Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gwirionedd aruthrol yn y bennod gyntaf o Efengyl loan, bod yna oleuni nas gall y tywyllwch eithaf ei ddiffodd. Ymhle dowch chi o hyd i dangnefedd Duw? Ai mewn mynachlog dawel neu wrth fwrdd y Cymun neu efallai wrth wely'r claf yn ei waeledd olaf, neu hyd yn oed yng nghanol brwydr waedlyd ar strydoedd Belfast? Ac ymhle dowch chi o hyd i gyfiawnder Duw? Efallai mewn cell mewn carchar tywyll y tu ôl i'r wifren bigog lle mae yna ddyn yn gwrthod plygu glin i Baal yn ferthyr dros ei ffydd Yn aml, efallai, fe'ch temtir i weddio ar Dduw am wyrth, am fellten o oleuni, neu lais oddi uchod i godi eich ysbryd ynghanol y dyddiau enbyd hyn. Ond, fel y dywedodd Duw wrth Moses gynt, "Ni chei weled fy wyneb ond fe ddangosaf i ti fy nghefn". Oni welsom gefn Duw wrth weld y llifeiriant yna o ffoaduriaid yn cael eu gwrthod a'u troi'n ôl o'r ffin. Ac fel yr ymlwybrent yn wargam yn ôl at eu dioddefaint fe welsom gefn Duw yn noeth ac yn greithiog. Fe ddywedir yn fynych bod y rhan fwyaf o'r hyn a wneir yn yr eglwysi yn amherthnasol. I'r graddau bod hyn yn wir, y rheswm yw eu bod yn peidio â bod yn berthnasol, pan eu bod yn ymddangos fel dim ond meini urddasol, miwsig ardderchog a phensaerniaeth godidog, a dim fel cnawd. Ac os yw ein gweddïau yn swnio'n adlais cou o gwmpas eu colofnau uchel, y rheswm yw bod y geiriau yn ddim ond geiriau ac nid yn gnawd. Dydy'r credinwyr, pa mor llawn bynnag o fwriadau da ydyn nhw i ddiogelu purdeb Cristionogaeth trwy ei droi yn fater preifat rhwng yr enaid a Duw a rhyddhau'r eglwys o'r cyswllt amwys yma â'r byd, ddim yn sylweddoli'n hollol beth maen nhw'n ei wneud. Maen nhw am droi'r ymgnawdoliad yn ôl, i droi'r Gair yn ôl o fod yn gnawd i fod yn ysbryd annelwig. A phe baen nhw'n llwyddo fe fydden nhw'n cyflawni'r hyn mae gelynion Crist wedi methu a'i wneud. Roedd croeshoelio'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd wedi cyflawni amcanion a bwriadau Duw oherwydd roedd E wedi defnyddio'r holl bwerau oedd yn Ei erbyn i gyflawni hyn. Ond byddai ail-ysbrydoli'r cnawd wedi diddymu holl bwrpas yr Iawn, ac wedi gwacáu Cristionogaeth o Dduw, a'r byd o'i werth a'i ystyr pennaf. Angen Dyn ar Dduw Fe wnaed y Gair yn gnawd hefyd i fod yn sumbol o ddibyniaeth Duw. Fe ranna Cristionogaeth sawl gwirionedd â chrefyddau eraill, ond mae yna un gwirionedd unigryw yn perthyn iddi. Tra bod crefyddau eraill yn gwneud môr a mynydd o ddibyniaeth dyn ar Dduw, mae Cristionogaeth yn mentro sôn am ddibyniaeth Duw ar ddynoliaeth. "Os Duw sydd ar f'enaid ei eisiau Mae eisiau fy enaid ar Dduw" Y Gair, y pwer hollalluog, y grym anorchfygol yn dod yn gnawd dynol, yn egwan ac yn ddiamddiffyn yn erbyn unrhyw rym oedd yn gryfach nag Ef. Felly, wrth ddod yn gnawd, taflodd Duw Ei Hun ar ein trugaredd, gan ymddiried Ei Hunan i'n gofal. Onid oedd hwnna'n hanesyddol wir? Onid oedd ar Iesu angen croth ddynol i gael ei eni; bron ddynol i'w sugno; tad dynol i'w gario i lawr i'r Aifft ymhell oddi wrth gynddaredd Herod; nifer o gyfeillion i'w gefnogi ac weithiau i'w fradychu; a dieithryn i helpu cario ei groes? Mae yr un mor wir heddiw. Onid oes angen dwylo dynol arno i drafod yr offer drwy y rhain mae'n iachau, llais dynol i gysuro'r trallodus, llygaid dynol i edrych gyda chydymdeimlad ar yr unig; presenoldeb dynol i sefyll yn ymyl y gwrthodedig, gallu'r ymenydd dynol i wneud yr anialdir yn ffrwythlon i fwydo'r anghenus, sgiliau gwleidyddol dynol wedi'u cysegru i greu trefn gymdeithasol mwy cyfiawn a thrugarog? Mae'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd yn arddangosiad aruthrol o ffydd. Nid ein ffydd ni yn Nuw sy'n dychlamu ac yn edwino ond ffydd Duw ynom ni, yn ymddiried Ei Hunan a llwyddiant Ei Deyrnas i'n dwylo crynedig, dichellgar ni. Mewn gair, mae hyn i gyd yn cael ei ddramateiddio ymhob Offeren neu Ewcharist a ddethlir dros y byd i gyd. Fe ddaw'r credinwyr at yr allor neu Fwrdd y Cymun gan ddal allan eu dwylo i dderbyn y bara tra dywed yr Offeiriad neu'r Gweinidog "Corff Crist" fel pe bai Crist ei Hun yn cael ei ymddiried i'n gofal i wneud a fynnom ni ag Ef! Dyna beth yw Duw yn gamblo ynte, rhyw fetio cosmig! Duw yn mentro na fydden ni'n Ei adael i lawr a'i siomi. Yn union fel roedd yn rhaid i'r Gair ddyfod yn gnawd yn amser Pontius Pilat er mwyn achub y byd, felly, dim ond i'r graddau mae'r Gair yn dod yn gnawd ynom ni bydd y byd yn dod i wybod ei fod wedi ei achub. Ffordd arall o ddweud hwnna yw mai byd Duw ydy e ond fe fydd e'n y pen draw yn union beth a wnawn ni ohono fe. Gyda thristwch y cyhoeddwn y bu farw Mr. Elwyn Richards ym mis Chwefror. Un o Abercych ydoedd a bu'n brifathro Ysgol Gymraeg Sant Ffransis Y Barri am flynyddoedd. Fe'i magwyd yn Fedyddiwr ond wedi symud i'r Barri ymaelododd yn Y Tabernacl (Annibynwyr). Yn ddiweddarach daeth yn aelod o'r Eglwys Gatholig. Gwnaeth ddiwrnod da o waith ym mywyd crefyddol a chymdeithasol y Barri. Cydymdeimlwn â Mrs. Doris Richards a'r teulu a diolchwn iddynt am ganiatáu inni gyhoeddi gweddill y gyfres.