Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mewn Carchar Ymwelsoch A Mi. Mae cenhadu'n broblem i'r eglwysi yma yn y gorllewin. Un ffordd sydd wedi'i mabwysiadu i gyflawni hyn yw trwy gaplaniaethau. Caplan mewn diwydiant, caplan ysbyty a chaplaniaeth i garchardai ac ati. Mewn ambell sefyllfa, mae'r caplan ar ei ben ei hun ac yn ddigefnogaeth yn arloesi. Mewn un maes mae'n berson â chyfrifoldebau statudol ac yn rhan o fframwaith awdurdod a threfn, a hynny yn y sefydliad mwyaf caeth yn ein cymdeithas sef, carchar. Mae'r gweinidogaethau hyn yn dodi cynrychiolwyr yr eglwysi mewn cylchoedd nad ydynt ar yr wyneb â dim i wneud ag eglwys. Oblegid hyn, mae rhai yn nodi'r ffaith mai caplaniaeth yw'r ffordd i weinidog "adael y weinidogaeth". Mae cwestiwn yn ein wynebu, sef, onid oes gan yr eglwys gaplaniaid i'r byd crwn eisoes, sef ei haelodau? Ym mhob un o'r sefyllfaoedd lle gwelir caplaniaid heddiw, mae'r eglwys yno eisoes ym mherson Cristion unigol. Tybed ydy'r syniad o gaplan proffesiynol, yn lladd ar hunan barch a gweledigaeth o gyfrifoldeb personol pob Cristion ac felly'n, niweidiol yn yr hir dymor? Mewn dyddiau pan bod sôn byth a hefyd am yr angen i aelodau "cyffredin" gymryd eu cyfrifoldeb o ddifrif, mae perygl bod 'na lais arall yn cyhoeddi "gadewch bopeth i'r person proffesiynol". Gyda hyn mewn meddwl, es ar ran 'Cristion', i gynnal sgwrs gyda chaplan carchar Caerdydd, sef, y Parch. Mark John. Mae wedi bod yn offeiriad gyda'r Eglwys yng Nghymru ers 13 mlynedd. Ar ôl derbyn ei addysg yn St. Stephen's Rhydychen bu'n gweinidogaethu yng nghylch Abertawe. Mae wedi bod yn gweinidogaethu mewn carchar yn ystod y deng mlynedd diwethaf Disgrifiad ohono gan un o weithwyr y carchar yw ei fod "yn gwnslwr arbennig ac yn bregethwr gwych" (y gore ym mhrofiad y person oedd yn sgwrsio gyda mi). "Y peth mawr amdano yw ei fod yn berson o ddynoliaeth gyfoethog ac yn gallu bod yn gyfforddus yng nghwmni personau o bob lefel".) Cenhadu Heddíw Eirian Rees Beth yw'r cefndir hanesyddol i gaplaniaeth carchar? Gyda sefydlu'r "New Model Prison" yn Pentonville ar ddiwedd y 19 ganrif, He roedd y caplan ond yn ail i'r Llywodraethwr. Yn y carchar hwnnw roedd gan bob carcharor ystafell iddo'i hun (roedd unigrwydd yn llesol!). Y cyfan oedd ganddo oedd Beibl a'r unig berson roedd e' i siarad ag ef oedd y caplan (Doedd hi ddim yn dda i garcharorion siarad â'i gilydd). Ers Deddf 1952 mae'n rhaid i bob carchar fod â Llywodraethwr, Swyddog Meddygol a Chaplan. Yn gynyddol, gwelir y gwaith yn ecwmenaidd. Mae lle yn y gaplaniaeth yma i Anglicaniaid, Pabyddion Rhufeinig (mae un Pabyddes yn gweithredu fel Swyddog Ecwmenaidd), Methodist, un o Fyddin yr Iachawdwriaeth ac un o Eglwys Efengylaidd Rhydd. Ydy'r gwaith yn wahanol i waith plwyf"? Dim ond mewn un ystyr, sef, nid yn y problemau eu hunan ond yn unig eu nifer. Yr un problemau sydd yma ag sydd mewn unrhyw gymuned, sef, iselder ysbryd, caethiwed i gyffuriau, tor priodas, trais rhywiol, ac ati. Ond, hwyrach gwelwn ni gymaint mewn diwrnod ag y mae gweinidog arall yn ei weld mewn blynyddoedd. A oes yna destunau na allwch_eu trin? Nac oes. Y peth mawr am garchar yw bod y bobl sydd yma yn agored iawn ac y mae negeseuon yr efengyl yn fyw iddynt. Mae nhw oblegid eu hamgylchiadau yn taflu goleuni ar berthnasedd storïau'r Hen Destament a geiriau'r Iesu. Er hynny, mae angen bod yn ofalus iawn. Allwn ni ddim dweud wrth garcharor sy wedi profi troedigaeth "mae'r gorffennol wedi mynd, mae'r cyfan wedi ei olchi'n lân, felly, does dim angen i ti boeni am yr hyn sydd yn dy orffennol". Mae'n rhaid i ni nodi mai'r un person yw'r person cyn ac wedi'r droedigaeth ac nid oes modd cael gwared ar gyfrifoldeb personol er bod Duw wedi maddau Cwestiwn sy'n ami yn cael ei ofyn gan weinidogion yw "Sut alla'i fynd i weld rhywun yn y carchar"? Ni ddylai'r un gweinidog ymweld fel un o'r teulu.