Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wythnos. I ba raddau byddaf i'n gweld pob un yn enaid "y bu Crist farw drosto"? Ac i ba raddau ydwyf yn fugeiliol? (Cwestiwn llawer saffach a llai dadlenol!) Gwir mai at y meddyg teulu yn unig y try llawer iawn o'r boblogaeth yn y dyddiau hyn lle, chwedl y bardd, "the vicar's name, the times of services are specialised knowledge. Y mae hyn yn cynnal tyndra; dywedwyd nad ydym ni, na'n cleifion ychwaith, yn gwybod bob tro ai ymweld ag offeiriad y deml, ynteu â mecanydd y modurdy, y maent wrth ein gweld ni. Ac oes, y mae llawer o'r agweddau "bugeiliol" y bydd "bugeiliaid" eraill yn eu 'nabod yn burion: y gwrando a'r cydymdeimlo, a hefyd y tyndra rhwng gofynion ein 'praidd" am ein presenoldeb o hyd, a'n dyheadau i gael llonydd i wneud pethau academaidd neu dechnegol neu "greadigol" i'w helpu'n well os yn llai uniongyrchol. (Yr hen dyndra'r gwyddai'r Esgob William Morgan amdano'n iawn.) Ac onid oedd rhywun o'r blaen wedi gwneud ei orau dros ddeng claf, ac un yn unig yn diolch? Nid oes yn fy ngwaith beunyddiol cymaint o'r brwydro moesol ag y gall rhai o'r tu allan ei ddychmygu. Yn wahanol efallai i feddygon Cristnogol y 60'au a'r 70'au 60'au'r ganrif ddiwethaf, erbyn hyn nid wyf yn teimlo bod rhaid "sefyll yn erbyn" newidiadau rhywiol cymdeithas. Nid wrth i mi wrthod rhagnodi'r bilsen atalgenhedlu i ddynes ddibriod neu i ferch ysgol nac ychwaith wrth i mi wrthod rhoi cyfeiriad a rhif ffôn asiantaeth erthylu'r sir i ddynes sy'n gofyn amdano y mae gwella a chryfhau'r gymdeithas amherffaith yr ydym yn byw ynddi. Byddaf yn tristáu ambell dro, wrth gwrs, ac yn ceisio sicrhau bob adeg bod y person o'm blaen i yn deall, gorau fedrant, beth mae nhw'n ei wneud, ac y gallant ddychwelyd ataf i drafod pethau wedyn, os dymunant. Os oes un man lIe'r teimlaf dyndra rhwng ffydd ac arfer, yna yn athroniaeth afiechyd y mae hwnnw, Ie, hen broblem dioddefaint a phroblem oesol Job, dim ond mewn gwisg academaidd modern. Ar y naill llaw, i "ragluniaeth fawr y nef" y syrth y cwestiwn o beth a wnawn "os byw ac iach"; yn llaw Duw y mae'n Y Crist Digymar Hwn oedd geni mwya'r oesoedd Ymgnawdoliad pur o Fair Duw breswyliodd ymhlith dynion Cnawd ac arno nod y Gair. Hwn oedd ffordd a gwir oleuni Gobaith bywyd ydoedd ef Holl ffenestri'r nef agorwyd Pan ddaeth Iesu i lawr o'r nef Hwn oedd aberth mwya'r oesoedd Dros bechodau dynol ryw Ar y groes y seliwyd rhyngom Gymod newydd gyda Duw Gellir canu'r emyn ar y dôn Lausanne hamserau. Ar y llaw arall y mae bywydeg modern yn medru dehongli cancr, er enghraifft, yn effeithiol iawn yn newidadau dealladwy mewn llinachau o gellocdd y tu mewn i gorff unigolyn gyda genynnau penodol a hanes unigryw. Nid yw'n foddhaol o bell ffordd i setlo i ddweud mai yn ôl gwyddoniaeth yr ydym yn trafod yr afiechyd, ond yn ôl gras Duw y byddwn yn trin y claf ond terfynaf trwy wahodd sylwadau'r darllenwyr ar hyn. Hwn oedd ffrwydrad mwya'r oesoedd Hwn oedd grym anorfod Duw Chwalwyd muriau ein meidroldeb Pan gyfododd Iesu'n fyw. Hwn yw amser mwya'n dathlu Gorfoledded daear drist, Cofiwn heddiw'r waredigaeth Drwy ddyfodiad Iesu'n Grist. Alun Davies, Wrecsam