Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y cyfathrachent a hwy, a gynrychiolir gan wahoddedigion gwreiddiol y ddameg; awgryma'r esgusion a gynigiant yn Lc 14:18-20 (a hefyd yn Thomas, lle rhestrir esgusion pedwar o wrthodwyr un ohonynt yn egluro ei fod wedi prynu pentref a'i fod yn mynd yno i gasglu rhenti!) mai i'r dosbarth tirfeddiannol yr oedd y rheini yn perthyn (dim ond amaethwr gweddol gefnog a allai fforddio pum pâr o ychen). Y mae'r un mor amlwg mai'r casglwyr trethi a'r pechaduriaid, pobl gyffredin, difreintiedig a dirmygedig, a gynrychiolir gan y rhai a dderbyniodd y gwahoddiad diweddarach ac a gafodd fwynhau'r wledd a baratoesai'r gwesteiwr, sydd yntau'n cynrychioli Duw. Cynrychioli Teymas Dduw y mae'r wledd; nodwedd amlwg yn y traddodiad Iddewig ac yn nysgeidiaeth Iesu yw darlunio bywyd y Deyrnas yn nhermau'r Wledd Feseianaidd (gw. Eseia 25:6; 55:1-2; Mth 8:11 = Lc 13:29; Lc 14:15; 22:16, 30; Mc 14:25). Wrth "bregethu efengyl y deyrnas" (Mth 4:23; 9:35; Lc 8:1) a galw am ymateb iddi trwy edifeirwch a ffydd (gw. Mc 1:14-15) yr oedd Iesu'n CROESAIR CRISTION Enw: Cyfeiriad: Noder: Bydd bloc ar gyfer pob symbol. Felly bydd y llythrennau dd, ng, 11 etc. yn cymryd dau floc. Anwybydder yr hirnod mewn anagram. Cyflwynir llyfr yn rhodd am yr ateb cyflawn cyntaf a dynnir o gelwrn y Golygydd ar 25 Mai 2000 Anfoner y bloc wedi ei gyflawni at Parch Meirion Lloyd Davies, Glyn Rhosyn, Penrhos, Pwllheli, LL53 7TB. Enillydd y mis hwn yw: Elinor Pierce, Llanddarog, Caerfyrddin. estyn gwahoddiad i holl "ddefaid colledig tÿ Israel" (gw. Mth 10:6; 15:24; Lc 15:1-7; 19:1-10) boed hwy'n gyfoethog neu'n dlawd, yn grefyddwyr parchus neu'n bechaduriaid ysgymun i ddod i mewn a chyfranogi yn y wledd a baratowyd iddynt gan Dduw, h.y., i gymryd eu lle yng nghymuned Teymas Dduw, y lle yr oedd Duw yn ei gynnig iddynt fel rhodd rasol (gw. Lc 12:32; cymh. 6:20- 21). Oedd, yr oedd Iesu'n estyn y gwahoddiad i bawb yn ddiwahaniaeth. Ond ei brofiad cyson oedd bod y pechaduriaid ysgymun yn barotach i dderbyn ei wahoddiad na'r crefyddwyr parchus. Mynegiant trist o'r profiad hwn, a rhybudd difrifol i'r rhai na fynnent dderbyn ei wahoddiad, yw dameg Y Wledd, sy'n eglureb effeithiol i oleuo ystyr dywediadau tebyg i'r un a welir yn Mth 21:31 (cymh. adn. 32 a Lc 7:28-30): "Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y casglwyr trethi a'r puteiniaid yn mynd i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi." AR DRAWS 3. Moses y Gymanfa Ganu (9) 8. Lle i daflu llwch edifeiriol (4) 9. Cyfnod dirwasgiad a hanner swm y degau (8) 10. Yn olau a thwym tu allan (6) 13. Lle mae pentan y bont i Loegr (5) 14. Cysegr santeiddiolaf y llan (7) 15. Byddin (3) 16. Y geiriau byw a dderbyniwyd yn yr anialwch yn ôl Actau 7 (7) 17. Eisiau oesol ar gyfandir Affrica (5) 21. Cymhwyso i ffitio (6) 22. Cyrddau a drefnwyd i rai ag anobaith am eu hyfory ac ofn eu doe (8) 23. Gwelwyd aredig ar hwn yn ôl yr emynydd (4) 24. Iconau (9) I LAWR 1. Hanesion ag ergydion (9) 2. Clymau o bobl leol (9) 4. Hawdd ar dafod (5) 5. Y 9.40 o Gaerdydd a all fod yn bluog (7) 6. Y Cidron o Rubicon nas croeswyd gan Judas (4) 7. Eiddo Duw nas caniateir i ddyn medd Rhufeiniaid 12 (4) 11. Dinas a welodd Waredwr gynt a Phab eleni (9) 12. Mecca Cystadleuwyr coch gwyrdd a gwyn (9) 14. Troi drws i atal (3) 15. Cynnwys y Llyfr Emynau newydd (7) 18. Bwyd mewn diffaethwch di-faeth (5) 19. Difyrrwch y cotiau gwaedlyd (4) 20. Ffrwyth Afallon? (4) Atebion Croesair Rhifyn Mawrth Ebrill AR DRAWS: 3. Bedyddwyr 8. Amen 9. Labordai 10. Arholi 13. Oedfa 14. Mawlgan 15. Nai 16. Casineb 17. Cewri 21. Plasty 22. Diaspora 23. Cyni 24. Wesleaidd. I LAWR: 1. Paratowch 2. Methodist 4. Erlid 5. Ysbytai 6. Dyro 7. Ynad 11. Eglwyswyr 12. Annibynia 14. Mab 15. Nerfosa 18. Epaod 19. Sioe 20. Isel.