Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Eelwys Unedie Cymru gan John Gwilym Jones Y mae Duw yn herio pob Cristion yng Nghymru heddiw i genhadu. Nid yw'n hadnoddau ariannol yn brin. Yn sicr nid yw'n hadeiladau yn brin. Eneidiau sy'n brin, yn enwedig yr eneidiau ifanc. Hyderaf fod gweithwyr unigol ac eglwysi lleol ac enwadau eisoes yn achub pob cyfle sy'n dod i'w rhan i wynebu'r her. Ac un cyfraniad bychan i'r genhadaeth yng Nghymru fyddai symleiddio strwythurau'r eglwysi o fewn i'n gwlad. Dyna yw amcan y trafodaethau hyn at uno. Y mae'r ddogfen a gyflwynir i'w hystyried eleni yn ffrwyth llafur pum mlynedd. Y mae hi mor agos at fod yn ddogfen derfynol ag y gellid ei chael hi. Ymhlith y cynrychiolwyr a fu'n gweithio arni yr oedd lleygwyr a gweinidogion, diwinyddion a haneswyr, yn ogystal ag arbenigwyr ym myd cyllid a threfn. Yn bwysicach na hynny, yr oedd pob cynrychiolydd yn weithiwr ymroddedig yn ei eglwys, ac yn fyw iawn i rinweddau trefn ei enwad ei hun. Fel y gwelodd yr eglwysi cyntaf yn Jerwsalem, y mae'n rhaid wrth ryw drefn, o fewn i eglwys ac ym mherthynas eglwysi â'i gilydd. Ni all neb hawlio mai trefn ei enwad ef yw'r un "Ysgrythurol", na'r orau at bob achlysur. A'r hyn a geisia'r ddogfen hon yw elwa ar brofiad yr oesoedd gan fabwysiadu'r elfennau gorau a welwyd mewn trefn eglwysig. Roedd yn ofynnol i'r ddogfen fod yn gryno. Ni ellid rhoi ynddi draethawd cynhwysfawr ar ddiwinyddiaeth eglwys, nac ychwaith raglen eang yn gosod allan ei threfniadaeth genhadol. Bydd y ddiwinyddiaeth yn cael ei datguddio dros y blynyddoedd sy'n dod, yn ôl arweiniad yr Ysbryd, a'r genhadaeth yn cael ei rhaglennu yn ôl galwad Duw. Y prif anghenraid ar hyn o bryd oedd amlinellu strwythur syml a fyddai'n hyrwyddo bywyd yr eglwysi. Adran gymharol gryno felly sy'n nodi seiliau athrawiaeth yr Eglwys Unedig. Gwyddom fod yna sbectrwm eang o feddyliau ymhlith ein haelodau, a sylweddolwn nad ategu nifer o ddogmâu yw cred. Ond gosodwyd fan hyn, er hynny, rai gwirioneddau sylfaenol y mae'n deg inni oll eu gweld fel canllawiau ein Ffydd. Gan fod y ddogfen ei hun yn cynnwys cyflwyniad, a'r argymheUion o'i mewn yn eglur, ni wnaf yn yr ychydig ofod sydd gen i ond nodi rhai pwyntiau perthnasol sydd wedi eu codi o dro i dro. Prif egwyddorion. Credwn mai'r lle gorau i ganfod ewyllys Duw ar gyfer eglwys yw mewn defosiwnymhlith pobol sy'n adnabod ei gilydd yn dda yn eu perthynas â Duw, ac yn addoli'n gyson yng nghwmni ei gilydd. Felly fe welir yn y ddogfen: (1) mai'r Eglwys Leol o dan arweiniad Duw yw'r awdurdod sylfaenol ar ei bywyd hi ei hun; (2) mai pwrpas gweinyddiaeth yr enwad yw gwasanaethu Eglwysi Lleol, ac nid eu llywodraethu; a (3) y dylai pob Eglwys Leol ysgwyddo ei chyfran deg o gyfrifoldebau lleol a chenedlaethol, yn weinyddol ac yn ariannol. Yr enw. Eglwys Unedig Cymru yw'r enw a argymhellir, a'r gair "eglwys" yn golygu cymuned o eglwysi lleol. O gofio'r cyfeiriadau Ysgrythurol at yr "eglwys yn Rhufain" neu'r "eglwys yn Jerwsalem", heb sôn am "eglwys Meirion" ac eglwys Maldwyn", go brin y gall unrhyw Annibynnwr na Bedyddiwr honni fod yr ystyr hwn i'r gair "eglwys" yn dramgwydd. A phrin y gallai enwadau eraill wrthwynebu dilysrwydd y gair "unedig". Ond wedyn down at y gair "Cymru". Ofnaf y bydd hwn yn anhawster i rai. Y mae gan un neu ddau enwad gyswllt cyfansoddiadol ag eglwysi yn Lloegr. Rhaid cydnabod hefyd fod gan rai eglwysi berthynas faith a chynnes ag eglwysi eraill nad ynt yng Nghymru. Cydnabyddwn ei bod yn fwy anodd i'r rhain amgyffred eu cyfrifoldeb o fewn i fywyd Cymru. Ond buaswn yn apelio atynt ar ddau gyfri. Yn gyntaf, fod y rhyddid sydd o fewn i'r strwythur newydd yn golygu y gallent barhau â'u cysylltiadau allanol yn anffurfiol. Ac yn ail, iddynt afael yn yr hyder gwleidyddol newydd sydd ynom bellach fel cenedl, a mentro dod draw at gwmni newydd, er mwyn i'r Eglwys Unedig fod yn rym ysbrydol o fewn i'n gwlad a hwythau yn rhan o'r gwaith. Uno o ba gyfeiriad? Honnwyd bron ddeugain mlynedd yn ôl mai yn lleol ac nid "oddi uchod" y dylid ceisio diwygio bywydau'r eglwysi a chreu undeb. Ac fe wrthodwyd hen gynllun y chwedegau. Beth ddigwyddodd wedyn? Fe gafwyd arweiniad goleuedig mewn ambell ardal. Fe gaed "uno" lleol mewn rhyw ddyrnaid prin o enghreifftiau. Fe gafwyd ambell weinidogaeth bro, er mai "uno" ym mherson gweinidog yn unig yw hynny fel arfer. Fe gafwyd rhai ardaloedd a threfi eraill yn cynnal sioe yr uno cosmetig ar ambell Sul. Ond mewn gwirionedd mae'r honiad y byddai'r uno'n datblygu o'r gwreiddiau lleol wedi ei brofi'n wag. Fe gawsom ddeugain mlynedd a mwy o ddyfnhau ein rhigolau enwadol, gan geisio clytio gofalaethau enwadol ar draws ein gilydd, ac weithiau anwybyddu'n gilydd wrth drefnu'n haddysg a'n hieuenctid. Hyderaf y gall uno gyd-ddigwydd o ddau gyfeiriad. Os daw yna don o awydd uno yn lleol, oni fyddai'n llawer haws i'r eglwysi lleol ddod yn eglwys leol unedig drwy eu bod yn perthyn i'r un enwad? Ac oni fydd yn rhaid i'r eglwys leol unedig honno wedyn gael ei bugeilio gan ryw enwad? Darparwn ar gyfer hynny. Traddodiadau Enwadol. Y mae pob gweinidog a fu'n hyfforddi dosbarthiadau derbyn ac yn gweithio ymhlith ei bobl yn sylweddoli nad yw'n henwadaeth ni yn golygu fawr ddim i'r to ifanc. Ond y mae gan ambell eglwys ac enwad rai argyhoeddiadau sy'n sylfaenol bwysig iddynt hwy. Y