Skip navigation

Cristion

 - 

100 Mai/Meh. 2000

Llwyfannu'r genadwri

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Cyn sicred 'm cred yn
offeiriadaeth pob credadun mae'r gred
hefyd fod dawn a thalent arbennig i
ryw gyfeiriad gan bob aelod o eglwys
a phryd bynnag y gellir harneisio'r
doniau yma i gyd mewn cywaith er
gogoniant i Dduw, pwy fedr osod
terfynau ar y potensial? Dyna'r gred
a'r argyhoeddiad a'm symbylodd ers
blynyddoedd lawer wrth gyflwyno'r
genadwri Gristnogol (ynglyn 'r
ymgnawdoliad yn arbennig) drwy
ddulliau theatrig, yn Heol Awst,
Caerfyrddin.
Saif Soar, Penboyr, y capel lle cefais
i fy magu, yng Nghwmpengraig, ryw
dair milltir i'r ochr ddeheuol (a'r ochr
orau!) o Ddyffryn Teifi. Pan godwyd y
capel presennol ym 1895 gwnaed
rhywbeth hynod ddoeth, peth digon
syml ac ymarferol, ond anarferol iawn
hefyd, am ryw reswm. Yn hytrach na'i
ddymchwel, cadwyd yr hen gapel i'w
ddefnyddio fel festri helaeth. Yn
ddiweddarach dilewyd ei ffrynt
nodweddiadol (y pulpud a dau ddrws
a ffenestri bob ochr iddo) a chodi 'bloc'
yn cynnwys llwyfan pwrpasol gyda
llenni helaeth a goleuadau godre.
Dyma theatr fach i ryfeddu, ymhell
cyn bod sn am yr adeiladau eglwysig
amlbwrpas a ddaeth oes yn
ddiweddarach, gan dybio, fel gyda
chynifer o bethau eraill, fod y syniad
yn wreiddiol newydd.
Ar estyll y llwyfan hwnnw y
rhwygodd fy nhroed (draean ei maint
presennol) 'urddas benthyg crand' y
'dressing-gown' gwychaf a wisgodd
un o Ddoethion y Dwyrain erioed;
yno fel y Barwn Owen y syrthiais yn
gelain wedi sgarmes ffyrnig 
chleddyfau gydag un o Wylliaid
Cochion Mawddwy; ac yno y bu bron
imi chwythu ffiws fy ymennydd pan
drois stethosgop Nyrs Luke, Henllan,
at y dorf afieithus, yn hytrach na'i
anelu, fel doctor da, at fol plastig babi
Hillary Angorfa.
Doedd gweithgareddau Thesbiaidd
LLWYFANNU'R GENADWRI
gan J. Towyn Jones
o'r fath yn gysylltiedig ag eglwys yn y
cyfnod hwnnw (ac a oedd yn gymaint
rhan o'm magwraeth) ddim mor
anghyffredin  hynny, ond prin fod y
rhelyw o'm cenhedlaeth wedi etifeddu
y fath theatr fach ddelfrydol at iws
capel i berfformio ynddi.
Ysgogydd a sylfaenydd y cyfan
oedd yr hen weinidog annwyl, i mi,
yr anghymarol Barchedig Thomas E.
Jones, pregethwr huawdl a
theimladwy, gweinidog na fu ei well,
cynhyrchydd sioe gerdd a drama, yr
oedd heb ei ail yn ei alwedigaeth. Fm
1 enoea yn greaaur emosiynoi iawn,
ond pan ddaeth fy nhad adref un nos
Sul pan own i'n saith mlwydd oed 'r
newydd fod T.E. Jones yn ymddeol ac
yn mynd o Soar, fe lifodd fy nagrau
yn ddi-atal, ac ni fynnwn fy nghysuro.
Mi roddwn lawer am fedru credu y
buasai rhyw blentyn o'r fath 
chymaint o hiraeth ar fy l i. A ydwyf,
efallai, yn gwybod, y rheswm, ond yn
amharod i dalu'r pris llawn?
Pa weinidog arall o'i genhedlaeth
sych-bruddaidd a fuasai'n ddigon
rhydd-freiniedig i rowlio chwerthin
pan ddywedais rywbeth wrtho
unwaith a ystyriai fy mam (wedi'r llys
cangarw byrraf yn hanes dynoliaeth)
yn drosedd a haeddai 'solitary
confinement'? Pwy fu'n gyfrifol am
roi'r powdwr i mewn, wn i ddim, ond
y fi saethodd yr ergyd ar foment
strategol. Gwyr y cyfarwydd (fel y
dywedent slawer dydd) am
wreiddioldeb Dafydd Ifans, Ffynnon-
henri (1778-1886; aeth ei gofiant gan
Myfyr Emlyn i lawer argraffiad), a pha
mor agos at y pridd oedd ei ymadroddi
yn aml. Un diwrnod, wedi cael digon
ar blagio T.E. Jones (ac yntau ar
ymweliad 'm cartref; petawn yn
ysgrifennu yn Saesneg, 'visitation'
fyddai'r term a ddefnyddiwn) am gael
fy nghlywed yn adrodd, rhedais i ris
drws y gegin orau. Yno gwaeddais
arno fersiwn Ffynnon-henri o'r hyn a
waeddodd Moses ar Pharo wedi iddo
groesi'r Mr Coch (ac os oedd Dafi
Ifans yn iawn efallai mai dyna sut y
cafodd y lle yr enw!)
Gwyddai fy ngweinidog goleuedig
yn dda am ffraethineb chwedlonol y
gwladwr o Fedyddiwr o ardal gyfagos
ac o'r oes o'r blaen, a gwnaeth
ymdrech arwrol i amddiffyn bachgen
direidus rhag erlyniaeth a barn! Digon
tebyg y buasai'r mwyafrif o'i safle wedi
"ffromu yn aruthr" ac wedi ymateb yn
debycach i'r brenin yn yr hanes nag
i'r sawl a aned, ond T.E. Jones oedd
hwn.
Gwr 'i ddirnadaeth yn ddyfnach
o dipyn na'r cyffredin, a'i
fedrusrwydd yn amlochrog oedd ef, a
phetai wedi cael y clod haeddiannol
buasai wedi ei ddyrchafu yn un o
gardinaliaid yr Annibynwyr. Cododd
chwech ohonom i'r weinidogaeth, a
pha ryfedd hynny oblegid roedd yn
trin pob bachgen, am a wn i, fel darpar
weinidog, gan roi tasgau bach bob hyn
a hyn i hybu'n datblygiad. Mae capel
Soar o faintioli sylweddol ac er nad
wyf finnau yn hen, cofiaf yn dda
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for non-commercial purposes only while respecting the moral rights of the creators.