Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae adolygu rhaglenni teledu mewn cylchgrawn dau- fisol wedi bod bron yn amhosibl dyna paham mai hon fydd y golofn olaf. Erbyn i Cristion gyrraedd y darllenwyr y mae unrhyw raglen, neu hyd yn oed gyfres,wedi mynd yn angof! Ond dyma orffen y golofn drwy adolygu un rhaglen gan wybod na fydd honno wedi mynd i ebargofiant yn llwyr. Gwasnaeth y Milflwyddiant o gapel Tabernacl Caerdydd ar y Sul cyntaf 2000 sydd dan sylw. Ymateb cewri'r colofnau papur Ac fe gafodd sylw. Neu, 0 leiaf, fe gafodd sylw dau golofnydd sydd yn hoelion wyth y cylchgrawn Golwg (Ionawr 12). Ac os oedd dau golofnydd mor enwog â Gwilym Owen a Dic Jones yn rhoi sylw iddi yna yr oedd siwr o fod yn raglen bwysig. I fod yn deg â Gwilym Owen yr oedd yn fodlon cyfaddef nad yw ei gyfraniad ef i grefydd gyfundrefnol (sef, mae'n debyg i'w eglwys ei hun) wedi bod yn fawr ddim ers bron i ddeng mlynedd ar hugain! Mae'r Colofnwr Cas hyd yn oed bendith arno- yn defnyddio ystrydeb y dosbarth canol diwylliedig, sef ei fod yn 'teimlo'n euog'. Nid yw Dic Jones yn gwneud cyffes gyhoeddus o'r fath. Ond, tydi o ddim mor ysgubol o feirniadol chwaith. Mae Dic yn cydnabod fod y 'syniad canolog' tu ôl i'r gwasnaeth yn un 'canmoladwy' sef 'i roi lle i sawl math o gredo, ac i adlewyrchu'r holl amrywiaeth hiliol, diwylliannol a chymdeithasol y ddinas honno (Caerdydd) ac yn y wlad yn gyffredinol'. Mae Dic Jones yn gweld dwy-ieithrwydd y gwasanaeth yn enghraifft o 'gywirdeb gwleidyddol' yn hytrach na 'chywirdeb addoliad'. Cyn rhoi sylwadau ar y gwasanaeth ac ymateb i Gwilym Owen fe hoffwn ddweud un peth. Y mae gwahaniaeth rhwng darlledu gwasaneth crefyddol a chreu rhaglen deledu. Rhaglen deledu oedd y Songs ofPraisea ddaeth o Stadiwm y Mileniwm yr un prynhawn ac felly wedi ei chreu i fod yn awr o adloniant llwyr, gyda sylw i'r stars a'r rheidrwydd i fod yn wleidyddol wrth gael y gynulleidfa o 65.000 i godi pan ddaeth Tywysog Cymru i mewn! Yr oedd yn rhaid cael cyflwynwyr siaradus yn wên i gyd ac yr oedd yn rhaid cael yr heip cyson drwy'r rhaglen ('the biggestSongs oí Praise- EVER/) Dyna sut y mae rhaglenni yn cystadlu. Yr oedd y Gwasanaeth o'r Tabernacl yn hollol wahanol. Ni fu'r camera ar y Tywysog a'r plant o gwbwl yn ystod y gwasanaeth, hyd nes iddynt gerdded i'r cyntedd ar y diwedd. Yr oedd elfennau cyffredin yn y Gwasanaethau yng Nghaerdydd, Llundain, Caeredin a Belfast, fel, er enghraifft, yr emyn newydd gan lanhawr capel yng Nghaergrawnt gyda'r enw nefolaidd Hillary Jolly (dim perthynas i Gwilym Owen) ond a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan weinidog y Tabernacl ar gyfer y gwasanaeth yng Nghymru. Fe wyr pawb sydd â gronyn o grebwyll ganddynt nad yw unrhyw fath o gyfarfod dwy ieithog yn bodloni neb yn llwyr, ond fe wyddom hefyd fod yna rhai achlysuron y mae'n rhaid eu cael oherwydd fod dwy- neu-aml-ieithrwydd yn fynegiant o undod ar draws pob gwahanrwydd. Ac fe fuasai cael offer cyfieithu i bawb wedi Barn ar Y Bocs Pryderi Llwyd Jones bod yr un mor anhwylus. Yr oedd y cyfan yn ddwy-ieithog yn Nhrefn y Gwasanaeth ar gyfer y rhai oedd yno, wrth gwrs, ac fe ellid fod wedi gwneud mwy o ddefnydd o gyfieithiadau-y-ddwy-ffordd ar y sgrin. Comedi sefyllfa. 