Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfres y Mudiadau Dyma ein Gwaith 1. CYMORTH CRISTNOGOL Plant sy'n llunîo ein dyfodol A hithau'n flwyddyn gyntaf canrif newydd a mileniwm newydd, mae Cymorth Cristnogol wedi dewis canolbwyntio ar sefyllfa plant yn y gwledydd tlawd. Bydd deunydd Wythnos Cymorth Cristnogol eleni yn edrych ar fywydau tri o blant o wahanol gyfandiroedd, y tri ohonynt yn wynebu bywyd caled, yn gorfod gweithio er mwyn cynnal eu teuluoedd gan lesteirio eu haddysg a chyfyngu ar eu breuddwydion am y dyfodol Marvin o Nicaragua, Savita o India a Angelique o Rwanda. Savita yn mofyn àwr gyda Yogesh ei brawd bach: Mike Goldtoater Mae Marvin yn byw yn Matagalpa, ynghanol ardal fynyddig y tyfwyr coffi yn Nicaragua. Yn y dref hon hefyd y mae Karen Gonzalez yn byw. Deuddeg oed yw Karen, oedran pan fydd merched Cymru yn mwynhau mynd i'r ysgol bob dydd, yn ymlacio gyda'r hwyr, yn chwarae chwaraeon ar y Sadwrn neu'n mynd i'r sinema ac allan gyda'u cyfoedion. Ond hanes go wahanol sydd i Karen. Fel y mwyafrif o blant yn y gwledydd tlotaf, mae'n rhaid i Karen weithio er mwyn i'w mam fedru gael dau pen llinyn ynghyd. Mae hi'n fwy ffodus na llawer gan ei bod yn medru mynd i'r ysgol am ychydig oriau bob bore ond hynny ar ôl codi am chwech i helpu ei mam gyda'r gwaith ty. Wedi dod allan o'r ysgol ganol dydd, bydd yn mynd yn syth i'r orsaf bysiau i helpu ei mam ar ei stondin lle bydd yn gwerthu diod felys mewn bagiau plastig i'r teithwyr. Bydd Karen yn gwneud hyn bob prynhawn a thrwy'r dydd ar y Sadwrn a'r Sul. "Dyw e ddim yn waith pleserus iawn," ebe Karen. "Bydd y dynion yn rhegi arna'i a'm sarhau yn aml. Ond mae'n rhaid i mi helpu mam fan hyn achos heb fy help i fyddai hi ddim yn gallu ennill digon o arian i'n cadw ni fel teulu." Mae 70% o bobl Nicaragua yn byw mewn tlodi affwysol. Mae'n anodd i bobl ddod o hyd i waith i'w cynnal hwy a'u teuluoedd a chyda rhyw 50% yn methu darllen ac ysgrifennu yn ardal Matagalpa, does ganddyn nhw mo'r sgiliau angenrheidiol i wella'u bywydau. Felly, cânt eu condemnio i fywyd o dlodi, afiechyd a marw cynnar, hwy a'u plant ar eu hôl. Sut all y genhedlaeth newydd dorri allan o'r cylch cythreulig hwn o dlodi diobaith? Dyna'r sialens fawr i bartneriaid Cymorth Cristnogol megis y Ganolfan Cefnogi Plant sy'n Gweithio yn Matagalpa, plant megis Marvin a Karen. Ar ôl gorffen ei gwaith yn yr orsaf bysiau, bydd Karen yn mynd i'r ganolfan ynghyd ag 80 o blant eraill. Heblaw cael pryd o fwyd maethlon a chawod mewn dwr poeth yn y ganolfan, bydd y plant yn cael cyfle i fod yn blant am ychydig bach. Fe gânt chwarae a phaentio, dawnsio ac actio. Mae llawer o'r plant (4 allan o bob 5) yn gadael yr ysgol cyn eu bod yn 12 oed, felly bydd y ganolfan yn darparu gwersi darllen ac ysgrifennu i'r rheiny. Bydd y lleill yn cael help gyda'u gwaith ysgol ac yn bwysicach na dim, fe gânt hyfforddiant a dysgu sgiliau i'w helpu yn eu bywyd y tu allan. Dysgu gwnio y mae Karen a'i breuddwyd yw medru prynu ei pheiriant ei hun ryw ddydd a gwneud dillad ar gyfer eu gwerthu. Yn India, fel yn Nicaragua a chymaint o wledydd tlawd eraill y byd, bydd plant yn gorfod dechrau gweithio pan yn chwech oed ac yn colli allan ar addysg sy'n hanfodol os ydynt i dorri allan o'r cylch tlodi sy'n cyfyngu ar eu gobeithion. Edrych ar ôl ei brawd bach Yogesh yw gwaith Savita sy'n ddeg oed, tra bod ei mam yn gorfod llafurio i gael arian i gynnal ei theulu. Saiúta yn coginio: Mike Goldioater Savita hefyd fydd yn gwneud y gwaith ty. Ond trwy help Ymddiriedolaeth Ashish Gram Rachna, mae Savita yn cael dysgu darllen ac ysgrifennu yn ogystal â chael ei hyfforddi i fod yn aelod cyflawn o gymdeithas. Trwy help plant hyn sydd wedi medru mynd i'r ysgol, bydd y plant llai ffodus yn cael gwersi darllen ac ysgrifennu a byddant yn chwarae rhan yn y "Cyngor Plant" sy'n trafod sut i wella eu cymuned ac yn cael eu hyfforddi i wneud hynny. Cânt ddysgu am lanweithdra a sut i baratoi bwyd maethlon maent wedi ymgyrchu i gael tai bach i'r pentref