Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn lleol ar gyfer ei werthu; caiff ei bacio yn lleol, ei gludo, ei werthu, ei brynu a'i ddefnyddio yn lleol. Yn naturiol, felly, bydd mwy o waith yn y cylch i bobl yr ardal. Yn ei ddechreuadau y mae'r cynlluniau hyn er y maent eisoes wedi dechrau yng Nghymru ffarm yn ardal Trefyclo, Powys, oedd y cyntaf oll. Mae mannau yn Swydd Caerlyr yn gweithredu'r cynllun a threfniadau wedi dechrau mewn chwe Swydd arall. Gan fod y Soil Assn. yn apwyntio 12 aelod newydd i'w staff, mae'n siwr y gwelir llawer mwy a gylchoedd yn ymuno â'r cynllun. Gwyddom yn rhy dda am argyfwng diwydiant amaeth Cymru, y lleihâd yn nifer y fferm deulu, a'r gwanychu sydd ar fywyd cefngwlad yn sgîl yr argyfwng hwnnw. Mae'n siwr gen i nad oes rhaid i bethau fod felly. Drwy bartneriaeth lleol gan y gwahanol elfennau sydd mewn cymuned leol, mae'n siwr fod posibilrwydd cael nerth a thyfiant. Dengys llawer arolwg fod pobl yn awyddus cael bwydydd y gallant deimlo'n fodlon am y dull o'u cynhyrchu ac am eu safon. Maent hefyd yn barod i gefnogi cynnyrch lleol. Mae cynllun y SoilAssn. yn cwrdd â'r dymuniadau hyn. Bwyd lleol i bobl lleol Yn ymarferol, golyga rhoi cynllun "bwyd lleol i bobl leol ar waith, fod grwpiau priodol yn y cylch yn cwrdd, trafod, cynllunio a chytuno ar nifer a agweddau pwy sy'n codi pa fwydydd, faint, a phwy fydd yn prynu beth. Mae'r profiad sydd gan staff y SoilAssn. yn ddiau at wasanaeth y cymunedau hynny a ddymunai ystyried cynllunio ac y mae llyfr ganddynt sy'n arweiniad manwl ar y ffactorau sylfaenol wrth fynd ati i drefnu'n Ileol. Credaf y byddai ei staff yn ymweld â'r lleoedd gan roi o'u profiad, sylwi ar ffactorau allweddol i greu a gweithredu economi bwyd lleol. Ar yr un pryd, bydd eisiau i'r trigolion lleol wybod am y cynllun a chael cyfle i fod yn rhan ohono. Wrth reswm, bydd y trefniadau yn cymryd misoedd cyn iddo ddechrau gweithio. Un peth pwysig yn y sefyllfa newydd fyddai'r grym hwnnw a ddaw drwy obeithio am y gwell a gwybod fod siap a maint y prosiect lleol hwn yn eu dwylo hwy. Pan welir un neu ddau o'n cyrff cyhoeddus a nodwyd uchod yn troi'n gwsmer y fenter newydd hon, bydd dechrau da iddo. Ymhen pum mlynedd gallai'r sefyllfa fod yn rhyfeddol ac yn galonogol wahanol. Her i'r Eglwysi I'r Eglwysi a'u haelodau, dyma ffordd ymarferol i annog, arloesi, hybu'nymwybod, cefnogi'r rhwydwaith lleol a rhoi mynegiant clir i'r pwyslais ar gyfanrwydd y cread. Arfer pobl cefn gwlad erioed yw sefyll ochr yn ochr gyda'u cymdogion. Rhydd y cynllun gyfle i ymuno mewn cyd ymdrech i greu a chynnal cymunedau cyfain yng nghefn gwlad wrth adnewyddu ei phrif ddiwydiant ffarmo. DELED DY DEYRNAS Dy Deyrnas Dduw Dad yw'r cyfanfyd i gyd, Dy ddwyfol lywodraeth sy'n cynnal pob byd; Teyrnasoedd y ddaear: darfyddant bob un, Tragwyddol dy Deyrnas fel tithau dy hun. Dy Deyrnas a ddaeth yn dy Fab Iesu Grist, I fyd llawn anobaith yn gaeth ac yn drist; Cyfiawnder a chariad dan goron ei Groes: Efengyl y Deyrnas yw gobaith pob oes. 0 deled dy Deyrnas i'n calon O Dduw, D'ewyllys o wirfodd yn briffordd ein byw; Boed cyfoeth a chynnyrch yr holl ddaear faith I bob un yn foddion cynhaliaeth a gwaith. I'n plith doed dy Deyrnas i'r oesoedd i ddod, Gan fyw i'r dyfodol drwy d'Eglwys er clod; Cenhedloedd ac ieithoedd a'u doniau ynghyd Mewn mawl yn cyffesu Gwaredwr y byd. Canwyd yr emyn hwn am y tro cyntaf ar y don 'Joanna' mewn gwasanaeth unedig yn Eglwys Gadeiriol Bangor, nos Sul 12 Medi 1999. Nodyn 1. Y Soil Association: elusen a ffurfiwyd yn 1946 er mwyn "ymchwilio, datblygu ac hyrwyddo perthynas gynaladwy rhwng y tir, planhigion, anifeiliaid, pobl a'r biosffer fel y gellir codi bwyd a chynnyrch iachus eraill gan ddiogelu a hybu yr amgylchedd". Hwn yw'r corff sy'n gwarantu fod bwydydd yn ddilys organig. Cymaint y bu'r diddordeb yn ei weithgareddau, a'r galw am ei wasanaeth, bu'n rhaid iddo gynyddu ei staff o 40 yn Hydref 1997 i 97 yn Hydref 1999. Byddai angen ysgrif gyfan i sôn yn haeddiannol am ei waith. Rhif ffôn: 0117 9290661 Nodyn 2. Gwelais y ffigurau hyn yn The Guardian, Medi 23 1999: Er 1973 bu lleihâd o 26% yn nifer y ffermwyr; lleihâd o 46% yn nifer gweision ffermydd; cynnydd o 209% yn y defnydd o gemegau mewn amaethyddiaeth. TUDOR DAVIES.