Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORI'R PASG SUL Pwy sy'n dod hyd y ffordd fach gul? Pwy sy'n dod ar gefn y mul? Rhywun mewn dillad gwyn Sy'n dringo i'r fan hyn. IE­SU! HOSANNA! Taflwn betalau o dan draed Yr hen ful bach a'r Brenin gaed! Chwifiwn y palmwydd uwch Ei ben, Bloeddiwn Ei enw fry i'r nen. IE­SU! Y MESEI-A! IE­SU! HALELIWIA! LLUN Brysiwch i'r Deml! Mae rhywbeth o'i Ie! Byrddau wedi troi a phlu ar hyd y lle. Adar yn rhydd ac arian hyd lawr- Swnian cwynfannus a bytheirio mawr! "Ogof lladron! Codi crocbris am wyn- Ogof lladron! Nid yw hyn ond dwyn!" Ffrom a chwerw oedd Ei eiriau E "Cliriwch dy fy Nhad! Ewch allan o'r lle IE-SU! MESEIA! IE­SU! HALELIWIA! Llun: Martin Roberts STORI'R PASG Cerdd y Mis Yr Awdur Ganwyd Nesta Wyn Jones yn Nolgellau a dychwelodd i'w milltir sgwâr yn Abergeirw i ffermio ym 1980 ar ôl treulio cyfnod yn y Brifysgol ym Mangor, yn gweithio ar Brosiect Cymraeg y Cyngor Ysgolion ac yna yn Aberystwyth gyda'r Cyngor Llyfrau. 'Mi a gymerais wr o Bencaenewydd (Gwilym Jones) ac mae gennyf un ferch, Annest'. Cyhoeddodd bedair cyfrol o farddoniaeth, Cannwyll yn Olau, Ffenest Ddu, Rhwng Chwerthin a Chrio a Dawns y Sêr, a gyhoeddwyd ym mis Awst y llynedd. Y Gerdd Ysgrifennwyd Stori'r Pasg ar gyfer plant Ysgol Gynradd y Ganllwyd ar gais y brifathrawes, Mrs Kerry Parri. Y dymuniad oedd cael darnau o farddoniaeth am bob dydd yn ystod wythnos y Pasg, yn ôl canllawiau'r Cwricwlwm Cenedlaethol, ar gyfer llunio gwaith cerddorol creadigol. Yn y cerddi ceir rhythmau gwahanol, tipyn o ailadrodd a math o gytgan mewn mannau. Bwriedir rhannau i'w canu, llinellau i'w hadrodd ac eraill i'w llafarganu ar ddull 'rap'. MAW Dynion sy'n sylwi ar bob peth mae O'n wneud. Dynion sy'n gwrando ar bob peth mae O'n ddeud. Gwylio' Gwrando' Sbio' Cofio! A rhywrai yn rhedeg at rywrai i gwyno. "A ddylem ni dalu i Gesar ein treth?" Gofynnodd y dyn. "A gwneud hyn yn ddi-feth?" A thu ôl i'w wên, mae na wenwyn yn llechu Ond edrych wna'r Iesu i'w galon, a gwenu. "Rhowch imi ddarn o arian!" medd Ef "Llun pwy sy arno?" "Cesar yw ef." "Os felly," medd Iesu yn dawel a mwyn, "Rhowch ei eiddo i Gesar." A'i wneud dan ei drwyn. IE­SU! Y MESEIA! IE­SU! HALELIWIA! MER Gwêl yr ennaint melyn drud Dywalltwyd heddiw o'r blwch, A'r ferch sydd yno wrth Ei draed Yn plygu'n wylaidd i'r llwch. Wyla wrth olchi traed yr Iesu, Eu sychu a'i gwallt, er mwyn eu cynhesu. Gweithred werthfawr, gweithred ddrud- Eneinio traed Achubwr Byd. Nesta Wyn Jones