Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AMBELL EMYN AC EMYNYDD gan Kathryn Jenkins Lewis Valentine 'Dros Gymru'n gwlad Un o enwau mawr hanes Cymru yn yr ugeinfed ganrif yw Lewis Valentine, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, golygydd, llenor, cenedlaetholwr a heddychwr. Ef oedd Llywydd cyntaf Plaid Cymru, a'i hymgeisydd seneddol cyntaf ym mis Mai 1929. Mae gennyf yn fy meddiant gopi llawysgrif o englyn gan W.R.P.George iddo sy'n cloriannu ei statws a'i gyfraniad: Yn gydfryd â Bendigeidfran, wleidydd A'i wlad iddo'n winllan; Bu'n bont gre' i dros chwe chan O'u trallod mentro allan. Ymdrechai bob amser dros ei weledigaeth o Gymru fel gwlad Gristnogol, yn union fel y gwnaeth ei arwr mawr Emrys ap Iwan. Dywedodd mewn cyfweliad yn Seren Gomerym 1968: 'Yn y Gymru Gymraeg Gristnogol hon yn unig mae fy niddordeb, ac iddi hi dan Dduw y rhof fy mywyd'. Dyma'r arwriaeth sy'n sail i'w emyn anfarwol 'Dros Gymru'n gwlad'. Ysbrydolwyd Lewis Valentine gan gerddoriaeth Jean Sibelius Finlandia a berfformiwyd gyntaf yn Helsinki ym 1900. Daeth y gwaith cerddorfaol hwn yn ffocws dyheadau gwladgarol pobl Ffinland, ac ymgais lwyddiannus odidog i fowldio'i weledigaeth genedlaetholgar Gristnogol yntau i'r dôn ddwys, hiraethlon yw emyn Valentine. Erbyn hyn, dyma'n hail anthem genedlaethol. Mae'r emyn yn cynnwys gweddi daer ar i'r genedl, 'y winllan wen', (pa ddelwedd fwy cenedlaetholgar bur a ellid?) barchu'r gwerthoedd mwyaf aruchel, a dyhead proffwydol am ddyfodol Cristnogol Cymraeg iddi: O! deued dydd pan fo awelon Duw Yn chwythu eto dros ein herwau gwyw Try'r emynydd at Dad pob cenedl, Gwaredwr pawb yng Nghrist, am ysbrydoliaeth, am arweiniad ac am obaith. Gwilym R. Jones 'Yn wylaidd plygu wnawn' ac 'Arglwydd y gofod di-ben-draw' Bardd a newyddiadurwr a aned yn Nhal-y-Sarn, Caernar- fon, oedd y diweddar Gwilym R. yn bennaf. Enillodd y Gadair a'r Goron a'r Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y tridegau a'r pedwardegau ac fe'i ystyrid yn grefftwr arbennig o saernïol a choeth. Cenedlaetholwr diwyro ydoedd, fel Valentine, gan feddwl am les ei genedl uwchlaw hunanles yn aml. Golygodd YFaner am dros ddeg mlynedd ar hugain, ac mewn cofiant bachog iawn a gyhoeddwyd yn fuan ar ôl ei farw fe roes John Roberts Williams olwg ddifyr a dadlennol iawn i ni ar y byd newyddiadurol y bu Gwilym R. yn rhan ohono gan bwysleisio ei aberth faterol er gwasanaethu Cymru. Gyda chyhoeddi Atodiady Methodistiaid ym 1985 daeth dau o emynau Gwilym R. yn fwyfwy poblogaidd. Gwelir dawn ddigamsyniol y bardd gofalus yn 'Yn wylaidd plygu wnawn', sydd wedi'i briodi'n rhagorol â thôn statig ond cyfoethogeigweadJ.T Rees, 'Pen-Pard Ceir cyflythreniad ac odlau mewnol trwy'r penillion, a dyfais feistraidd 'goferu' sef bod un llinell yn gorlifo i'r nesaf gan greu pennill sy'n frawddeg: Daethom o swn y byd I'th demel dawel di I brofi yno ryfedd rin Y gwin a'n cynnal ni. Mae'r gwead mor glós a'r sain mor hyfryd, ni fedrwn lai na chael ein denu i addoli mewn ysbryd a gwirionedd. Golygwedd gosmig sydd yn 'Arglwydd y gofod di-ben- draw', a digwyddiadau anhygoel ail hanner yr ugeinfed ganrif o ddyn yn mentro i'r gofod ac yn glanio ar y lleuad yn agor dychymyg y bardd i bellteroedd y bydysawd. Emyn pererindod yw hwn mewn gwirionedd, gan un sy'n amlwg â'i ffydd yn Nuw Rhagluniaeth yn yr Hwn yr ydym oll, 'yn byw ac yn symud ac yn bod': Mwy wyt na holl ddychymyg dyn 'Wyr neb fy faint ond ti dy hun: Rhown, bechaduriaid, iti glod Am mai tydi yw gwraidd ein bod. Wrth ddarllen yr emyn hwn ni allaf lai na meddwl am yr hyn a ddywedodd John Gwilym Jones unwaith am anianawd Syr T.H. Parry-Williams sef ei fod megis, 'un ar goll yn eangderau diderfyn y gofod tragwyddol'. D.R. Griffith 'Ol Grist, Ffisigwr mawr y byd' Un o feibion disglair Cwm Rhondda oedd y diweddar Barchedig D.R. Griffith. Mab y mans ydoedd, ei dad yn weinidog ar Foreia, Capel y Bedyddwyr, Pentre. Adeg yr Ail Ryfel Byd bu'n aelod o Gylch Cadwgan, grwp o feibion a merched cenedlaetholgar ac esthetaidd a gyfarfyddai yng nghartref ei frawd a'i chwaer-yng-nghyfraith, sef yr Athro J. Gwynn Griffiths a'r diweddar Kate Bösse Griffiths. (Ymhlith aelodau eraill y Cylch ceid Rhydwen Williams a Gareth Alban Davies). Wedi'r Rhyfel, yn y byd academaidd y treuliai ei yrfa gan iddo ragori fel ysgolhaig a chyfieithydd yr ysgrythurau, gan ymgartrefu ym Mhenarth ac addoli yn Y Tabernacl, Capel y Bedyddwyr, yng nghanol dinas Caerdydd. Y gynulleidfa honno (ynghyd â'i Gweinidog, y diweddar Barchedig Raymond