Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gogoneddus Arglwydd, Henffych Well! Detholiad o ryddiaith a barddoniaeth Gristnogol Gymraeg drwy'r Canrifoedd, golygwyd gan Gwynn ap Gwilym, Pwyllgor Darlleniadau Beiblaidd CYTÛN, £ 16.50 Cyfrol gyfoethog tu hwnt yw hon. Mae'n rhychwantu'r traddodiad Cristnogol Cymraeg o englynion Juvencus hyd at awduron cyfoes fel Maurice Loader, Gwyn Thomas ac Alan Llwyd. Rhennir y llyfr yn bump adran: y cyntaf o ddeunydd a ysgrifennwyd cyn 1499 a detholiad arall ar gyfer pob canrif ar ôl hynny. Mae'r cynnwys cytbwys a hynod o ddiddorol yn adlewyrchu ysgolheictod y detholwyr: y diweddar J.E. Caerwyn Williams, R. Brinley Jones, y diweddar R.Tudur Jones, Derec Llwyd Morgan, Densil Morgan ac Elfed ap Nefydd Roberts. Fe ddaw'r darllenwr o hyd i lawer o drysorau ynddo, yn eu plith rhai sy'n Y Traethodydd Golygydd: Dr. Brynley F. Roberts Cylchgrawn chwarterol yn cynnwys cyfraniadau i feysydd llenyddiaeth, crefydd a'r gymdeithas gyfoes. Ceir ynddo erthyglau goleuedig ar faterion diwinyddol ac athronyddol. Cynhwysir yn ogystal farddoniaeth, ysgrifau, storïau byrion ac adolygiadau. Pantycelyn LÔN DDEWI, CAERNARFON, GWYNEDD LL55 1 ER. Ffôn: (01286) 672018 ddigon adnabyddus ac ambell em annisgwyliadwy. Yn bersonol mae'r gyfrol wedi fy nghyfeirio yn ôl at Homilïau Emrys ap Iwan, tra y byddaf hefyd yn cribo hysbysebion YCasglwr o hyn ymlaen er mwyn dod o hyd i gopi o'r Eglwys Foreuol gan John Pryce. Fe defnyddiais y detholiad yn ystod fy myfyrdod a defosiwn beunyddiol yn y cyfnod cyn y Nadolig a chefais lawer o fudd ganddo. Gobeithio y bydd sawl un arall yn elwa yn yr un ffordd. Ac eto fe ofnaf y bydd cylch prynwyr a darllenwyr y llyfr yn gyfyngedig. Medd y golygydd yn ei gyflwyniad: 'Penderíynwyd o'r dechrau na fyddidyn diweddaru na chywiro dim ar y testunau gwreiddiol. Os oedd awdur ydyfynnido'i waithyn defnyddio ffurfiau anramadegolneuÍ1 camsillafu o safbwynt arferein dyddiauni,ynayroeddyffurfìau hynny i'w gadael heb ymyrryd âhwy. Byddai hynny yn rhoieiflas unigryw ei hun i Gymraeg pob cyfnod. Yrunig eithriad i'r rheol hon oedd y cyfnod cynharafun, lle na byddai darnau nas diweddarwydyn ddeaüadwyi'rrhelyw! Deallaf y rhesymeg tu ôl i'r penderfyniad hwn yn burion. Mae'n rhoi gwerth neilltuol i'r gyfrol fel casgliad o destunau safonol ar gyfer Cylchgrawn Chwarterol Pris pob rhifyn: £ 3.00. arbenigwyr ieithyddol a myfyrwyr diwinyddol. Ond (i droi'r hen Ddaniel wyneb i waered) fe olyga mai llyfr 'i'r doeth a deallus ac nid i'r dyn cyffredin' yw hwn yn y bôn. Fe dybiwn y bydd llawer o'n cyd-Gristnogion Cymraeg sydd wedi cael blas ar gynhyrchiadau eraill y Pwyllgor Darlleniadau Beiblaidd yn dechrau'n obeithiol i ddarllen y llyfr hwn ond wedyn yn rhoi'r ffidil yn y to ar ôl ymlwybro yn araf ac yn boenus ar draws canrif neu ddwy. Efallai y byddai'n syniad da i gyhoeddi llyfryn (neu gyfres o lyfrynnau) yn cynnwys pigion addas o'r gyfrol mewn orgraff gyfoes fel deunydd defosiynol i gyrraedd anghenion cynulleidfa ehangach. Cofeb deilwng i gyfoeth traddodiad Cristnogol Cymraeg y gorffennol yw Gogoneddus Arglwydd, Henffych Well! Ond mae hefyd yn gosod her arbennig i ni sydd â'r cyfrifoldeb i gynnal a hyrwyddo Cristnogaeth Cymru yn ystod y ganrif newydd. Ac fel yr awgryma'r gyfrol hon fe fydd rhaid i ni ddwysáu ansawdd ein bywyd ysbrydol fel unigolion ac eglwysi er mwyn ymateb yn effeithiol i'r sialens. Patrìck Thomas, Brechfa Y Diweddaraf o Gyfres Llên y Lienor LLÊN Y LLENOR Caradog Prichard Mihangel Morgan