Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Dirwasgiad Amaethyddol gan R J Evans Rwy'n defnyddio'r ymadrodd Dirwasgiad Amaethyddol yn hytrach nag Argyfwng Amaethyddol am y rheswm na allaf ragweld amser na fydd rhyw lun o amaethyddiaeth yn parhau i'r dyfodol er gwaethaf pob gwasgfa ar y diwydiant. Bu amaethyddiaeth trwy amryw byd o ddirwasgiadau yn ystod y mileniwm diwethaf does ond rhaid nodi tystiolaeth y llyfr 'Cwm Eithin' gan Hugh Evans, sy'n croniclo hanes ardal Uwchaled yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r caledi a ddioddefodd y bobl gyffredin yno, ac fel y blodeuodd diwylliant yno trwy'r cwbl. Ac y mae'r rhai hynaf ohonom yn cofio am y blynyddoedd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, mor galed fu hi ar y ffermwyr a'r gweithwyr diwydiannol eraill hefyd yn y cyfnod hwnnw. Ac eto fe fagodd y caledi rhyw wytnwch rhyfeddol a chlywais ddweud mai'r rhai a oroesodd orau oedd y ffermwyr bach cyffredin. Yna fe wellodd pethau ar ôl dyfodiad y Bwrdd Marchnata Llaeth yn y tridegau cynnar, a dechreuwyd barnu cyfoeth pob ffermwr wrth y nifer o 'ganiau llaeth' wrth giat ei fferm! Ac yna ar ôl yr Ail Ryfel Byd sylweddolwyd mor bwysig oedd cynnal amaethyddiaeth ffyniannus, a chyda dyfodiad y Gymuned Ewropeaidd a'r Farchnad Gyffredin fe fabwysiadwyd y polisi o geisio cadw cydbwysedd economaidd rhwng gwlad a thref trwy gymorthdaliadau i ffermwyr yn enwedig y rhai ar diroedd uchel ac anffafriol. Gwlad yn cynhyrchu gwartheg a defaid i'w danfon i Loegr (trwy'r porthmyn) fu Cymru ers rhai canrifoedd a bellach fe agorwyd marchnadoedd iddynt ar y Cyfandir, a bu'n gyfnod pur lewyrchus ar y diwydiant, er bod argoelion newid ar y gorwel gydag anniddigrwydd yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill, ar gyfyngu eu masnach ag Ewrop, a'r bygythiad fewnol i leihau'r cymorthdaliadau. Sut bynnag, oherwydd caniatáu i'r cwmnïau bwyd anifeiliaid gymysgu gweddillion anifeiliaid yn eu bwydydd heb yn wybod i'r ffermwyr, fe ymosododd y clwy B.S.E. ar wartheg gwledydd Prydain ac yna y cyhoedd yn y ffurf o C.J.D. afiechyd marwol, ac yn naturiol gostyngodd gwerthiant cig yn fawr. Collwyd y marchnadoedd tramor am rai blynyddoedd yn niwedd y ganrif ddiwethaf. Wedi cael cadarnhad bod y cig yn ddiogel parhau i wrthod derbyn dim ohono mae Ffrainc a Rhanbarthau'r Almaen (er bod sôn nad yw'r gwledydd hynny ychwaith yn rhydd o B.S.E.) Ychwanegwyd at anawsterau ffermwyr tir uchel gan wrthwynebiad a phrotestiadau ffyrnig y mudiad rhag creulondeb i anifeiliaid yn erbyn cludo wyn ar lorïau ar siwrneiau meithion i'r Cyfandir lle 'roedd marchnad dda iddynt. Ac yna fe gaeodd Ffrainc a Rhanbarthau'r Almaen eu ffiniau rhag mewnforio wyn o wledydd Prydain yn gyfangwbl gan beri gostyngiad yn eu prisiau ar y marchnadoedd. Erbyn mis