Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AGENDA Gwestai Gwadd: Lis Perkins Newid Bwydlen Pan oeddwn i a'm chwaer a'm brawd yn blant, ac yn aros ar wyliau hefo mamgu yn Aberarth, roedd pwdin reis ar y fwydlen yn ami dros ben. Roeddwn i'n siwr bryd hynny bod mamgu wedi gwneud pwdin reis bron bob dydd o'i bywyd priodasol! Y drefn amser cinio oedd: Llond plât o gig a thatws a moron a grefi, pwdin reis trwy laeth y fuwch ddu, a phaned o de. Ond weithiau byddai mamgu yn gwneud tarten fwyar duon neu dwmplen afal efo digon o siwgwr brown. Byddem yn ei gwylio'n paratoi'r ffrwyth a gwneud y toes a rhoi'r pwdin yn y popty neu mewn sospan ar y tân, a bron â marw am ei flasu. Ac wedi ei gael, teimlad mor braf oedd cael rhywbeth gwahanol. Gymaint haws oedd bodloni drannoeth ar y pwdin reis ar ôl caeI rhyw newid bach. Rwy'n siwr ein bod i gyd yn gyfarwydd â'r ymadrodd "staple diet". Y prif-fwyd yw hwnnw ac atgofia ni o'r bwydydd a goginiwn a'u bwyta o ddydd i ddydd. Mae bron yn amhosibl meddwl am bryd o fwyd traddodiadol yng Nghymru sy ddim yn cynnwys un ai bara neu datws. Mewn gwledydd eraill y prif-fwyd yw reis neu basta neu india-corn, ond beth bynnag y bo mae'n rhywbeth cyfarwydd ac adnabyddus, y gwyddom yn union sut i'w drin a'i goginio a'i fwyta. Fodd bynnag rydym hefyd yn greaduriaid sy'n croesawu newid weithiau, a dyna un rheswm pam yr edrychwn ymlaen at y Nadolig neu wyliau neu noson allan. Rhônt gyfle inni roi cynnig ar rywbeth gyda blas, arogl ac ansawdd gwahanol. Efallai y bydd y profiad yn un pleserus, efallai ddim, ond mae'n rhaid mentro rhywbeth newydd weithiau neu gall bwyd a bywyd fynd ynbur ddiflas. Patrymau Gwahanol Mae'r un peth yn wir am addoliad. Rwy'n aelod o un o is-bwyllgorau Bwrdd Cenhadu Esgobaeth Bangor, sef Grwp Datblygu Addoli Cymraeg (GDAC). Fe'i sefydlwyd rhyw dair blynedd yn ôl i wneud yr union beth a awgrymir gan y teitl, sef datblygu ffurfiau newydd o addoli trwy gyfrwng y Gymraeg. Etifeddodd y grwp y cyfrifoldeb am ddau wasanaeth esgobaethol yr Wyl Gorawl flynyddol (neu Mawl Medi fel y gelwir hi bellach) yn y Gadeirlan, a'r Plygain a gynhelir bob mis Ionawr mewn gwahanol blwyfi. Rydym hefyd yn trefnu gweithdai o amgylch yr esgobaeth; comisiynwyd gosodiad newydd o'r Cymun mewn iaith fodern, sef Offeren Deiniol; a byddwn yn cyhoeddi llyfr eleni o dan y teitl Mawl y Mileniwm, a fydd yn cynnwys emynau, tonau a gweddïau newydd i'w defnyddio'n bennaf mewn gwasanaethau gyda'r nos. Y nod yw bod yn arloesol tra'n cadw'r gorau o'r traddodiadol. Mae llawer o bobol yn cymeradwyo gwaith y grwp gan gydnabod ei fod yn torri tir newydd. Nid yw'n anodd cael eglwyswyr at ei gilydd i ryw fan canolog fel y Gadeirlan i wyl neu weithdy a drefnwyd gan gorff swyddogol. Mwy anodd o lawer yw eu darbwyllo fod ganddyn nhw eu hunain y sgiliau a'r adnoddau i edrych o'r newydd ar batrwm eu haddoliad a'i ddatblygu er gwell. Ac rwy'n siwr nad yr Eglwys yng Nghymru yw'r unig enwad gyda'r broblem hon. Mae