Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Llais y Doctor' Detholiad o Waith Cyhoeddedig Cymraeg D. Martyn Lloyd-Jones' Gwasg Bryntirion, 1999, t.t. 168, E8.99 Yn ystod y deunaw mlynedd wedi marw'r Parchg. Ddr. Martyn Lloyd Jones, cafwyd cofiannau Saesneg iddo gan lain Murray; yn wir, trwy'r iaith Saesneg y rhoddwyd y mynegiant amlycaf i'w waith cyhoeddedig. Da o beth, felly, oedd casglu ynghyd mewn un gyfrol rai o ysgrifau'r Doctor yn y Gymraeg. Dyma 'gig' y gyfrol hon, a brechdan gynhaliol o boptu'r 'cig' hwnnw yw'r Rhagymadrodd pwrpasol gan Noel Gibbard ar ddechrau'r llyfr, a llyfryddiaeth werthfawr gan E. Wyn James ar y diwedd, ynghyd ag ysgrif ar 'Dr. Martyn y Pregethwr' gan Emyr Roberts, ac atgofion Mari Jones, Llanymawddwy am oriau diddan yr hamddena. Cribiniwyd y deunydd ynghyd i wneud cyfrol ddeniadol a darllenadwy. Ar y clawr gosodwyd llun o'r Doctor yn wr ifanc 32 oed, er mai'r llun ohono'n 78 oed yn ei het pregethwr wrth Fwlch-y-groes ger Llanymawddwy yw'r un y bydd y rhelyw o ddarllenwyr yn ei gofio orau. Yn ei ddydd yr oedd Dr. Martyn yn bregethwr a dynnai dyrfa i wrando arno yn y ddwy iaith. Ai llawer i Gapel Westminster i'w glywed pan aent ar dro i Lundain, a phregethai'n flynyddol mewn amryw ganolfannau yng Nghymru. Y tu ôl i'r ysgrifau ceir amlinell foel o'r dyn ei hun, nid yn unig trwy gyfrwng yr ysgrif gyntaf un ('Y Llwybrau Gynt') ond yn ogystal yn ADOLyGIADAU y rhai lle ceir yr awdur yn trafod ei gred a'i ffydd. Yr hyn sy'n ddadlennol yw y down i'w adnabod lawn cystal yn ei ysgrifau polemig ag yn y rhai amddiffynnol. Go brin y disgwylid dim gwahanol gan fod person sy'n argyhoeddedig fod y gwirionedd ganddo yn debygol o fod yn llawdrwm ar unrhyw syniadaeth sy'n fygythiad i'w safbwynt. Mae'r wedd bolemig yn halltu sawl ysgrif: polemig yn erbyn dylanwad Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr ("un o'r prif ffactorau sydd wedi achosi'r sefyllfa echrydus bresennol yng Nghymru") yn erbyn y Mudiad Eciwmenaidd ("agwedd y bobl eciwmenaidd yw dweud bod eisiau dod a'r sefydliadau sydd mewn bod ar hyn o bryd at ei gilydd, a'u gwneud yn un. Ond mae'r dyn efengylaidd yn dechrau o safbwynt arall, gyda'i syniad ef am eglwys, sef cynulliad o saint. Cael y saintynghyd yw ei broblem ef'); yn erbyn merched yn pregethu ("Pan ddywed [Paul] nad oes na gwryw na benyw, nid dweud y mae fod dynion a merched bellach yn gyfartal ac felly y dylid cael merched i bregethu"). Ond neilltuodd y polemig pennaf ar gyfer Pabyddiaeth gan arllwys yr halen ar "y sefydliad erchyll, y 'butain fawr' a'i geilw ei hun yn Eglwys Rufain". Ai pregethwr "esboniadol" oedd Dr. Martyn? Dyna'r term a ddefnyddir gan Emyr Roberts yn ei ysgrif 'Y Pregethwr': "Am ddull ei bregethu, yn gyntaf o11 roedd yn esboniadol". Ond rhaid clymu'r haeriad hwnnw â gosodiad arall yn yr un ysgrif: "Roedd pob pregeth ganddo yn rhwym o ffitio i gyfundrefn gyfan o ddiwinyddiaeth Feiblaidd". Digon gwir, ond droeon fe deimlais wrth ei wrando fod yr Ysgrythur ei hun yn cael ei hystwytho i ffitio i gyfundrefn o ddiwinyddiaeth arbennig. Teimlais hynny eto wrth ddarllen yr unig bregeth o'i eiddo a gynhwysir yn y gyfrol hon, sef hanes Jacob yn ymgodymu yn Penuel. Mor rhwydd y temtir pregethwr i ddarllen yr Ysgrythur yng ngoleuni ei ragdyb diwinyddol. Maurice Loader Y Beibl Graffig, Addasiad Cymraeg: Gwion Hallam a Meirion Morris, Cyhoeddiadau'r Gair, 1999, t.t. 260, £ 17.95 Rwyf yn hoff o'r llyfr. Credaf bod yr animeiddio yn arbennig o dda, a phob llun wedi ei dynnu'n dda. Mae'r lliwiau yn creu emosiynau ac yn cyfleu teimlad ac awyrgylch a naws. Yn sicr, mae'r llyfr yma wedi dod â'r straeon yr wyf wedi'u darllen yn y Beibl, hyd yn oed y rhai mwyaf cyfarwydd yn fwy byw drwy greu cymeriadau cofiadwy. Dwi'n siwr y buasai copi o'r llyfr hwn yn gymorth yn yr ysgol Sul a'r ysgol, a chredaf y bydd gystal â'r Beibl i Blant ar gyfer ennyn diddordeb. Efallai y byddai'n syniad i gael mynegai i'r llyfr. Wn i ddim ychwaith pam bod rhai geiriau wedi eu hysgrifennu a theip trymach yn y dialog, nid oes na gwerth na chysondeb i hynny hyd y gwelaf i. Ond teimlaf bod y llyfr yn symud y Beibl i fyd llyfrau heddiw. Buaswn yn argymell y llyfr i'm ffrindiau. Hoffwn gael copi i mi fy hun. Lludd ap Iwan Angylion Y Pasg, Emily Huws, Cyhoeddiadau'r Gair, 2000, t. t. 36, E4.95 Nid wyf yn siwr at ba oed y mae'r llyfr wedi ei anelu. Ar un llaw mae'r ysgrifen fawr a'r lluniau lliwgar bob