Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HEGLWYS TABERNACL Y Tabernacl Eglwys y Bedyddwyr, Caerdydd Mae cyflwyno portread o eglwys yn ymddangos yn dasg anodd gan nad yw nodi'r gweithgareddau sy'n digwydd o wythnos i wythnos yn dweud llawer. Y mae i bob eglwys ei chymeriad a'i chyfraniad, ac nid yw natur eglwys o hyd yn ddibynnol ar nifer yr aelodaeth, maint a lleoliad yr adeilad na chwaith beth yw natur a threfn ei chyfarfodydd. Mae eglwys y Tabernacl, fel gweddill eglwysi Cymraeg Caerdydd yn ffodus o gael mewnlif cyson o ddoniau amrywiol, ac mae natur aelodaeth a chyfarfodydd yr eglwys yn adlewyrchu bwrlwm y ddinas. Yn aml, mae maint yr eglwys a'r adeilad yn medru peri i'r ymwelydd gael braw, ac fe allai fod yn hawdd i fynd ar goll ynghanol y dyrfa. Mae'r Tabernacl, fel eglwysi eraill Caerdydd yn awyddus i groesawu ymwelwyr i'n plith, ac fe werthfawroga llawer bod bywyd eglwys fel bod mewn pentref cymdogol, a hynny oddi mewn i fwrlwm y boblogaeth dorfol. Bydd aelodau'r Tabernacl yn manteisio ar bob cyfle i gymdeithasu, gan fod angen trefnu hynny mewn dinas. Ym mro fy mebyd, byddai aelodau'r eglwys yn cyfarfod â'i gilydd wrth eu gwaith beunyddiol, ac ni fyddai angen yr un ymdrech i gynnal y wedd gymdeithasol i'r eglwys. Nid felly yng Nghaerdydd. Yn ystod y gaeaf, ceir cyfarfod diwylliannol bob nos Fawrth, ac fe geisiwn ymweld â dwy eglwys arall yn ystod y flwyddyn. Bob bore Sadwrn ceir rota o aelodau yn gyfrifol am drefnu coffi a chacennau ac fe rennir yr elw ymysg mudiadau dyngarol yng Nghaerdydd Mae'r drws yn agored i bawb alw i mewn ar y Sadwrn, ac fe fydd nifer o gorau a phwyllgorau yn manteisio ar ein hystafelloedd ac yn cael lluniaeth yr un pryd. Byddwn yn gwneud elw o £ 2000 yn flynyddol o'r ymdrechion hyn ac fe fydd yr arian yn cael ei rannu rhwng achosion da yn y ddinas. Trefnir boreau coffi ar aelwydydd ein haelodau, sydd eto'n hyrwyddo cymdeithas yr eglwys. Buom yn manteisio ar ddarpariaeth canolfannau megis Llangrannog i fynd yn griw o deuluoedd cyn hyn, ac fe drefnodd rhai benwythnos i aelodau ar faes carafanau neu faes pebyll er mwyn hybu'r ymdeimlad o berthyn. Bu'r eglwys yn ymdrechu'n gyson i ymgysylltu gyda'r mudiadau sy'n hyrwyddo gofal yn y gymuned. Darperir te a brechdanau i'r digartref bob prynhawn Sul ac fe geir cefnogaeth aelodau o eglwysi Cymraeg eraill yn y cylch. Bu ffyddloniaid y gwasanaeth hyn wrthi ers dros ugain mlynedd ac fe dybia rhai o'r digartref bod ganddynt hawl i gerdded i mewn i'r capel unrhyw bryd. Credwn hefyd ei bod yn bwysig cynnig cefnogaeth i fudiadau eraill sy'n ceisio ymrafael â'r sawl sy'n ei chael yn anodd i ddwyn trefn ar eu bywydau ac fe gasglir tuniau bwyd iddynt, yn arbennig adeg y Nadolig. Gwedd arall ar yr un gwaith yw hepgor rhoi anrhegion i blant yr eglwys adeg y Nadolig, ond ein bod yn casglu bocsys o roddion i gefnogi asiantaethau megis Operation Christmas Child. Credwn fel eglwys ei bod yn bwysig cefnogi asiantaeth fel Cymorth Cristnogol, Cristnogion yn erbyn Poenydio a Chymdeithas y Cymod. Cefnogir gweithgareddau Traidcraft yn ogystal a gwerthir eu nwyddau yn y festri bob bore Sadwrn. Hanfod y Tabernacl, fel pob eglwys, yw ei bywyd ysbrydol ac fe rydd bwys mawr ar gyhoeddi a chenhadu. Erys y pwyslais ar wasanaethau'r Sul, ac fe roir bri ar bregethu. Gobeithiwn i'r dyfodol amrywio mwy ym mhatrymau addoli'r eglwys, ac rydym yn ffodus fod gennym nifer o aelodau a doniau cyhoeddus. Diolchwn hefyd fod gennym gymaint o aelodau cerddgar, ac fe ddefnyddiwn yr organ bîb, yr organ drydan, y band pres y grwp llinynnol a'r gerddorfa yn eu tro. Mae'r côr o dan arweiniad Euros Rhys Evans yn cwrdd yn rheolaidd ac yn ein cyngerdd blynyddol ym mis Mawrth eleni byddwn yn canu 'Gloria' gan Vivaldi. Cynhelir oedfa ddefosiynol bob nos