Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ENW EIN DUW Arweinydd: Y mae'r Arglwydd yma: Pawb: Y mae Duw yn ein plith. Arwemydd: Disgwyliwn yn dawel Pawb: Arglwydd, nesá atom. Distawrwydd Meddyliwch am y presenoldeb dwyfol sydd o'ch cwmpas ac ynoch ac yn eich clymu ynghyd. Canuyn dawel a gweddigar E'enaid mola Dduw!' (Taizé, o Grym Mawl2, Rhifll) Arweinydd: Gwyddom, Arglwydd, dy fod yma; mae dirgelwch dy bresenoldeb yn ein hamgylchynu, Pawb: Y mae'r Arglwydd yn agos at bawb sy'n galw arno, at bawb Arweinydd. Ond ni fedrwn alw arnat heb wybod pwy wyt ti Pawb: Arglwydd Dduw y Lluoedd, yr Arglwydd yw ei enw. Arweinydd Gwyn eu byd y bobl sy'n dy gyfarch ac sy'n gorfoleddu yn dy enw: Pawb: Dywedant, Ein Tad yw ef, ein Duw a chraig ein hiachawdwriaeth. Arweinydd Dywedodd Iesu, pan fyddi di'n gweddïo, dos i mewn i'th ystafell, Pawb: Y mae eich Tad yn gwybod cyn i chwi ofyn iddo beth yw eich Arwänydd: Arglwydd, bydd yn drugarog wrthym Deunydd ar gyfer addoliad grwp (boed yn gynulleidfa fechan, yn grwp defosiwn neu'n gyfarfod gweddi) am yr Arglwydd: a'th agosrwydd yn ein llenwi a'n llonyddu: sy'n galw arno mewn gwirionedd. a beth yw dy enw: ac wedi cau dy ddrws, gweddïa ar dy Dad sydd yn y dirgel: anghenion. diolch i ti am yr hawl i'th gyfarch ac i'th alw'n Dad. Dad tyner a gofalus, dymunwn orffwys yn dy gariad. Dad maddeugar, a rhyddha ni o'n beiau. Dad nerthol, cadw ni rhag pob drwg. Dad nefol, anadla ynom dy fywyd. Dad ein Harglwydd Iesu, clyma ni'n un teulu ynot ti. Amen. TE DEUM Darllen: Y mae Iesu nid yn unig yn ein dysgu i gyfarch Duw fel Tad, ond hefyd i ddefnyddio'r gair a ddefnyddiai pob plentyn bach wrth siarad â'i dad daearol, sef Abba- gair sy'n mynegi perthynas ddofn ac agos. Yn ôl Paul, yr Ysbryd Glân sy'n ein hargyhoeddi ein bod yn blant i Dduw ac yn rhoi inni'r hyder i gyfarch Duw fel 'AbbalDad! Canu: 'Abba Dad, O gad im fod' (Grym Mawl 1) Arweinydd Gweddïwn. Arglwydd, dysg i ni weddïo fel yr wyt ti am inni weddïo: i beidio â bod yn amleiriog, na dangos ein hunain, ond i ddisgwyl wrthyt, i wrando arnat, ac i geisio dy ewyllys ar ein cyfer: Pawb: O Dad, yn y dirgel, gwrando ni. Arweinydd Dysg i ni ymddiried ynot, nid â'n meddwl yn unig, ond â phob rhan o'n bywyd, gan gofio dy fod yn gwybod am ein holl anghenion cyn i ni ofyn dim oddi wrthyt: Pawb: O Dad, yn y dirgel, clyw ein gweddi. Arweinydd: Dysg ni i weddïo dros ofidiau'r byd; i ymestyn allan mewn cariad i'n brodyr a'n chwiorydd yng Nghrist sydd mewn angen ac i fod yn gyfryngau dy dosturi di iddynt: Pawb: O Dad, yn y dirgel, clyw ein cri. Arweinydd Dysg ni trwy dy ras i adlewyrchu dy gariad di i'r byd i eraill dy adnabod: Pawb: Bydded iddynt wybod mai tydi sydd Dduw, ac anrhydeddu dy enw sanctaidd byth ac yn dragywydd. Amen. Rhufeiniaid 8: 1217 ElfedapNRoberts.