Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Iau, ac fe fydd tua 25 o'r aelodau yn trefnu'r oedfa hon yn eu tro. Mae bwrlwm yr Ysgol Sul yn bwysig i ni hefyd, ac fe geisiwn roi ystod o brofiadau i'n pobl ifanc. Bydd pawb yn edrych ymlaen at Oedfa'r Teulu ar fore Sul cyntaf y mis. Cafwyd llawer o hwyl gyda gweithgareddau amrywiol gan gynnwys helfa drysor, gwaith fideo, cwisiau, peintio, gemau rygbi a phêl droed, at ati. Ceir adran Urdd y Seren Fore yn fisol hefyd. Saif yr adeilad mewn lle amlwg yng nghanol y ddinas, fe ddaw ystod eang o ymwelwyr i'r oedfaon. Mae'n ddiddorol sylwi ar adwaith pobl o genhedloedd eraill i'r oedfa yn y Tabernacl. Ymfalchïwn yn ein perthynas ag eglwysi eraill yn y ddinas, a hynny drwy'r Cyngor Eglwysi Cymraeg ar y naill law, a chyngor Eglwysi Canol y Ddinas ar y Cymorth Cristnogol Yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol helpwch ni i helpu'r plant oherwydd. I plant Rhowch • Gweithredwch Gweddiwch Cymorth Cristnogol: Caerdydd Blwch Post 21, CF14 2DXBangor 154 Stryd Fawr, LL57 INUCaerfyrddin 13 Heol Dwr, SA31 1PY Elusen Gofrestredig rhif 258003 llaw arall. Ceisiwn fanteisio ar bob cyfle i gymdeithasu gyda Christnogion eraill a hyrwyddo gwaith y Deyrnas. Os digwydd i ddarllenwyr y cylchgrawn hwn ddod i'r ddinas ar Wythnos Mai 14-20 Ilunio ymweliad yna galwch heibio mae croeso cynnes yn eich aros. Denzil îeuan John dyfodol Cymorth Cristnogol Credwn mewn byw cyn marw