Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trwy Lygaid Lleygwr gan G Elwyn Richards Yr ail ysgrif mewn cyfres pan y bydd lleygwr o Babydd yn edrych ar sylfeini'r ffydd. Dywedodd un a dreuliodd flynyddoedd yn hyfforddi lleygwyr, "Dylem groesawu bod lleygwr yn rhannu ei feddwl a'i brofiad fel hyn â ni". Gwybodaeth Gellir dweud mai'r ochr arall i ddirgelwch yw gwybodaeth. Fe gawn bod geiriau llymaf yr Arglwydd Iesu wedi'u hanelu at y rheiny oedd yn dewis anwybyddu'r gwirionedd oedd yn syllu arnynt. Cyhoeddodd wrth drigolion Jerusalem na fyddai garreg wrth garreg yn sefyll am na wyddent "ypethau a berthynent i'w heddwch" "Byddeichgelynionyn eich sathru am nad oeddechyngwybodbodamserDuw wedi dod." Am nad oedden ni'n gwybod! 1. Mae yna bethau nad ydyn ni'n eu gwybod ac y dylen ni eu gwybod. Dywedodd hen wraig fach unwaith ei bod yn priodoli ei bywyd hir i'r ffaith ei bod wedi'i geni cyn iddyn nhw ddarganfod hadau heintus. A ydy hynny mor ddwl ag y mae'n swnio? Mewn gwirionedd, fe all ein hanwybodaeth ein lladd, e.e. os nad ydyn ni'n gwybod bod y wifren frown yn y plwg trydan yn fyw! Ond fe wyddom i gyd nad wiw i ni gredu, "Melys pob anwybod", dyna paham mae yna bwyslais aruthrol wedi bod ar addysg ar hyd yr oesau, ac ar hawl pob dinesydd i'r addysg orau posib. Mae'r dydd wedi hen fynd heibio pan fyddai pobl yn derbyn yr Efengyl yn ei chrynswth. Heddiw, mae'n rhaid i ni ddadlau'r ffydd fesul pwnc neu athrawiaeth, yn erbyn pob anghrediniwr. Ac i ddadlau mae'n rhaid i ni wybod ein testun. "Aτıτ nad oeddech chi'n gwybod', medd yr Iesu. Beth rydych chi'n ei gredu yw anghrediniaeth" 2. Yn ail, mae yna bethau y credwn ein bod yn eu gwybod ond dydyn ni ddim. Yn ein siop-gwerthu-llysiau y dydd o'r blaen, roedd yna arwydd ar y bocs afalau "As English as St. George". Efallai ei fod yn Sais da ond roedd e'n anghywir. Os bu yna sant o'r enw George, Libiad oedd e! Mae'n ddiddorol, ond dydy, i sylwi ar y pethau mae dynion yn eu cymryd yn ganiataol fel gwirionedd ac yn aml dydyn nhw ddim yn dal dwr. "Mae pawb yn gwybod", medden ni. Er enghraifft, mae pawb yn cysylltu'r cymal "Elementary, my dear Watson" â Sherlock Holmes, ond ddywedodd e erioed y geiriau yna yn un o'r storiau. Ac yna mae pawb yn credu bod Delila wedi torri gwallt Samson i'w amddifadu o'i nerth gorchestol, ond y barbwr a dorrodd ei wallt ar orchymyn Delila. Does dim diwedd i'r wybodaeth anghywir yma. Pwy oedd y dyn cyntaf i hedfan dros yr Iwerydd? Nid Lindbergh fe oedd y 67ed. Nid Edison a ddarganfu y bwlb trydan ond Sir Joseph Swann. Ac ni arwyddodd y Brenin John y Magna Carta. Medrai e ddim ysgrifennu! Ac nid o wydr y gwnaed esgidiau Cinderella, ond o ffwr carlwm. Fe gam-gyfieithwyd y gair o'r stori wreiddiol yn y Ffrangeg. Mae hyn i gyd yn hwyl diniwed efallai, ond mae yna wybodaeth anghywir sy'n esgor ar ragfarn gul, sef ffurfio opiniwn cryf ynghylch rhywbeth, heb wirio'r ffeithiau yn gyntaf. Y gair yn ôl y seicolegwyr am hyn yw ystrydeb (stereotyping) y pechod o garcharu pobl mewn ffrâm ddychanol. 3. Yn drydydd, mae yna bethau na fynnwn eu gwybod. Rwy'n siwr ein bod yn eithaf cyfarwydd â darllen y llythyrau yn y Wasg sy'n cwyno am gynnwys trist y newyddion a'r rhaglenni dogfennol. "Mae gynnon ni ddigon o drafferthion gartre' heb ddangos lluniau o blant bach newynog Sudan, neu ffoaduriaid Kosovo, neu bobl ifainc di-gartre' yn cysgu ar y palmentydd". Dydy pobl ddim eisiau gwybod! Efallai eich bod yn cofio am, neu ddarllen am neu wylio'r rhaglen am Hitler a'i gadfridogion yn y 'bunker' yn ystod dyddiau olaf y rhyfel. Roedden nhw'n astudio map enfawr o' r ffrynt Rwsaidd. Dyna lle'r oedd Hitler yn symud y symbolau oedd yn sefyll am ei fyddinoedd ar y map, tra roedd y swyddogion yn dawedog ac yn rhy ofnus i roi gwybod iddo nad oedd y byddinoedd yma'n bod bellach. Doedd Hitler ddim am wynebu'r ffeithiau moel oedd yn cyhoeddi bod y diwedd ar fin dod! Calon yr Efengyl yw bod Crist wedi byw ac wedi marw dros bechaduriaid y byd hwn. Fe ddaeth i'n gwaredu, ac fe all ein gwaredu o bopeth ond ein breuddwydion ffals. Ni all hyd yn oed Crist achub byd o ffantasi. Mae yna gymal ystyrlon iawn yn nameg y Mab Afradlon. Roedd e yng ngwlad y moch a'r cibau ac yna "Pan ddaeth ato'ihun fe aeth adre at ei dad'. Pan ddaeth yn ôl i'w iawn bwyll, roedd e unwaith eto yn ymwneud â'r byd real ac o fewn cyrraedd achubiaeth. Ond tra roedd e ym myd dychymyg roedd e'n anghyraeddadwy. Y pethau na fynnwn eu gwybod! 4. Yn bedwerydd, mae yna bethau nas gallwn eu gwybod. Pan oeddwn yn sôn am ddirgelwch, fe wnaed y pwynt bod Cristionogaeth, er yn gorff o wybodaeth sy'n egluro llawer o bethau amdanom ni a'r byd hwn, eto, ddim yn gwneud y camgymeriad o dreio egluro popeth. Mae'n iawn iddo fod yn dawedog ynglyn â'r elfen ddirgel mewn bywyd nid am beth sy'n anhysbys hyd nes bydd y gwybodusion yn rhoi gwybod i ni ond ynglyn â'r hyn a fydd o hyd yn ddirgelwch y dirgelwch sydd i'w gael y tu hwnt i ffiniau presennol gwybodaeth ond sy'n bodoli yng nghalon y pethau symlaf a'r profiadau mwyaf cyffredin bywyd bob dydd. Nid yn unig mae yna Ie i ddirgelwch mewn Cristionogaeth, ond yn hytrach,