Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae'r lluniau gorau ar y radio gan John Roberts Cynhyrchydd Bwrw Golwg yn cymryd cipolwg ysgafn ar yr ymateb i'r rhaglen yn rhai o gartrefi Cymru. Stiwdio 3, BBC Bangor am 8.29.am. bore Sul Mair Hanner munud i fynd. Belfast ddim ganddo ni, mi fydd rhaid dechrau yn Llanbed. JR Pryd gawn ni Belfast, ryw syniad? Mair Dim clem. Deg eiliad. JR (peswch bach delicet). Mair Ciw cerddoriaeth! Mini Disg Dydy dwm dydy dwm dydy dwm Mair Fade. JR Bore da iawn i chi a chroeso i Bwrw Golwg yn fyw o Fangor ar BBC Radio Cymru. Mini disg Dydy dwm Stiwdio NCA Belfast. Cyfrannwr Helo Bangor. Technegydd Belfast calling Bangor, helo there? I dont think we're getting through. Cyfrannwr We are supposed to be on air by now. Technegydd Oh dont fret my friend, we'll get you there. Stiwdio 3 Bangor. JR Heb sôn am gip ar yr hyn sy'n digwydd yn y trafodaethau heddwch yn Belfast. Ond fe ddechreuwn ni efo Indonesia, yn ein stiwdio ni yn Llanbed mae. Ystafell Molchi lliw hufen, 6 Stryd y Llyn Hi ifanc (yn rhoi bawd ei throed dde drwy'r trochion yn y dwr) O! Bendigedig! Be well ar fore Sul, bath poeth mewn cwmni dethol, wyt ti ddim yn meddwl John Roberts? Stiwdio 3 Bangor. JR Ond mae na ochr arall i'r geiniog, oes ddim? Un peth ydi dweud bod angen heddwch yn Nwyrain Timor, sut mae sicrhau o? Mair (drwy'r cyrn clustiau) Belfast yna. Cegin pîn, y Mans Llangynhenin. Parchg. Paned cariad? Cariad Shysh i mi gael clywed be sydd gan hwn i ddweud. Parchg. Dwyrain Timor, be mae Mrs. Morgan siop eisiau wybod am Ddwyrain Timor? Cariad Be ddyle Mrs Morgan wybod am Ddwyrain Timor sydd yn bwysig siawns. Ac oes plis? Parchg Be? Cariad Te! Stiwdio 3 Bangor. JR Ond onid un o'r petha digalon ydi'r teimlad na fedrwn ni wneud dim, dim ond lleisio protest fach wantan? Mair (drwy'r cyrn clustiau) Tynnu hwn i ben rwan, mae amser yn brin. Stafell wely werdd Bryn Gwyn, Trewen. Fo Ohhhhhhh! Hi Be sy? Fo Ohhhhh! Dwi'n sal! Hi Be wyt ti'n ddisgwyl? Fo Paid â gweiddi! Hi Oedd rhaid i ti yfed cymaint? Fo Nac oedd ond. Stiwdio 3 Bangor. JR Ond mi wnaethoch chi fwynhau mynd i Ie diarth? Ystafell wely werdd Bryn Gwyn. Fo Doedd o ddim yn ddiarth, dwi yno bob nos Sadwrn. Hi Be? Fo Y Llew Gwyn Hi Be wyt ti'n fwydro? Fo Ateb y boi radio na oeddwn i. Stiwdio 3 Bangor. JR Oedd gan eglwysi'r India rywbeth i ddweud wrth eglwysi yng Nghymru felly? Mair (drwy'r cyrn clustiau) Tyrd â Ellis i mewn i'r trafod, mae o allan ohoni. Ystafell molchi 6 Cam o'r Nant, Glyn Afon. Fo Lle mae'n rasal i? Fo bach Mi wnes i benthyg hi. Fo Pryd? Fo bach Neithiwr cyn mynd allan. Fo Ond does gen ti ddim byd i siafio. Fo bach Oes mae! Fo Wel lle mae o neu mi fyddwn ni'n hwyr i capel? Fo bach Fasa ni ddim yn mynd dan amser cinio tasa ni yn India. Fo Be ddiawl wyt ti'n feddwl? Fo bach Dynas ar radio ma yn dweud bod nhw ddim yn mynd i capel yn fan honno dan amser cinio. Hi bach Naddo wnaeth hi ddim, deud efallai y basa hi'n syniad i ni beidio mynd oedd hi. Fo Oes rhaid i chi ffraeo? Stiwdio 3 Bangor. JR Angen llacio'r staes felly chwedl Eleri