Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Datguddiad yn ôl pob tebyg yw prif broblem crefydd. Sut mae Duw yn cyfathrebu â ni? Fe ddywed rhai crefyddau mai trwy y byd naturiol o'n cwmpas, yr ysbrydoedd sy'n trigo yn y creigiau a'r afonydd a'r mynyddoedd. Dywed crefydd arall bod yna lyfr anffaeledig wedi syrthio o' r nefoedd i gôl y sylfaenydd. Mae'r astrolegwyr yn honni y gallant ddarllen y gwirionedd yn saerniaeth y sêr a'r planedau, ac mae yna eraill sy'n dweud bod Duw yn siarad drwy ysbrydoedd yr eneidiau ymadawedig. Ond mae'r bennod gyntaf o'r Efengyl yn ôl Sant loan yn dweud yn bendant bod Duw wedi llefaru ac yn llefaru wrthym drwy y Gair, grym creadigol Duw a ddaeth yn gnawd y gwirionedd dwyfol yn torri i mewn i bersonoliaeth dynol. Y Gair a wnaethpwyd yn Gnawd Onid yw'n ffaith ddiymwâd bod y gwirionedd sy o bwys yn dod i ni, nid mewn gosodiadau haniaethol ond trwy asiantaeth cyfarfyddiad personol. Ni chaiff plentyn bach amddifad unrhyw gysur o ddarllen llyfr ar ofalaeth plant beth sy arno' i eisiau yw mam. Ni chaiff y claf wellhad o ddarllen geiriadur meddygol. Mae arno eisiau cyffyrddiad iachusol y meddyg a'r nyrs. Fe gaiff y person unig ychydig o gysur efallai o wylio'r teledu neu wrando ar y radio, ond ni all y rhain gymryd lle cyfaill mynwesol. Ac yn sicr ni all athrawiaeth iachawdwriaeth ryddhau rhywun sy'n gaeth i uffern o'i wneuthuriad ei hun. Mae arno eisiau person y Gwaredwr y Gair a wnaethpwyd yn gnawd. Felly, dyma ni yn wynebu rhai o gwestiynau mwyaf dyrys y meddwl dynol. Sut un ydy Duw? Sut y gallwn wybod oherwydd mae pwy ydy E a beth ydy E y tu hwnt i grebwyll synnwyr dyn. Ond mae'r agosaf y down i'r ateb yn ymgorfforedig yn yr Iesu, drwy yr Hwn mae miliynau wedi SYLFEINI'R FFYDD 3. DATGUDDIAD cael cip ar gariad Duw ar waith ac ewyllys Duw yn cael ei fynegi "ar y ddaear fel y mae yn y Nef". Ydy Duw yn malio? Edrychwch ar yr Iesu yn gweinidogaethu i wella byd colledig, ac yn marw i ddatgelu i'r eithaf y gwirionedd drwy Ei waed. Felly, os gofynnwch sut y gallaf gyrraedd Duw, atebaf, "Fedrwch chi ddim, ond mae E wedi'ch cyrraedd chi -wedi rhoi Ei Hunan o fewn cyrraedd eich llaw estynedig drwy atgyfodi Iesu o' r bedd a'i drawsnewid o fod yn goffawdwriaeth sanctaidd i fod yn bresenoldeb byw". Ac os credwch bod hwnna'n ddweud eithafol, mae yna filiynau yn barod i'w gyffesu gan herio gwawd y bychanwyr ac anghrediniaeth y siniciaid, drwy gyhoeddi'n ddiofn eu bod yn gwybod ei fod yn fyw am eu bod wedi cyfarfod ag E. Dyna hefyd oedd ateb y pregethwr enwog C.H.Spurgeon i'r hecliwr hwnnw yn Hyde Park a waeddodd "Mae dy Dduw di wedi marw". "Dyna ryfedd", meddai Spurgeon, "fues i'n siarad ag E funud yn ôl". Gellir dadlau pob athroniaeth, gellir esbonio pob diwinyddiaeth, gellir chwarae o gwmpas syniadau, ond mae'r gwirionedd sy wedi'i ymgnawdoli yn mynnu ateb. Felly, un rheswm paham y daeth y Gair yn gnawd oedd: 1. Er mwyn i Dduw fedru siarad â ni mewn iaith sy'n ddealladwy i ni. 2. Rheswm arall oedd hyn; fe ddaeth y Gair yn gnawd i 'weldio' Duw a'i fyd yn uti Y Gair a chnawd; Duw a'r byd. Fedrwch chi ddim cael un heb y llall. Fedrwch chi ddim dewis Duw ac anwybyddu'r byd, fel y gwna'r pietistiaid. Yr un modd, allwn ni ddim newid y byd heb gymryd Duw i ystyriaeth fel y gwna'r delfrydwyr. Os dewiswch un, mae'n rhaid derbyn y llall. Mae Duw heb y byd yn ddirgelwch haniaethol, ac mae'r byd heb Dduw yn ffuglen ofnadwy. Byd Duw Pwy felly, sy biau'r byd hwn? Fe ddywed rhai Cristionogion cyfeiliornus mai "eiddo'r diafol ydy e, felly ymgedwch rhagddo". Dywed eraill o ddarllen cyfrolau hanes, mai eiddo'r treiswyr ydy e, felly peidiwch ymyrryd. Ond mae'r Testament Newydd yn cyhoeddi mai eiddo Duw ydy e, a' n gwaith ni yw ei hawlio yn Ei Enw. Dyna paham bod pobl yn beirniadu'r Eglwys am ymyrryd mewn gwleidyddiaeth. Dydyn nhw ddim yn deall am nad ydyn ni wedi egluro iddyn nhw bod y ffordd i sancteiddrwydd yn ein harwain drwy'r llefydd lle mae'r brwydrau mwyaf gwaedlyd, y cyfaddawdau mwyaf diraddiol a'r amgylchiadau mwyaf arswydus. Am fod y Gair wedi dod yn gnawd, fe gyfarfyddwn â Christ yn y llefydd lle mae'r cnawd yn cael ei boenydio, ei newynu a'i garcharu. Pe baem yn gofyn i chi, ble rydych chi wedi gweld purdeb Duw, efallai fe fyddech chi'n ateb, yn wyneb rhywun fel y Fam Teresa yn plygu uwchben y tlotaf o'r tlawd ar balmentydd Calcutta yn barabl daearol o'r