Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddim yn eiddo i bob pregethwr poblogaidd o'r un cyfnod ym Môn. Yr oedd John Elias (1774-1841) a John Williams, Brynsiencyn (1853-1921) yn rheng flaen pregethwyr eu cyfnod ac yn hynod o boblogaidd, eto ni chyfrifai yr un o'r ddau mai 'dawn Môn' oedd eu dawn. Er na anwyd Elias na Christmas Evans ym Môn, eto fe'u mabwysiadwyd gyda balchder gan y Monwysiaid. Yn ôl pob cyfrif yr oedd y ddau yn bregethwyr hynod o ddramatig a dylanwadol. Y mae dynwarediad Jubilee Young o bregeth Christmas Evans ar 'Drugaredd' yn Nhabernacl Bangor (1835) yn brawf o hynny. Yn yr un modd yr oedd araith John Elias yn Sasiwn Caergybi 'Rhoi'r meddwon ar ocsiwn'. Ond er mor angerddol oedd pregethu'r ddau seraff, nid 'dawn Môn' oedd ganddynt. Yn ôl Hugh Williams fe geid 'dawn Môn' yn ei pherffeithrwydd gan William Charles o Walchmai (1817- 1849) ac ef oedd ei thad. Yr oedd rhyw ddwyster ac eneiniad anarferol yn ei ysbryd wrth bregethu yn arbennig tua diwedd y bregeth. Yn ei dymor byr William Charles oedd pregethwr mwyaf poblogaidd Môn, ca'i gynulleidfaoedd mwy niferus na John Elias. Mae hanes am hen frawd o Walchmai yn gweddïo drosto fel hyn "Cadw fo'n fyw yn hir Arglwydd a chadw fo'n rhy sal i fynd oddi cartref byth eto". Bu farw yn Ionawr 1849 yn 32 oed. Fe gydoesai William Roberts, Amlwch (1784-1864) â William Charles ac 'roedd 'dawn Môn' ganddo yntau ac eithro na chaed y dinc felodaidd yn ei floedd. Cododd dau bregethwr mawr o Lannerchymedd yn y cyfnod yma Dr John Hughes, Lerpwl a Dr Hugh Jones, Lerpwl cofiannydd William Roberts, Amlwch. Ystyrid y ddau gan drigolion Llannerchymedd yn llinach 'dawn Môn' ac 'roeddynt ill dau yn berchnogion arni. Dyma enghraifft o'r ddawn yn ffynnu er trawsblannu'r ddau berchennog mewn daear estron! Ond rhaid mynd yn ôl i Walchmai i gartref y ddawn neilltuol hon, at Thomas Charles Williams (1868-1927), nai i William Charles. Yr oedd yn bregethwr gwir fawr gyda phersonoliaeth hardd, yn ysgolhaig da ac yn meddu'r ddawn a oedd mor amlwg yn ei ewythr. Fe hogodd ef ei arfau yn hoywach na'i gyfoedion bu yn Athrofa'r Bala ac yn Rhydychen. Fe'i sefydlwyd ym Mhorthaethwy ym 1898 yn olynydd i David Jones, Treborth, brawd John Jones, Talysarn. Yn ei flynyddoedd cynnar yr oedd dawn Môn yn amlwg iawn ganddo. Daeth yn bregethwr bynod o boblogaidd yn y Saesneg, fe ddaeth mwy o floedd heb dinc felodaidd i'w lais. O ganlyniad collodd ffafr rhai o'r Werin a dyna paham y ceisiodd Hugh Williams, Amlwch ganddo ei hadfer. Tybed a oedd cynulleidfaoedd Môn yn newid erbyn diwedd oes Thomas Charles, a gwres y diwygiadau yn oeri. Daeth cynulleidfa newydd mwy dysgedig o beth ac yn oerach o ran ysbryd. Credai amryw y daeth diwedd ar bregethu mawr ac ar 'ddawn Môn' gyda marwolaeth Tho- mas Charles yn 1927. Ond cyn tynnu'r llenni fe ymddangosodd dau arall a feginodd y ddawn hen 'ddawn Môn'. Yr oedd William Llewelyn Lloyd, yn ôl Hugh Williams, yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd Cymru, er nad yng Ngwalchmai y'i ganed! Fe ireiddiwyd ei ddawn felys gan ddiwygiad ddechrau'r ganrif hon. Yr oedd ganddo lais soniarus, hynod dreiddgar ac ynddo ddeigryn. Ond fe gollai'r dinc nefolaidd o'r floedd a berthynai i 'ddawn Môn'. Ond os y methai Llewelyn Lloyd â chyrraedd rhai o nodau'r ddawn, heb os fe'i ceid yn ei chyflawnder gan Thomas Williams, Gwalchmai (1870-1942). Mi ddwedodd John Williams wrth Thomas Charles Williams "Petai Tom yn llafurio ni fuasai sôn amdanat ti a minnau fel pregethwyr", a dichon fod y ddau'n eitha diolchgar am ddiogi Thomas Williams! Mi dd'wedodd J.J. Morgan mai'r ddau lais gorau at bwrpas pregethu a glywodd erioed oedd gan C.H.Spurgeon (1834-1892) a Thomas Williams, Gwalchmai. Ac fe dd'wedai E. Morgan Humphreys mai'r tri llais pereiddiaf a glywodd ef erioed oedd gan Lloyd George, Elfed a Thomas Williams. Yn wahanol i bob pregethwr arall yr oedd y donyddiaeth a'i thinc felodaidd ym mhob gris o'i lais. Fyddai dim raid i Thomas Williams weiddi 'roedd y donyddiaeth ddwys a thyner mor effeithiol. Clywais un a'i clywodd yn dweud nad oedd dim byd mwy trydanol a gariai rhywun i arall fyd na Thomas Williams, Gwalchmai yn gweddïo. Pan fu farw Thomas Williams yn 1942, fe glowyd pob teyrnged iddo gyda'r geiriau "collasom yr olaf o bregethwyr mawr Môn, onid y mwyaf, ac fe ddistawodd