Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Damhegion Iesu: Y Wledd Fawr Luc 14: 15-24, Mathew 22: 1-14 Hyd yma yn y gyfres hon damhegion a gofnodir yn Efengyl Mathew yn unig a fu dan sylw. Y tro hwn trafodir dameg (neu ddamhegion?) a gofnodir mewn dwy Efengyl, sef Luc a Mathew. Yn Lc 14:15 -24 cofnodir dameg Y Wledd Fawr, ac yn Mth 22:1 14 gwelir dameg Y Wledd Briodas. Y mae'r berthynas rhwng y ddwy adran hon yn un gymhleth iawn, a cheir amrywiaeth barn amdani ymhlith beirniaid llenyddol a beirniaid ffurf yr Efengylau. Cred rhai mai dau fersiwn gwahanol ydynt o'r un ddameg wreiddiol o'r eiddo Iesu, tra mae eraill o'r farn eu bod yn ddwy ddameg annibynnol ar ei gilydd (er bod y thema o wahoddedigion yn gwrthod derbyn gwahoddiad a gawsant i wledd yn gyffredin i'r ddwy). O blaid y gyntaf o'r ddwv farn yma y mae'r tebygrwydd hwn o ran thema; o blaid yr ail y mae'r annhebygrwydd rhyngddynt o ran y stori a adroddir a'r cymhwysiad a gynigir ohoni. Dangosodd J. Jeremias, fodd bynnag, fod yr annhebygrwydd rhwng y ddau adroddiad i'w briodoli i'r driniaeth olygyddol a fu ar ddamhegion Iesu rhwng cyfnod eu llefaru'n wreiddiol a chyfnod eu cofnodi yn yr Efengylau. Gwaith golygyddol Luc (neu'r traddodiad a etifeddwyd ganddo) yw Lc 14:15 a 22-24. Nodiadau golygyddol yw adn. 15 (i gysylltu'r ddameg a'r cyd- destun) a'r diweddglo yn adn. 24 (sy'n ailgymhwyso neges y ddameg at sefyllfa'r Eglwys Fore yn ei disgwyliad eschatolegol am y Parousia a'r Wledd Nefol a fydd yn ei ddilyn; prin fod y rhybudd "na chaiff dim un oedd wedi eu gwahodd brofi ftJ llgwledd" yn berthnasol i stori'r ddameg wreiddiol, gan nad oedd gan "y dynion hynny" unrhyw awydd dod i'r wledd sut bynnag! Ychwanegiad golygyddol hefyd yw adn. 22-23, er mwyn cymhwyso neges yr Iesu hanesyddol yn sefyllfa ei weinidogaeth ef ymhlith yr Iddewon (a gynrychiolir gan bobl "y dref" yn adn.21) at sefyllfa newydd yr Eglwys Fore yn ei chenhadaeth i'r Cenhedloedd (a gynrychiolir gan bobl y "ffyrdd a'r cloddiau" oddi allan i'r dref); y mae diddordeb yn y Cenhedloedd, wrth gwrs, yn un o nodweddion arbennig Efengyl Luc. O'i datgysylltu oddi wrth yr elfennau golygyddol hyn, y mae cnewyllyn y ddameg wreiddiol (Lc 14:16-21) yn ffitio'n esmwyth i mewn i sefyllfa a chenadwri Iesu yn ei weinidogaeth hanesyddol. O droi at Mth 22:1-14 cawn fod ôl y "llaw olygyddol" yn drymach lawer yma nag yn achos Luc. Cytunir yn gyffredinol mai rhyngosodiad golygyddol yw adn 6-7, sydd nid yn unig yn difetha rhediad stori'r ddameg ond hefyd yn gwneud nonsens ohoni ('roedd y wledd yn barod ar y bwrdd, megis, yn adn. 5, ac yn dal yno heb ei fwyta wedi i'r brenin anfon ei fintai o filwyr i ddial ar y gwahoddedigion anniolchgar a llosgi eu tref!!); ymgais (nodweddiadol o Efengyl Mathew) a geir yma i dynnu sylw (yng ngoleuni digwyddiadau 70 O.C.) at Gwymp Jerwsalem fel cosb