Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mae'r ddogfen hon felly yn sicrhau rhyddid i bob Eglwys Leol barhau i lynu wrth yr argyhoeddiadau hynny. Rhagwelaf y bydd eglwysi'r Bedyddwyr yn parhau i ddysgu ac arfer bedydd credinwyr a bedydd trochiad. Yn wir rhagwelaf y dydd yng Nghymru, pan ddaw'r Ysbryd yn ei rym i'n plith, y bydd mwy o fedyddio credinwyr na bedyddio babanod ym mhob eglwys. O ran trefniadaeth fewnol eglwys, hwyrach y bydd eglwysi'r Presbyteriaid a'r Methodistiaid yn parhau i ymddiried mwy o'r gweinyddu i'w blaenoriaid nag a welir ymhlith eglwysi'r enwadau eraill. Un o rinweddau'r drefn a argymhellir yw y gellir cael yr amrywiaethau traddodiadol hyn i gyd o fewn i'r un enwad. Cau capeli. Does dim bygythiad i unrhyw gapel yn y ddogfen hon. Nid oes ynddi ddarpariaeth i na Synod na Chymanfa gau adeilad yn groes i ddymuniad yr Eglwys Leol sy'n addoli ynddo. Synod a Chymanfa. Yn eu perthynas â'r eglwysi byddant yn bugeilio a goruchwylio eu gweithgareddau, nid eu llywodraethu. Hyn fydd yn boendod i weinyddwyr sy'n "credu mewn trefn". Ond y gwir am fiwrocratiaeth enwadol yng Nghymru yw hyn: nad yw cyflwr eglwysi'r Wesleaid a'r Presbyteriaid yn amlwg well heddiw na chyflwr yr eglwysi sydd wedi byw am ganrifoedd yn annibendod di-awdurdod Annibynia. Peirianwaith angenrheidiol yw'r Synod (rhanbarthol) a'r Gymanfa (genedlaethol) i resymoli a threfnu materion mewnol a delio â chysylltiadau allanol. Y MILFLWYDDIANT Tydi sy'n mesur holl droadau'n taith O fewn y cread crwn a'r gofod maith, Rho weld drwy anturiaethau dyn a'i fri Nad digon dawn a gwybod hebot Ti. Ein rhyfyg mawr a'n balchter Ti a'i gwyr, A'r nos sy'n dod heb edifeirwch llwyr, Yr hyn a heuwn ni a fedwn draw Yn falm neu wenwyn o flaen gwynt a glaw. Er cilio mhell o'th wydd ni allwn ffoi Nid oes dihangfa'n bod na lle i droi; Ti biau'r gwir o hyd sy'n treiglo'r maen Tydi yw'r ffordd yn ôl a'r ffordd ymlaen. Ar drothwy canrif arall dynol ryw Er mwyn dy Fab a roddaist dysg in' fyw, Rho weld dy law dragywydd ar y rhôd Cans eiddot yw teyrnasoedd cyn eu bod. 0. T. Evans, Aberystwyth Gofynion ariannol. Hyn fydd yr anhawster mawr i Fedyddwyr ac Annibynwyr. Ar hyn o bryd y mae llu o eglwysi'n tybied mai eu hunig gyfrifoldebau ariannol yw cynnal a gwresogi'r adeiladau, cydnabod gweinidog am y Sul neu achlysur arall, a thaliadau i gronfeydd yr enwad ac ambell achos da. O degwch iddynt, ni wnaeth neb egluro erioed i aelodau'r eglwysi hynny gymaint y maent wedi elwa ar ymroddiad yr eglwysi eraill sy'n cynnal gweinidog yn yr un fro, a'r eglwysi sy'n lalu'n realistig am holl weinyddiaeth enwad. Felly er mwyn rhannu'r baich yn fwy cyfartal mabwysiadwyd dull arferol rhai enwadau i ofyn tâl cyfrannol gan bob eglwys, gan dalu cyflog gweinidogion o gronfa ganolog. Beth am yr enwadau eraill? Os yw gwyrthiau gwleidyddol yn digwydd y degawdau hyn, oni allent ddechrau digwydd ym myd crefydd. Mae yma yng Nghymru genhedlaeth newydd o esgobion sy'n sylweddoli erbyn hyn fod plwyfi unigol yn dymuno mwy o lais yn eu bywyd yn lleol. Mae yna hyblygrwydd newydd ymhlith Pabyddion. Buasai'n dda gen i feddwl y bydd y ddau enwad yna yng Nghymru, ymhell cyn pen deugain mlynedd arall, yn trafod uno â ni. Gair i gloi. Ni chredaf y bydd uno enwadau yn creu diwygiad. Ond fe fyddai yn sicr yn foddion i gysoni a thargedu adnoddau. Yn bwysicach o lawer na hynny, byddai yn ein rhyddhau ni o hualau rhai traddodiadau ac arferion, er mwyn hoelio ein sylw a'n teyrngarwch ar Grist. parhadodud9 Ystafell molchi hufen. Hi ifanc Just mewn pryd, dwr yn dechrau oeri JR. Cegin 6 Cam o'r Nant. Fi Bytwch y tost na wir, mae hi bron yn naw. Hi bach Fi bia'r un heb ei losgi. Fobach Nafi. Fo Gogoniant! Be mae rhaid i mi wneud i'ch cael chi i wrando, wn i ddim! Hi bach Sori. Fo bach Be da chi isio medal am drio! Fo Ydw i'n edrych yn wirion neu rywbeth? Stiwdio 3 Bangor. JR Ac ar hynna mae hi'n amser tewi unwaith eto, ar ol y newyddion mi fydd Irfon Jones yma efo papur a'i baned, ond o stiwdio Bwrw Golwg, am y tro, hwyl fawr i chi a da bo chi i gyd. MD Jingl hen wlad fy nhadau! Ystafell wely Fo Mh! Chhhhhhhhhhh! Hi Chhhhhhhhhhhhhh!