan helaeth ohonynt, gyda nifer mawr yn cynnal gwasanaethau yn y Gymraeg hyd y diwedd, tan 1944 yn achos Peniel, Remsen. Erbyn yr ugeinfed ganrif, Utica oedd prif ganolfan Cymry'r ardal. Bethesda oedd prif gapel yr Annibynwyr, a sefydlwyd ym 1802, dim ond trydydd capel yr enwad yn yr UDA, enwad a sefydlodd 229 o gapeli yn y wlad. Erbyn 1883 dechreuwyd gwasanaethau Saesneg mewn chwaer gapel Plymouth, ac yn y 1930au ym Methesda ei hunan. Ar ôl 1959 dim ond yn achlysurol bu gwasanaeth Cymraeg ac ym 1963 unodd cynulleidfa Bethesda gyda'r rhai ym Mhlymouth. Sefydlwyd prif achos y MC ym 1831 ac adeiladwyd capel newydd gyda 636 o seddi ym 1847. Cynhaliwyd gwasanaethau yn Saesneg hefyd ar ô11927. Oes aur Moriah oedd o dan y Parch R Glynne Lloyd rhwng 1945 a 1965, ond ar ôl ei ymadawiad ni fu gwasanaethau Cymraeg wedyn. Erbyn heddiw cynhelir yr achos yn Saesneg yn unig. Y capeli hyn yw'r mwyaf Cymreig yn yr ardal heddiw, gyda chapel y Bedyddwyr yn Remsen. Cedwir capeli Capel Cerrig, Bethel ac Enlli heddiw gan y gymdeithas hanes lleol. Y Mae "Songs of Praises" yn gofnod mewn lluniau a geiriau o adeiladau crefyddol y Cymry ar Wasgar sy'n sefyll yn y trefwedd neu dirwedd hyd heddiw. Agorwyd capeli Cymraeg rhwng 1663 a 1902 rhai mewn gwladfeydd Cymraeg, eraill mewn trefydd mawrion. Ar gyfer pob un o'r capeli ceir braslun o'i hanes, llun a manylion yr achos heddiw. Mae hanes 29 yn mynd yn ôl i'r cyfnod trefedigaethol yn America. O'r sefydliadau diweddar parhad ar dud 18