Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn ail dudalen yn awgrymu ei fod wedi ei anelu at blant ifanc, tra bod y stori ar y llaw arall yn ychydig yn fwy cymhleth ac yn awgrymu ei fod ar gyfer plant hyn. Adrodd darn o stori'r Pasg y mae'r llyfr, neu'n hytrach estyniad dychmygol arni. Mae'r lluniau yn lliwgar ond gyda chryn duedd at fod yn hoff iawn o oren ac o felyn gydag angel gwallt melyn melyn ystrydebol. Mae'r stori yn sôn am ddau angel Candriel a Shacath sy'n cael cyfarwyddyd i fod yn rhan o stori'r atgyfodiad a bod Shacath yn cael cyhoeddi i'r gwragedd fod Crist wedi atgyfodi. Nid yw'r stori yn hynod o gyffrous, ond ychydig o dudalennau ydyw prun bynnag: "A daeth Angel Marwolaeth [Shacath] yn Angel Bywyd, am byth bythoedd." Apocryffa newydd mewn gwirionedd gyda'r angylion yn ddynol iawn eu ffordd. Tybed a allai'r stori fod efallai'n gamarweiniol i blant ifanc, ac y gallent ei drysu â stori go iawn o'r Beibl? Indeg Wyn Wrestling and Resting: Exploring stories of spirituality from Britain and Ireland. Gol. Ruth Harvey, CTBI, Llundain, 1999, tt. 258, £ 13.95. Un o baradocsau'r cyfnod hwn yw'r cynnydd amlwg yn y diddordeb mewn ysbrydoledd ar yr un pryd â'r dirywiad mwy amlwg mewn crefydd a chrefydda cyfundrefnol. Tra bo pobl yn cefnu ar yr eglwysi a'u sefydliadau, y maent ar yr un pryd yn troi fwyfwy at ffurfiau newydd a gwahanol o fynegi bywyd yr ysbryd. A 'does dim prinder llyfrau i ddiwallu'r sychder am wybodaeth a chyfarwyddyd ynglyn â gwahanol agweddau ar y pwnc. Un o'r diweddaraf yw'r gyfrol hon, sef casgliad o storïau gan hanner cant a mwy o gyfranwyr am ddarganfyddiadau a datblygiadau yn eu profiad ysbrydol hwy eu hunain. Dyma'r hyn a alwyd ers talwm yn ddweud profiad, y math o beth y byddai pobl yn ei wneud mewn seiat. Ond yr ymadrodd ffasiynol heddiw yw dweud eich stori. Mae'r storïau hyn yn amrywio'n fawr yn eu hansawdd a'u gwerth. Magwyd Regan von Schweitzer yn Babyddes, ond wedi cyfnod o ddylanwad Iddewig, o berthyn i gôr Eglwys Gadeiriol Guildford, lle cafodd ei thramgwyddo gan agwedd yr awdurdodau at aelodau benywaidd o'r côr, cefnodd ar y sefydliad eglwysig yn gyfangwbl a chofleidiodd Ysbrydoledd y Greadigaeth ar ôl darllen gwaith Matthew Fox. Stori arbennig o afaelgar yw profiad John Hull, Athro Addysg Grefyddol ym Mhrifysgol Birmingham. Collodd ei olwg yn wr ifanc, ac y mae'n disgrifio fel y daeth i 'weld' ystyr gwahanol i fywyd ac i ffydd trwy ei ddallineb. Yr hyn sy'n creu dallineb ysbrydol yn ein diwylliant cyfoes, meddai, yw'r ysfa am arian a chyfoeth sy'n rhwystro pobl rhag gweld a gwerthfawrogi beth sydd o wir werth. Yn ddiddorol iawn y mae John Hull yn aelod ffyddlon o Eglwys Loegr a hefyd yn flaenor yn yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig. Adran werthfawr yw 'Gwerddon i'r Enaid', sef cyfraniadau yn ymwneud â gweddi, myfyrdod a meithrin y bywyd mewnol: Eliza Forder, a sefydlodd Ganolfan Fyfyrdod ym mhentref Dent yn Swydd Efrog yn dadlau pa mor bwysig yw dysgu myfyrio; Janet Lees, Gweinidog URC, yn sôn am werth distawrwydd i dreiddio at hanfod dirgelwch; Alun Davies, Crynwr, yn sôn am bwysigrwydd gwrando, hyd yn oed yng nghanol swn a phrysurdeb gwaith bob dydd; ac Elizabeth Templeton, Darlithydd mewn Diwinyddiaeth, yn apelio at Gristnogion i werthfawrogi ysbrydoledd secwlar, hynny yw, yr ymwybyddiaeth o'r da a'r prydferth ym myd natur, yn y celfyddydau ac yng ngweithiau rhai anffyddwyr, megis Iris Murdock a Patrick White. Ceir storïau diddorol o Gymru, gan Saunders Davies, Fiona Liddell a Gethin Rhys, a Nia Rhosier, a'u cyfraniadau'n ymddangos yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. Gwerth y gyfrol hon yw ei bod yn adlewyrchu'r math o ddatblygiad sy'n digwydd ym myd ysbrydoledd ar hyn o bryd. Y diffiniad traddodiadol o ysbrydoledd oedd astudiaeth o weddi a defosiwn a dulliau o feithrin y bywyd mewnol. Erbyn hyn diffinir y pwnc yn llawer ehangach. 'Ymchwil sylfaenol am ffordd o wneud synnwyr o'r byd yn ei ffurf materol ac ysbrydol,' yw'r diffiniad a geir yn y gyfrol hon. Pwysleisir hefyd fod y diddordeb newydd mewn ysbrydoledd yn rhydd o unrhyw gyfyngiadau enwadol ac yn codi uwchlaw ffiniau eglwysig, os nad yn wir yn eu gwrthod yn llwyr. Ond o bosib mai'r pwynt pwysicaf a wneir yw fod ysbrydoledd bellach wedi peidio â bod yn ddiddordeb esoterig o fewn ffiniau mynachdy, ac wedi cydio yn nychymyg pobl o bob haen o gymdeithas ac o bob math o alwedigaethau. Y mae felly yn ysbrydoledd 'oddi isod', yn codi o brofiadau bob dydd o fyw a gweithio, o ddioddef a dathlu, o ymgyrchu ac ymlacio, ond y profiadau hyn yn cyfeirio at ddimensiwn 'arall' ac yn awgrymu fod i fywyd ddyfnder ac arwyddocâd sy'n rhoi ystyr a chyfeiriad i'r cyfan. Pan ddywedodd myfyriwr diwinyddol wrth y Prifathro David Phillips, Y Bala, ers talwm, nad oedd erioed wedi cael profiad ysbrydol mawr, yr ateb a gafodd oedd, 'Y rheswm am hynny yw dy fod wedi gwneud cyn lleied o'th brofiadau bychain!' Profiadau bychain gan fwyaf a groniclir yn y casgliad hwn, ond fod y rhai sy'n eu hadrodd wedi gweld ynddynt werth ac arwyddocâd sydd wedi eu harwain i brofiadau uwch. O bori ynddynt hwyrach y cawn ninnau help i ganfod y cysegredig yn y cyffredin a'r sanctaidd yn y syml yn ein profiadau ein hunain. Elfed ap N Roberts