Rhagfyr diwethaf (1999) yn ôl ffigyrau'r Weinyddiaeth Amaeth, amcangyfrifid y byddai incwm ffermydd ucheldiroedd Cymru mor isel â £ 52 yr wythnos. Ac achwyn sydd hefyd o gyfeiriad y ffermwyr gwartheg llaeth, heb ddim galw am eu lloeau, a gostyngiad ym mhris y llaeth, gan beri i lu roi'r gorau iddi. Ac a'n gwaredo ni, y ffurflenni sydd rhaid eu llenwi a'r manylion sy'n ofynnol eu cadw y dyddiau hyn. A rhag bod yn unochrog, clywais gwyn ffermwr a marchnatawr llysiau yn ddiweddar, pedair siop fach a gyflenwai â llysiau o fewn cylch o bedair milltir i'w fferm, wedi cau mewn ysbaid o flwyddyn oherwydd cystadleuaeth yr archfarchnadoedd. Pa effaith mae hyn oll yn ei gael ar ffermwyr? Fe ddywedir bod hunanladdiad yn digwydd yn amlach ymysg ffermwyr nag ond odid mewn un galwedigaeth arall. Yn bersonol does gennyf ddim profiad na thystiolaeth bendant o hyn. Ond wrth ymddiddan â phobl sydd wrth eu gwaith yn cyfarfod â ffermwyr yn feunyddiol, y darlun sy'n ymffurfio ydi bod nifer helaeth o ffermwyr mewn trafferthion ariannol a hynny'n peri poen meddwl enbyd iddynt, ac yn methu ildio i rannu eu pryderon. Yr anhawster mawr wrth syrthio i ddrygfyd ar ôl cyfnod o lewyrch ydi addasu i'r newid a 'ffitio esgid fel y bo'r troed' ys dywedir. Byddai mynd ar yr hen gyngor 'cadw dy afraid at dy raid', ond y demtasiwn fu i wario'n helaeth ar beiriannau ac i brynu tir yn ddrud, ac efallai mynd i ddyled wrth wneud hynny. Ond nid yw'r llog uchel presennol ar fenthyciadau yn cyfiawnhau mynd i ddyled pan fo'r incwm yn isel. Yn rhyfedd iawn mae'r rhai a brofodd ddirwasgiad dauddegau'r ugeinfed ganrif yn tystio'n bendant mai'r ffermydd bach cyffredin a oroesodd orau. Ond y feddyginiaeth boblogaidd heddiw ydi creu unedau mwy a dyna yw argymhelliad y Llywodraeth. Dyna hefyd a glywn ac a welwn beunydd byth ar raglenni Ffermio y radio a'r teledu. Mae mwyafrif llethol o'r cyfweliadau gyda ffermwyr sydd wedi ymestyn eu tiriogaeth i gynnwys mwy nag un fferm. Y gwir yw, os nad oes gan wr ifanc foddion teulu go gefnog i'w gychwyn i ffermio, mae'n hwch ddu arno, canys mae'r tyddynnod bach hwythau yn gwerthu am grocbris i ddieithriaid di-Gymraeg fynychaf i ymbleseru mewn hobïau ynddynt. Mae yna enghreifftiau, diolch byth, o ffermwyr wrth ymddeol yn gosod eu ffermydd i bobl ifainc ar rent neu hyd yn oed yn eu gwerthu am bris rhesymol iddynt, a dyma beth a allai Llywodraeth wâr ei gymeradwyo a'i gefnogi'n ariannol. Fel y mae ystadegau yn dangos ar hyn o bryd, bu gostyngiad yn nifer y ffermydd cyffredin (o ugain i gan cyfer dyweder) a chynnydd cyfatebol yn y ffermydd mawr ac yn y daliadau bach dan ugain cyfer, sydd yn dangos i ba gyfeiriad y mae amaethyddiaeth yn mynd. Yn ei lyfr, Small is Beautiful y bu llawer o ddyfynnu o'i waith ar un cyfnod, fe ddywed y Dr Schumacher mai prif