Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dydd wedi llawn deilyngu eu cyflog o un darn arian, nid oeddent wedi cael cam, gan mai dyna'r cyflog yr oeddent hwy eu hunain wedi cytuno'n berffaith fodlon amo yn y bore bach (adn. 1-2). Llai fyth y gall y sawl a dderbyniodd wobr Duw i'w weision y wobr o ddod yn wrthrych cariad tadol Duw ac yn etifedd holl freintiau a bendithion Teyrnas Dduw honni ei fod wedi cael cam. Pwy allai feiddio honni ei fod wedi teilyngu'r fath wobr, pa faint bynnag o wasanaeth a gyflawnodd. Pwy bynnag sy'n derbyn y wobr hon, ei derbyn trwy ras y mae, ac nid trwy unrhyw haeddiant o'r eiddo'i hun. A'r unig ymateb gweddus ar ei ran yw ei derbyn yn ostyngedig a llawen, ag ymdeimlad o ddiolchgarwch cywir. Rhyfyg i'r eithaf fyddai i'r fath un honni iddo gael cam. 3. Gan hynny, ni pherthyn i neb a dderbyniodd wobr Duw rwgnach os gwêl Duw yn dda roi i rywun arall rhywun sy'n ymddangos, efallai, yn llai teilwng nag ef ei hun yr un wobr yn union ag a gafodd yntau. Nid oes gan neb ac eithrio Duw hawl i ddweud wrthym pwy sydd i fod yn wrthrych ein cariad; nyni ein hunain biau'r hawl i ddewis pwy a garwn. Llai fyth y mae gan neb hawl i ddweud wrth Dduw pwy sydd i fod yn wrthrychau ei gariad ef. Duw biau ei Deyrnas, ac eiddo ef yn unig yw'r hawl i benderfynu pwy sydd i gael lle yn ei Deymas. (gw. adn. 14b 15a). Yn y llinell glo (adn. 15b), sy'n anelu saeth ei chenadwri hanfodol, y gwelir ergyd y ddameg. Idiom RYDYM YN CHWILIO AM EMYN AC EMYN-DÔN MEWN UNRHYW ARDDULL, GAN UNIGOLION NEU RAI YN GWEITHIO MEWN PARAU, l'w CYFLWYNO AR DÂP NEU AR FFURF ERWYDD. Y DYDDIAD CAU YW EBRILL 20 2000 Teledu Elidir, Plas Gwynt, Clôs Sophia, Caerdydd. CF1 9TD Ffôn: 01222 378578 Ffacs: 01222 252625 Hebraeg, sy n golygu ysbryd crintachlyd, cenfigennus, yw'r ymadrodd y mae'r hen gyfieithiad Cymraeg yn ei drosi'n llythrennol fel llygad drwg" darlleniad y RSV Saesneg yw "Doyou begrudge my generosity?" Yng ngoleuni'r ergyd hon barnodd Jeremias ac esbonwyr eraill ar y damhegion mai wrth ei wrthwynebwyr Phariseaidd yn hytrach na'i ddisgyblion y llefarodd Iesu'r ddameg yng nghyd-destun ei weinidogaeth ef ei hun. Golyga hynny fod dameg Y Gweithwyr yn y Winllan yn perthyn i'r un dosbarth â'r damhegion a gofnodir yn Luc 15, a lefarwyd wrth y Phariseaid a'r ysgrifenyddion a oedd yn grwgnach ymhlith ei gilydd, gan ddweud, Ymaehwnyn croesawu pechadurìald ac yn cydfwyta â hwÿ' (Lc. 15:2). Cynrychioli'r grwgnachwyr hynny y mae'r mab hynaf a ddigiodd a gwrthod mynd i mewn i'r wledd a baratôdd y tad i'r mab colledig (Lc. 15:28); digiodd am fod rhywun a ystyriai'n llai teilwng nag ef ei hun yn cael mwynhau'r un bendithion ag ef ei hun (cymh, agwedd Jona a alwyd gan rywun yn "fab hynaf" yr H.D yn Jona 4:1). Onid cynrychioli'r un agwedd hunangyfiawn a chrintachlyd y mae'r grwgnachwyr a ddarlunir (adn. 11-12) yn nameg Y Gweithwyr yn y Winllan? Rhybudd yw'r ddameg hon i'r rheini yng nghyfnod gweinidogaeth Iesu, ac i'r rheini ym mhob oes a 11e, sydd yn eu hunangyfiawnder balch yn ceisio gwneud math o "siop gaeëdig" o Deyrnas Dduw, gan gadw ei bendithion iddynt eu hunain a chau allan bawb nad ydynt yn eu barn hwy yn deilwng eu cau allan er gwaethaf y ffaith bod Duw ei hun yn eu gwahodd i mewn. DECHRAU CANU DECHRAU CANMOL Cystadleuaeth EMYN 2000 GWOBR £ 1,000 AM RACOR O FANYLION CYSYLLTWCH A: elidirẃ celtic.co.uk www.dechraucanu.co.uk