Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a chyflenwad dwr glân. Bydd y plant hyn yn cael eu dysgu sut i brofi'r dwr i sicrhau ei fod yn ddigon glân i'w yfed a thrwy hyn byddant yn lleihau perygl afiechydon heintus yn y pentref. Uchelgais Savita ar hyn o bryd yw bod fel ei chyfnither Jyoti sy'n un o'r bobl ifanc sydd wedi'i hyfforddi i brofi'r dwr. Marvin yn glanhau esgidiau: Leah Gordon Dysgu'r plant yma i fod yn ddinasyddion cyfrifol a gadael iddynt freuddwydio am well dyfodol dyna gamp y prosiectau hyn sydd yn gweithio gyda phobl ifanc. Rhoi iddyn nhw gyfle i gael nod mewn bywyd ac y mae rhai yn llawn uchelgais ac yn brwydro i'w gwireddu yn erbyn A ninnau'n byw mewn oes sy'n mynd yn gynyddol gymhleth ac un gyda'r cyfryngau yn disgwyl ymateb a barn ar bopeth dan haul, a hynny mewn dim mwy na thair brawddeg mae perygl mawr i bob rhan o gymdeithas gyflwyno atebion sy'n arwynebol ac yn orsyml. Aethom yn gyfarwydd iawn â chlywed 'tameidiau sain' gan y gwleidyddion yn hytrach na dadleuon sylweddol a chlywsom arbenigwyr mewn sawl maes yn cael eu gwasgu i fynegi eu barn mewn ychydig eiriau ac ychydig eiliadau. Wrth reswm nid oes rhinwedd mewn meithder na rhagoriaeth mewn bod yn amleiriog ac un o gymwynasau y cyfryngau cyfoes yw gorfodi pawb, mewn byd ac eglwys, i fod yn fwy cryno ac i fynegi eu syniadau yn eglur ac yn fyr. Gyda hyn fe fydd hi'n dymor y llysoedd eglwysig ac yn fwy na thebyg bydd nifer o benderfyniadau gerbron, yn enwedig ar faterion cyfoes. Y mae hyn i'w gymeradwyo oherwydd ni all, ac ni ddylai'r Eglwys Gristnogol fod yn dawedog ar faterion mawr ein dydd. Rydym yn rhan o gymdeithas ac fe ddylem geisio rhoddi arweiniad drwy ddehongli cwestiynau'r dydd yng ngoleuni'r Efengyl. Ond un o'r peryglon, dan bwysau'r Y Golygyddol Gocheleryr Atebion Syml pob anhawster. "Mae rhai am fod yn feddygon ac yn nyrsus, eraill am fod yn athrawon", ebe Isabel Gutierrez sy'n rhedeg Canolfan Cefnogi Plant sy'n Gweithio yn Matagalpa. Yn y Ganolfan Cefnogi Plant sy'n Gweithio mae Manún yn dysgu defnyddio peiriant: Leah Gordon Breuddwyd Marvin yw bod yn chwaraewr pêl-droed neu yn deiliwr. Breuddwyd Karen yw "cael gwaith da, ty cysurus, cytgord yn y cartref lle bydd pob un o'r plant yn cael gofal da" ac fe all Cymorth Cristnogol fynd peth o'r ffordd tuag at wireddu eu breuddwyd gyda help y cefnogwyr yma yng Nghymru a thros y Deyrnas Gyfunol sydd yn cyfrannu tuag at waith y mudiad a'i gwneud yn bosibl ariannu gwaith partneriaid fel y Ganolfan Cefnogi Plant sy'n Gweithio ac Ymddiriedolaeth Ashish Gram Rachna. cyfryngau i raddau, yw mynegi barn ar bob pwnc posibl ac oherwydd hynny fodloni ar benderfyniadau byr cyffredinol, rhai un llinell bron 'yn gresynu', 'yn condemnio', 'yn anghymeradwyo'. Wedi gwneud hynny teimlwn yn aml yn smyg gan gredu ein bod wedi cyflwyno'r ateb a rhoddi arweiniad i fyd pechadurus ac anghenus. I'r gwrthwyneb yn llwyr nid oes unrhyw werth gwirioneddol mewn penderfyniadau o'r natur hyn. Dweud yr hyn sy'n amlwg wnant gan roddi cyfle i ni ollwng stem ond prin eu bod yn gyfraniad gwerthfawr na theilwng o'r Eglwys. Byddai'n well aros yn ddistaw na phedlera ystrydebau. Yr hyn y mae angen i eglwysi ei wneud yw ystyried pwnc yn fanwl cyn mynegi barn. Gan amlaf bydd hyn yn golygu llawer o waith caled ac o feddwl trylwyr, o bosibl dros gyfnod o wythnosau os nad misoedd gan ymgynhori gydag arbenigwyr yn y maes. Bydd hyn yn ei dro yn arwain at baratoi dogfen sylweddol a llawn a fydd yn rhoddi arweiniad i aelodau eglwysig ac i'r gymdeithas yn gyffredinol. Ceir digon o dystiolaeth mai papurau yn mesur a phwyso'r sefyllfa gan roddi rhesymau dros farn arbennig yw'r rhai a werthfawrogir fwyaf gan ein haelodau ac arweinwyr pob agwedd ar fywyd cymdeithas. Gan nad oes gan unrhyw eglwys y dyddiau hyn yr adnoddau i ystyried llawer o faterion gwahanol yr un pryd bydd astudio rhai pynciau yn drylwyr yn golygu peidio â mynegi barn ar nifer o bethau. Ni ddylem boeni'n ormodol am hynny. Gwell yw gwneud cyfraniad gwirioneddol mewn ychydig o feysydd na phasio penderfyniadau diwerth ar bopeth dan haul. Byddai'n lles i'n llysoedd eglwysig gymryd sylw o weddi a briodolir i wraig o leian oedrannus, 'Cadw fi rhag meddwl bod yn rhaid imi ddweud rhywbeth ar bob pwnc ac ar bob achlysur'