Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr ail mewn cyfres o chwe astudiaeth Feiblaidd ar: Golwg ar rai o ddamhegion Iesu Y Gweithwyr yn y Winllan' Y GWEITHWYR YN Y WINLLAN (Mathew 20:1-15) Fel y pâr o ddamhegion a drafodwyd yn ysgrif gyntaf y gyfres hon, y mae'r ddameg sydd dan sylw yn awr yn un a gofnodir yn Efengyl Mathew yn unig. Y mae'r Efengylydd yn ei chynnwys mewn araith gyfansawdd (Mth. 19:23 20:16) a briodolir i Iesu wrth annerch ei ddisgyblion. Un o nodweddion Efengyl Mathew yw hoffter ei hawdur o drefnu dysgeidiaeth Iesu mewn areithiau cyfansawdd fel hyn, gan gyfuno mewn un "araith" artiffisial amryw ddywediadau a damhegion a lefarwyd yn wreiddiol mewn amrywiol gysylltiadau ac wrth amrywiol gynulleidfaoedd. Yr enghraifft amlycaf o hyn yw'r "Bregeth ar y Mynydd" yn 5:1 -7:27, ond gweler hefyd 10:5-42; 13:1-52; 18:1-35; 23:1-39; a 24:3 25:46. Golyga hyn fod ambell ddywediad neu ddameg, a lefarwyd yn wreiddiol mewn sefyllfa benodol ac wrth un math o gynulleidfa, wedi ei arallgyfeirio, yn nhrefniant golygyddol Mathew, i sefyllfa wahanol ac at gynulleidfa wahanol. Ym marn llawer o esbonwyr cyfoes, dyma'r hyn a ddigwyddodd yn achos dameg Y Gweithwyr yn y Winllan. Gan hynny, cyn y gellir canfod neges wreiddiol y ddameg fel rhan o genadwri Iesu ynglyn â Theyrnas Dduw, y mae'n rhaid ei datgysylltu o'i chyd-destun yn yr Efengyl a'i thrin fel uned ynddi ei hun (sef 20:1-15), i'w dehongli yng ngoleuni tystiolaeth gyffredinol yr Efengylau parthed dysgeidiaeth Iesu am y Deyrnas. Nid yw'r adnod 20:16 yn rhan o'r ddameg wreiddiol; yn wir nid yw'r geiriau canys llawer sydd wedieugalw, acychydig wedi eu dewis" a welir fel ail hanner i adn. 16 yn fersiwn traddodiadol y Beibl Cymraeg a'r Fersiwn Awdurdodedig Saesneg yn perthyn hyd yn oed i destun gwreiddiol Efengyl Mathew (dyna pam na welir mohonynt yn BCN a'r fersiynau modern Saesneg). Perthyn y mae adn. 16, fel y ceir hi yn BCN, i ymgais yr Efengylydd i gymhwyso'r ddameg i sefyllfa disgyblion Iesu, gan mai'r hyn a wneir ynddi yw ailadrodd y dywediad sydd i'w gweld yn union o flaen y ddameg (19:30). A'r gwir yw nad yw'r dywediad hwnnw er nad oes rheswm o gwbl i wadu ei ddilysrwydd fel rhan o ddysgeidiaeth Iesu (fe'i gwelir eto yn Lc 13:30) yn gyson â neges y ddameg yn 20:1-15. Oherwydd pwynt y ddameg yw, nid bod "yrhaiolaf' (sef y gweithwyr a lafuriodd am un awr yn unig ar ddiwedd y dydd) yn achub y blaen ar lIy rhai cyntaf' (sef y rhai a weithiodd am ddiwrnod llawn o ddeuddeg awr) trwy dderbyn gwell gwobrna hwy, ond bod yr holl weithwyr yn derbyn gwobr gyfartal, sef un darn arian (y gan Owen E Evans denarius Rhufeinig) yr un. Hynny oedd y cyflog cydnabyddedig (yr "agreedwage neu'r "union rate/'íeì petai!) ym Mhalestina'r ganrif gyntaf am ddiwrnod llawn o waith ar y tir. O safbwynt dynol ni ellir rhyfeddu bod y gweithwyr a oedd wedi "llafurio drwy'r dydd yn y gwres tanbaid' yn cwyno a honni eu bod wedi cael cam, wrth weld y segurwyr a gyflogwyd am yr un awr olaf o'r dydd yn unig yn derbyn yr un maint o gyflog â hwy eu hunain (adn, 12). YngngeiriauT.W.Manson, "The policy of the householderis neitherstrictjustice norsound economics Ychwanega Manson, fodd bynnag, y sylw mai peth ffodus i'r rhelyw ohonom yw nad ar dir cyfiawnder llym ac economeg gytbwys y mae Duw yn ymdrin â ni (cymh. Salm 103:10). Ac os ydym i ddeall neges y ddameg hon, y mae'n hollbwysig sylweddoli nad ymdrin â phwnc economaidd yw amcan Iesu, ond cyhoeddi neges ysbrydol. Nid hyfforddi ei wrandawyr sut y dylent hwydalu i'w gweision yn hyn o fyd y mae, ond egluro iddynt sut y mae Duwyn gwobrwyo deiliaid ei Deyrnas ysbrydol ef. Ac IInid fy meddyliau iyw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrddi, medd yr Arglwydd" (Eseia 55:8). Defnyddio stori ddychmygol a stori anghredadwy o safbwynt dynol y mae Iesu fel cyfrwng i ddarlunio'r modd y mae Duw yn gwobrwyo'r rhai sy'n ymateb i'w alwad i ymrestru yn ei wasanaeth a gweithio yng ngwinllan ei Deyrnas ef. Ac y mae'r ddameg yn dweud tri pheth am y modd hwnnw: 1. Yr un un yw'r wobr i bawb yn ddiwahaniaeth. Nid yw maint a gwerth y wobr yn amrywio yn ôl maint a gwerth y gwasanaeth a gyflawnwyd. Oherwydd nid yn ôl teilyngdody mae Duw yn talu i'w weision, ond yn ôl gras a hanfod gras yw mai rhywbeth heb ei haeddu na'i deilyngu ydyw. Ac nid yw'r wobr sydd gan Dduw ar gyfer ei weision yn un y gellirei darnio a'i rhannu, gan roi cyfran o faint arbennig i un a chyfran o faint gwahanol, boed fwy neu lai, i un arall, Gwobr Duw i'w weision yw eu gwneud yn wrthrychau ei gariad tadol ac yn etifeddion ei Deyrnas frenhinol (cartrefy Tad nefol yw teyrnasy Brenin dwyfol). Gwobr yw hon sydd, o ran ei hanfod, yn un y mae'n rhaid ei chael yn gyfan neu beidio â'i chael o gwbl. 2. Ni all neb a dderbyniodd y wobr hon fyth honni iddo gael cam. "Gyfaill, nid wyfyngwneudcam â thi. Onidam un darn ariany cytunaistâ mi? Cymeryrhyn sydd iti a dos ymaith." A chaniatáu bod y gweithwyr a fu yn y winllan trwy'r