Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1. Y Meddyg Hen gwestiwn, hen ystrydeb: a minnau'n cael f'arestio am fod yn Gristion a hynny yn y gwaith, at yr ysgrif hon tybed a fyddant yn cael digon o dystiolaeth i'm cael yn euog? Tybed? Y mae rhyw allanolion yn ddigon amlwg: 'rydym yn gweithio ar yr un safle ag eglwys, ac y mae enw efengylydd i'r gwaith Meddygfa St Mark's Dee View. Eithr damwain ffodus ydyw hyn bu rhaid symud y feddygfa o adeilad arall, rhyw ddeng mlynedd yn ôl. Dee View oedd enw'r hen Ie. Cawsom adeilad pwrpasol ar safle eglwys y plwyf Eglwys St Mark's, a dyna gyfuno'r ddau enw gan obeithio dangos y newid a'r parhad. Cofiwch, y mae manteision dinesig ymarferol wrth gael syrjeri ac eglwys yn yr un lle defnyddio'r un maes parcio, ar adegau gwahanol, yn fwyaf amlwg, ond hefyd ryw gyd-gryfhau o'r syniad mai mannau cyhoeddus, a chroesawus, yw'r ddau. Ond go brin bod hyn yn dystiolaeth ddamniol ( neu achubol!). Dewch i mewn i'r feddygfa felly, i hel tystiolaeth. Mi welwch yn yr ystafell aros englyn mewn ffrâm a hwnnw yn amlwg yn adlewyrchu traddodiad Cristnogol. 'Rydym yn falch o gamp y prifardd Idris Reynolds, enillydd cystadleuaeth a gynhaliasom i ddathlu'r adeilad newydd, yn cyffelybu'n meddygfa i lyn Bethesda gynt, a mawr obeithiwn fod ein gwaith yn deilwng o'r trosiad. Ond go brin bod y mymryn hwn o lên-garwch yn ddigon i'r barnwr, ychwaith. Meddygfa Yn y cerrynt mae cariad hyd wyneb y don mae cynhyrfiad; mae'n y dyfnder adferiad, yma'n llyn mae in wellhad. Idris Reynolds. 1991 Trïwch f'ystafell wedyn. Mi welwch mai calendr "Llewyrch i'm Ffydd wrtb fy Nçwaitb Llwybr sydd yno n rhoi r dyddiad, gyda chlamp o lun o harddwch Cymru, a phennill o emyn adnabyddus, at bob mis, ac adnod ysgrythurol at bob dydd. Byddaf yn arddel yn llawen yr arfer o ddarllen adnod y dydd yn gyntaf peth wrth gyrracdd bob bore, a myfyrio arni am rai eiliadau cyn bwrlwm y diwrnod. Ond beth yw englyn a chalendr? Oni allant fod yn dystiolaeth o hoffter syml at y Pethe, neu o fynnu "addoli'r Iaith Gymraeg trwy gyfrwng Duw" (chwedl Aled Islwyn, a diolch iddo am ein procio ni oll gyda'r dywediad)? Na. O ddifrif. Sut mae adnabod meddyg o Gristion wrth ei waith? I ba raddau fedrech chi? A fyddech chwi'n disgwyl neu'n dymuno — rhyw arfer, neu barodrwydd er enghraifft o air yn ei Ie? A oes rhinweddau i'r meddyg o Gristion nad ydynt i'w disgwyl oddi wrth bob meddyg da a chydwybodol? (Nid rhethreg yn unig yw'r cwestiynau hyn: rwyf innau'n meddwl mai "nag oes" yw'r ateb i'r cwestiwn olaf hwn, ond croesawn ymateb yn nhudalennau Cristion oddi wrth unrhyw ddarllenydd sy'n credu bod rhinweddau unigryw felly, Wrth ein ffrwyth.?) Un peth sydd unigryw i'r meddyg o Gristion yw cael bod yn aelod o'r Christian Medical Fellowship y CMF, cymdeithas Brydeinig. Ni fedraf ddweud i hon fod yn rhyw weithgar iawn yn lleol, yma yng Ngogledd Dafydd Evan Morris Cymru, ond hwyrach y byddai ffyddloniaid yr achos yn dweud mai fi sy'n cadw draw. Gwn iddi fod yn haws cynnal cyfarfodydd lle'r mae'r aelodau'n fwy niferus, yn y trefi mawrion a'r dinasoedd. Cofiaf yn gynnes gyfarfodydd lleol pan oeddwn yn fyfyriwr yng Nghaerdydd, a wedyn tra'n gweithio yn Glasgow. Prif gysylltiad y CMF â ni'n deulu bellach yw'r gynhadledd flynyddol penwythnos yn Swanwick, Swydd Derby, a chyfle braf i ni gael ein herio a'n hadnewyddu, ynglyn â ffydd a gwaith. (Y mae hefyd yn benwythnos gwych i'r plant, gyda gweithwyr y Scripture Union yn trefnu llond gwlad o hwyl ac addysg iddynt.) Y mae'r CMF hefyd yn haeddu clod am eu gwefan www.cmf.org.uk. Y mae hon yn werth "ymweld" â hi, am enghraifft o gynnal tystiolaeth effeithiol a chyfoes. Ceir, er enghraifft testunau'r hyn a roid gan arbenigwyr y CMF i'r comisiynau brenhinol ar bynciau megis euthanasia. Tra'n sôn am wefannau, gadewch i mi grybwyll hefyd www.bmj.com- y British Medical Journal ar y we erbyn hyn, ac ar gael i bawb yn rhwydd ac am ddim. Dyma gylchgrawn sy'n dangos yn wythnosol, ar ganol ac ar draws y materion meddygol, bobl yn fy ngalwedigaeth i yn ceisio mynd i'r afael â'r cwestiynau mawr: diben a gwerth bywyd; tlodi; dioddefaint y Trydydd Byd a'i angen; rhyfel ac atal rhyfel. Dim ond canran gymharol fechan ohonynt sydd yn siarad â lleisiau sy'n amlwg o Gristnogol eu safbwynt, ac y mae'n rhaid i'r lleisiau hynny gystadlu'n glir a rhesymegol eu dadl, ond dyna'r byd sydd ohoni. Hen ddigon am fy nghreiriau a'r llyfrau, neu'r gwefannau, o'm cwmpas. Beth am fy ffydd yn fy ngwaith bob dydd? Byddaf, fel pob meddyg teulu, yn cyfarfod wyneb yn wyneb â rhyw 100 -200 o gleifion bob