ar yr Iddewon am ladd y proffwydi a chroeshoelio Crist. Cymhelliad tebyg, ynghyd â'r awydd 4mtv»i*eth FELBLAIDD Owen E Evans i ailddehongli'r ddameg a'i chymhwyso at y Farn Derfynol a'r Wledd Nefol, a barodd i Mathew droi stori am wledd gartrefol dyn a chanddo un gwas yn stori am frenin a chanddo weision lawer (heb sôn am fyddin!), a drefnodd wledd briodas rwysgfawr i'w fab. Fel rhan o'r broses drawsnewidiol hon y mae Mathew (ym marn llawer o esbonwyr, gan gynnwys T. W.Manson a J.Jeremias) wedi cyfuno â dameg y Wledd ddameg arall o'r traddodiad oedd yn arbennig iddo'i hun, a ddynodir gan y llythyren "M" sy'n adrodd hanes brenin yn taflu allan o wledd briodas "ddyn heb wisg briodas amdano" (22:11-13). Golyga hyn fod pwyslais dam(h)eg(ion) Mathew bellach wedi ei osod ar y Farn Derfynol a chwestiwn teilyngdod neu annheilyngdod (gw. adn. 8 yn ogystal â 11-13) i gael rhan yn y Wledd Feseianaidd yn y Deyrnas gyflawnedig wedi'r Parousia. O'i datgysylltu oddi wrth yr elfennau golygyddol a nodwyd, y mae cnewyllyn dameg y wledd (yn ôl Efengyl Mathew) yn sôn am westeiwr yn gwahodd nifer o wahoddedigion i wledd, yn paratoi'n helaeth ar eu cyfer ac yn anfon neges i'w hysbysu bod y wledd yn barod ac i'w cymell i ddod iddi. Yn lle ymateb trwy ddod y mae'r gwahoddedigion un ac oll yn anwybyddu'r gwahoddiad ac yn ymroi i'w hamrywiol ddiddordebau (ad. 3-5). Y mae'r gwesteiwr, yn ddigon naturiol, yn digio wrthynt ac yn penderfynu gwahodd yn eu lle bwy bynnag o drigolion cyffredin y dref a fydd yn barod i dderbyn ei wahoddiad (adn. 10). O gymharu'r cnewyllyn hwn o'r ddameg wreiddiol yn ôl Mathew â Lc 14:16-21, gwelwn nad oes dim anghysondeb o bwys rhyngddynt. Y mae fersiwn Mathew yn darllen fel aralleiriad mwy cryno a llai manwl o fersiwn Luc. Rhesymol, gan hynny, yw casglu mai'r hyn sydd gennym yw dau fersiwn annibynnol gyda rhyw fesur o olygu ac ailgymhwyso ar fersiwn Luc a mesur helaethach o lawer o olygu ac ailgymhwyso ar fersiwn Mathew o'r un ddameg wreiddiol o'r eiddo Iesu. Ategir y casgliad hwn gan y ffaith bod Yr Efengyl yn ôl Thomas (y gwaith apocryffaidd y darganfuwyd yn Nag Hammadi yn yr Aifft yn 1945-46 ) yn cynnwys fersiwn arall o'r un ddameg sydd hefyd yn gwbl gyson (er yn amrywio o ran manylion) â'r cnewyllyn sy'n gyffredin i Luc a Mathew; dyfynnir cyfieithiad Saesneg o ddameg Thomas yn J.Jeremias, The Parables ofjesus, t.176. Sut, ynteu, yr ydym i ddeall a dehongli dameg Y Wledd yn ei ffurf syml a gwreiddiol? Rhaid ei dehongli, wrth gwrs, yng nghyd-destun gweinidogaeth hanesyddol Iesu ac nid yng nghyd-destun sefyllfa genhadol yr Eglwys Fore. Fel dameg Y Gweithwyr yn y Winllan, dameg yw hon a gyfeiriwyd at feirniaid a gwrthwynebwyr Iesu; y tro hwn, fodd bynnag, y mae'r cyd-destun ei hun yn dangos hynny (gw. Lc 14:1-15; Mth 21:45 22:1). Y Phariseaid ac athrawon y Gyfraith, a'r Iddewon parchus