Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Beth yw gofynion Duw i ni? Gwnaethpwyd ychydig o waith am genhadaeth ar ddechrau'r trafodaethau tros uno. Pwysleisiwyd genhadaeth trwy'r eglwys leol, ac awgrymwyd y dylem rannu storïau am gydweithio cadarnhâol a gwaith estyn allan i'r gymuned. Dyna pam y mae'n holl bwysig yn y broses o ystyried y ddogfen am uno ein bod yn cwrdd yn gyd-enwadol i'w thrafod. Pe basem yn aros yn ein corneli bach diogel, byddem yn colli cyfle bendigedig i archwilio pwrpas Duw i'n cymunedau. Fel y mae "Pump Nodwedd Cenhadu" yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig yn ein hatgoffa y mae cenhadaeth Duw yn ehangach na phregethu a bedyddio. Y mae'n cynnwys hefyd gwasanaeth cariadlawn, ymgyrch dros gyfiawnder a gofal dros y cread. Sut all yr eglwys yn eich ardal chi weithredu'r gofynion hyn? LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU ABERYSTWYTH THE NATIONAL LIBRARY OF WALES ABERYSTWYTH OWAIN CLYD DUR 1400-2000 8 Ebrill 2000 30 Medi 2000 8 April 2000 30 September 2000 Dydd Llun Dydd Gwener 9.30 6.00 Dydd Sadwrn 9.3o-5.oo Monday Friday 9.30- 6.00 Saturday 9. -5 Ffon/Te) 01970 632800 Manteiswch ar y cyfle Fe fyddai'n bosib paratoi erthygl llawn (neu fwy nag un!) ar bob un o'r materion hyn. Pwrpas yr erthygl hon yw codi y pethau mwyaf sylfaenol, a hynny mewn modd di-duedd. Ysgrifennu yn bersonol ydwyf, ac y mae'r cynnwys yn ganlyniad dau ddylanwad arbennig arnaf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sef bod yn gynrychiolydd ar y pwyllgorau cyd- enwadol, ac yn fyfyriwr ar gwrs diwinyddiaeth cyfoes. Y credo gyntaf oedd "Iesu yw'r Iôr" ac i rai hyd yn oed heddiw y mae hynny yn ddigon. Eto i gyd, yn gynnar iawn yn hanes yr Eglwys daeth yn eglur bod eisiau datganiad mwy manwl er mwyn gosod terfynau rhwng uniongrededd a heresi. Y mae ein diwinyddiaeth yn dibynnu i ryw raddau ar ein cyd-destun, ond y mae angen rhyw fath o gredo er mwyn osgoi eithafiaeth peryglus. Wrth Gyda CronjEa Dreftadaeth y Loteri Sopported hj the Hcritage Lottery Fond ffurfio enwad newydd unedig mae cael yr athrawiaeth yn iawn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau trefn gyson a chyfannol. Dydy ffydd ddim yn fater o gred yn unig. Nid yw'n bosib ei gyfyngu i eiriau 'chwaith. Fel pob perthynas arall y mae'n fater o ymddiriedaeth a chilyddoldeb. Fel Cristnogion yr ydym yn ceisio mynegi a dehongli ein perthynas â Duw ac â'n gilydd diwinyddiaeth yw hyn. Manteisiwch ar y cyfle y mae'r trafodaethau yn eu cynnig i chi i ddiwinydda ar y cyd, ac i ail-ddarganfod eich perthynas â Christ yr Arglwydd, gan chwilio am ei bwrpas i chi a'ch eglwys.