gan bob enwad fframwaith gyfarwydd i'w hoedfaon hyd yn oed os nad yw mewn llyfr. Rydym angen y geiriau adnabyddus, y patrwm saff, y tonau annwyl. Dyma'r prif-fwyd wedi'r cwbwl. Ond cynefindra a fag hunanfoddhad, ac heb newid o bryd i'w gilydd gall addoliad ffosileiddio yn hytrach na bod yn ffres, yn greadigol, yn egnïol a'r gorau sy gennym i'w gynnig. Fel rydym yn croesawu newid i'n bwydlen, felly y dylem groesawu blas newydd i'n haddoliad. Fodd bynnag, cyn bod newid o gwbwl, mae tri pheth yn hanfodol bwysig. Yn gyntaf, a'r diddordeb wedi'i ennyn, rhaid i grwp o bobol fynd ati i ofyn am arweiniad yr Ysbryd cyn dechrau astudio'r mater. Mae eisiau cymryd siâp yr adeilad i ystyriaeth er enghraifft, a sut orau i'w ddefnyddio. Wedyn bydd angen pwyso a mesur y cymwysterau a'r doniau sydd o fewn y gynulleidfa, a rhoi cyfle a her i rai sydd heb wneud dim yn gyhoeddus o'r blaen i fentro i'r maes. Yn ail, rhaid paratoi'n drylwyr. Mae eisiau sicrhau bod arweinwyr yr addoliad (yr ordeiniedig a lleyg fel ei gilydd), y darllenwyr, y cantorion a'r gynulleidfa'n gwybod beth sydd ar droed ac yn teimlo'n hyderus. Fyddwn i byth yn breuddwydio paratoi rysait newydd sbon ar gyfer gwestai arbennig heb drio'r pryd ar y teulu'n gyntaf. Mae hi run fath gydag oedfa mae eisiau cynnig rhywbeth, ymarfer, addasu, ymarfer eto, gwneud yn siwr ei fod yn gweithio cyn ei gyflwyno. Dim amser? Gwnewch amser. Mae'n werth ei wneud yn iawn. Yn drydydd, rhaid cofio pwy yw gwrthrych yr addoliad. Nid bodloni'n teimladau ni yw'r ystyriaeth gyntaf mewn addoliad ond offrymu'r gorau a feddwn i Dduw yn ei sancteiddrwydd a'i gariad. Mae geiriau Sant Paul mor wir ag erioed: "Mi a weddïaf â'm hysbryd, ond mi weddïaf â'm deall hefyd: mi ganaf i'r ysbryd, ond mi ganaf â'r deall hefyd". Teimlad a deall, bwrlwm a dyfnder, eglurder a dirgelwch mor bwysig yw ystyried a pharchu'r rhain. Efallai'ch bod chi'n wyllt gacwn erbyn hyn am fod eich eglwys chi yn wahanol, yn arloesi, ac yn defnyddio adnoddau newydd. Wel, da iawn chi, ond yn anffodus rydych chi yn y lleiafrif. A gwyddom o'r gorau bod llai a llai'n mynychu unrhyw addoldy, a'i bod yn anodd cadw'n haelodau presennol heb sôn am ddenu rhai newydd. Wrth gwrs nid wy'n dweud bod chwarae o gwmpas efo'n gwasanaethau yn mynd i ddod â chant a mil o bobol i'n heglwysi a'n capeli. Dwi ddim mor ddiniwed â hynny. Ond mae angen dangos gwedd newydd ffres i'r byd a magu hyder bod neges hollbwysig wedi'i hymddiried inni, a bod gennym yr ewyllys a'r brwdfrydedd i'w chyflwyno'n effeithiol. Atal y trai o'n heglwysi yw'r cam cyntaf mi gredaf, ac adeiladu wedyn ar hynny. Fedrwn ni ddim arloesi bob dydd wrth gwrs, ac nid oes eisiau, gan fod y "staple diet" yna o hyd i'n cynnal, fel y cynhaliodd genedlaethau o'n blaen. Ond mae paratoi ac edrych ymlaen at rywbeth newydd o bryd i'w gilydd yn medru rhoi gwefr i gynulleidfa. Yn union run fath ag roedd edrych ymlaen at darten fwyar duon mamgu, a'i blasu, yn rhoi gwefr gofiadwy i mi.