Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Amaeth a Chefn Gwlad gan Dewi Lloyd Lewis Mewn cyfarfod o Bwyllgor Gwaith Cyfundeb Dwyrain Morgannwg o Undeb Annibynwyr Cymru, Tachwedd 17, trafodwyd papur ar y mater uchod. Derbyniwyd y ddogfen a phenderfynwyd, gyda pheth newid, anfon copi ohoni i'r Parchg Aled Edwards, Swyddog Cyswllt Cytûn; i Adran Dinasyddiaeth Gristnogol yr Undeb, ac i Cristion, yn y gobaith y gallai'r ddogfen gael ei defnyddio mewn trafodaeth a threfniadau i helpu'r sefyllfa yng nghefn gwlad, fel y gwelai'r gwahanol gyrff yn bosib. Mae cyflwr bregus amaethyddiaeth yn awr wedi bod yn ofid i bawb sy'n dymuno gweld sector amaethyddol cryf a chael cefn gwlad bywiog. Ar yr un pryd y mae'r cyhoedd wedi teimlo pryder eang a chynyddol ynghylch ansawdd bwyd a'r dulliau o'i gynhyrchu gan gynnwys y cemegau a ddefnyddir fel rhan o'r broses honno ac effaith hynny ar fwyd, ar anifeiliaid ac ar yr amgylchedd. Yn fyr, mae'n argyfwng ar y diwydiant amaeth ac y mae'r farchnad fwyd mewn cyflwr anfoddhaol. Mae'r papur hwn yn ymwneud â'r materion hyn ac yn cyfeirio at gynllun sydd, ym marn yr awdur, yn ffordd rhagorach i bawb y cwsmer, y ffarmwr, yr anifeiliaid a'r amgylchedd. Y Soil Association (gweler Nodyn 1) sy'n bennaf gyfrifol am y cynllun, cynllun a gaiff ei weithredu yn lleol drwy gefnogaeth cyrff a grwpiau lleol. Bwyd lleol i bobl leol yw swm a sylwedd y cynllun. Ymhob rhan o'r wlad mae sefydliadau cyhoeddus ac eraill yn prynu Ilawer o fwyd yn gyson: er enghraifft: Y Cyngor Sir ar gyfer ysgolion cynradd, cyfun, coleg, cartrefi plant. henoed ac eraill; canolfannau hamdden etc. Heddlu a llysoedd barn. Awdurdodau iechyd ar gyfer ysbytai a gwasanaeth atodol. Y brifysgol, neuaddau preswyl ac undebau myfyrwyr. Sefydliadau eraill yw gwestai, tai bwyta; canolfannau ymwelwyr etc. Ar hyn o bryd, daw'r bwydydd o bob man, wedi'u cludo yno gan nifer o lorïau ar ffyrdd sydd eisoes yn llawn. Cawsont eu tyfu mewn nifer o wledydd ymhell ac agos a gallant fod yn weddol ffres neu fel arall. Bwriad y cynllun 'Bwyd lleol i bobl leol" yw creu rhwydwaith lleol rhwng nifer o'r sefydliadau cyhoeddus uchod a'r ffermwyr lleol sy'n tyfu'r bwyd fel bo'r naill yn gwerthu a'r llall yn prynu y bwydydd lleol hynny. Manteision y cynllun Bydd y berthynas rhwng y cynhyrchydd a'r cwsmer yn fwy agos na'r ffordd bresennol; bydd taith y bwyd o'r naill i'r llall yn fyrrach, gan sicrhau bwyd mwy ffres: gyda thaith fyrrach, bydd nwyon niweidiol trafnidiaeth y cludiant yn llai; bydd y wasgfa ar y ffyrdd yn ysgafnhau a manteision i bawb yn dilyn o hynny. Ers tro bellach, mae pobl wedi teimlo mesur cynyddol o anfodlonrwydd am safon y bwydydd ac am y dulliau o fagu anifeiliaid, cyflymu eu tyfiant a'u pwysau drwy ddefnyddio hormonau, eu cadw yn gaeth heb Ie i droi, crafu, twrio ac ystwytho. Gwneud y ffarm mwy fwy fel ffatri yw'r arfer ers y chwedegau cynnar. Un canlyniad yw bod bwyd wedi colli llawer o'r blas a'i nodweddai gynt. Canlyniad arall yw parhad y cemegau yn y bwyd ar ôl ei gynhaeafu a'i goginio. Mae'r cemegau hyn, gan eu bod yn aros yn y corff, yn gwneud triniaeth meddyg ac ysbyty ar salwch y claf yn llai effeithiol. Rhydd y sefyllfa hon bryder cynyddol i'r swyddogion sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd. Wedyn y mae'r mater o les yr anifeiliaid, yr ieir, ansawdd y tir, effaith y cemegau pla-laddwr a chwyn-laddwr ac ati ar fywyd gwyllt. (Gweler Nodyn 2.) Rhaid cydnabod fod pris bwydydd yn y siopau wedi bod yn rhesymol o isel ac fel canran o wariant wythnosol teulu, gostyngodd y gwariant hwnnw yn raddol ond yn gyson ers yr ail rhyfel byd. Bellach tua dwy bunt o bob deg o wariant wythnosol teulu, yn gyffredinol, sy'n mynd ar fwyd. O feddwl am y lleihad a fu yn niferoedd ac amrywiaeth bywyd gwyllt, ar y tir, yn yr afonydd ac yn yr awyr, onid ennill colledus yw'n pris isel am fwyd. Bydd y bwydydd a gaiff eu tyfu a'u gwerthu yn y cynllun newydd hwn yn cwrdd â safon gwahanol, oherwydd bydd sylw penodol a pharhaol i'r broses o godi'r bwyd hwnnw, safon a fydd wedi'i gosod gan y SoilAssn. a'i gweithredu gan y rhai a fydd yn cynhyrchu y bwyd. Ystyriaeth bwysig yw mantais y cynllun i'r economi lleol: yno bydd y gwerthu a'r prynu, busnesau lleol fydd yn rhedeg y sioe; yn lleol bydd yr arian yn cylchdroi a bydd yno i wneud gwaith arall fel bo'r galw. Gall hynny yn ei dro fod yn help i fagu perthynas agosach a dealltwriaeth aeddfetach o fywyd ei gilydd rhwng gwlad a thref. Yn ôl y cynllun, mae'r bwyd sy'n cael ei dyfu'n lleol yn cael ei baratoi