'Criw o unigolion yn cloffi rhwng degau o ystrydebau cwbwl anghofiedig' a welodd Gwilym Owen yn y casgliad o arweinwyr crefyddol yn y sêt fawr a'r pulpud ar ddiwedd y gwasanaeth. Ond sut arall oedd rhywun am fynegi yr amrywiaeth (a ffolineb yr ymraniadau) na thrwy ddangos y criw colerog gyda'i gilydd yn rhannu yn yr un weddi a'r un gred fel Parti Llefaru mewn Eisteddfod ac yn cael y drydedd wobr? Roedd yn arwydd doniol a dwys o bethau fel ag y maent ac fe fuasai wedi bod yn braf gweld Barry, John, Eifion (Triawd y Pulpud) yn dawnsio fraich yn fraich i lawr i'r set fawr, drwy'r gynulleidfa ac allan i'r stryd! (Eglurhad: Barry Barry Morgan, Esgob Llandaff; John -John Ward, Archesgob di-Gymraeg yr Hen Ffydd Gatholig; Eifion Eifion Powell, Gweinidog capel Minny Street ac Annibynnwr o frid). Un Arglywdd, un Ffydd, un Bedydd, un Byd Roedd y canu yn fywiog gyda chyfuniad o'r hen a'r newydd ac er nad oedd y geirio yn glir yr oedd cael darn wedi ei gomisiynu gan Brian Inglis i ddathlu Blwyddyn Jwbili yn ardderchog. Yr oedd yn braf hefyd gweld y gynulleidfa yn cymaint rhan o'r gwasanaeth ac yr oedd y gwaith camera yn dangos y gynulleidfa gyfan yn addoli heb ormod o sylw i nag arweinwyr na phwysigion. Yn wahanol i Dic Jones roeddwn yn teimlo fod y camera a'r sylwebaeth gynnil wedi llwyddo i fod yn bry ar y wal. Efallai y buasai Gwilym Owen yn falch o gael y Gymru Gymraeg Anghydffurfiol yn ôl ond nid felly y mae hi bellach ac yr oedd y gwasanaeth o'r Underdogs i Gôr Cambrensis{ côr o Fedyddwyr cerddorol) yn ein hatgoffa fod gan hyd yn oed yr Hen Gorff bellach weinidog du ei liw ym Mhontypridd (Alvan Richards Clarke) a bod gan yr Eglwys yng Nghymru rhywun o'r un lliw yn Nhreganna (Michael Sserunkuma). Yn wahanol i'r Gwasnaeth pan agorwyd y Cynulliad yr oedd hwn yn wasanaeth i ddathlu'r Ffydd Gristnogol nid yng Nghymru yn unig ond mewn un byd. Roedd Gwilym Owen yn hallt ei feirniadaeth ar y'neges ganolog o'r pulpud'. Efallai ei fod fel llawer iawn o Gymry da eraill yn dyheu am Christmas Evans neu hyd yn oed John Williams Brynsiencyn i roi tân yn y 'lludw llwyd', ond petai wedi gwrando yn iawn fe fuasai wedi clywed, mewn myfyrdod cynnil a chynhwysfawr, fod dathlu'r milflwyddiant yn ein galw i fod yn rhan o weithgarwch byd eang Duw sydd yn galw ei bobl i chwalu muriau a rhagfarnau ac i wybod fod Duw o hyd yn gwneud rhywbeth newydd. Doedd hi ddim i fod yn bregeth 'diwygiad dwy fil' (geiriau Gwilym) ond fe ddylai fod wedi bod yn ddigon i atgoffa rhai sylwebyddion ar y Gymru gyfoes eu bod yn grefyddol beth bynnag yn dal i fyw mewn oes aur a fu, neu na fu.