Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Seeking God's Kingdom, The Nonconformist Social Gospel in Wales 1906-1939, Robert Pope, Gwasg Prifysgol Cymru, 1999, £ 25 Winds of Change, The Roman Catholic Church and Society in Wales, 1916-1962, Trystan Owain Hughes, Gwasg Prifysgol Cymru, 1999, £ 25 Amheuthum fu derbyn y ddwy gyfrol uchod a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru ac a ymddangosodd, dan olygyddiaeth gyffredinol Dr Ceraint Tudur, o stabl Canolfan Uwchefrydiau Crefydd yng Nghymru, Prifysgol Cymru Bangor. Y mae'r naill fel y llall yn gyfraniad pwysig i'n dealltwriaeth o hanes crefydd yng Nghymru, ac yn arddangos ymroddiad a diwydrwydd to newydd o ysgolheigion sydd wedi ymroi i'r gwaith o godi'r llen ar ein hetifeddiaeth grefyddol. Olrhain hanes yr Eglwys Gatholig yng Nghymru rhwng 1916 a 1939 wna Trystan Owain Hughes gan ganolbwyntio'n arbennig ar natur a nifer ei haelodaeth a'i pherthynas ag enwadau eraill. Darlunia eglwys o estroniaid a mewnfudwyr a gâi ei thrin gydag amheuaeth a dirmyg, gan Ymneilltuwyr ac Anglicaniaid fel ei gilydd, yn ystod degawdau cyntaf y ganrif ddiwethaf. Yr oedd yn herfeiddiol a thrahaus ei hysbryd, ac yn breuddwydio am ennill Cymru'n ôl i'r Hen Ffydd tra ar yr un pryd yn ymgodymu â phroblem fawr gwrthgiliad a'r modd i estyn gweinidogaeth effeithiol i'w haelodau gwasgaredig. Eto'i gyd, nid arhosodd yr Eglwys Gatholig, fwy na sefyllfa grefyddol Cymru, yn ddigyfnewid, a gwelwyd ADOLYGIADAU O'R WASG hi, nid yn unig yn llwyddo i ddenu rhai Cymry amlwg i'w rhengoedd, ond hefyd yn ennyn parch ac edmygedd mewn sawl cymdogaeth wrth i'w hoffeiriaid a'i haelodau ymroi i wasanaethu'r gymuned. Arwyddocaol iawn yw sylw'r awdur a ddywed fod y Catholigion cyffredin wedi bod yn llawer mwy llwyddiannus yn cymeradwyo'u hunain i'w cyd-ddynion nag a fu'r arweinwyr, o bob tu, yn sicrhau goddefgarwch crefyddol a chyd- ddealltwriaeth. Datblygodd yr Eglwys Gatholig yng Nghymru yn fwy Cymreig ei hysbryd hefyd dan ddylanwad Y Cylch Catholig a diddordeb cynyddol rhai o' i haelodau yn rhawd yr iaith Gymraeg, ac esgorodd hynny, maes o law, ar agwedd mwy cadarnhaol tuag ati. Ond er gwaethaf y lliniaru a fu ar yr hen elyniaeth yn ystod yr ugeinfed ganrifbu'r frwydr rhwng Catholigiaeth a Phrotestaniaeth yn un chwerw, a brigodd y chwerwder i'r wyneb yn arbennig yn y frwydr i sefydlu ysgolion Catholig yng Nghymru. Y mae rhai o'r honiadau a wnaed gan Gatholigion a Phrotestaniaid yn ddigon i godi gwallt pen unrhyw un sydd ganddo unrhyw ymwybyddiaeth o ysbryd ecwmenaidd, ac afraid dweud i fygythiad secwlariaeth fod yn fwy cyfrifol na dim am ddwyn y naill wersyll a'r llall at ei goed. Tra bu i Trystan Owain Hughes olrhain twf a datblygiad un sefydliad yn arbennig, a hynny drwy ddyfynnu barn a nodi agwedd gohebwyr ac awduron cylchgronau a phapurau newydd, ymdrin â syniadau diwinyddol a wnaeth Robert Pope, gan ganolbwyntio ar gynnyrch llond dwrn o ddiwinyddion Cymreig. Y mae ei astudiaeth yn dreiddgar a dadlennol er bod y mynegiant braidd yn drymaidd, ac y mae yn fwy beirniadol ei agwedd na Hughes. Cloddia y tu ôl i honiadau'r diwinyddion gan amlinellu'n eglur wendidau a chryfderau rhyddfrydiaeth ddiwinyddol ddechrau'r ugeinfed ganrif a'r ymdrech i gymhwyso egwyddorion Cristnogaeth at fywyd y gymdeithas ddiwydiannol lie ceid gormes a chynni, anghyfiawnder ac anobaith. Ymdrinnir gwaith pedwar diwinydd o Gymro yn arbennig, sef D. Miall Edwards, Thomas Rees, John Morgan Jones a Herbert Morgan, a'r pedwar ohonynt yn ryddfrydwyr o argyhoeddiad, yn ceisio diwinydda yn unol â chanllawiau athronyddol eu cyfnod ac yn fawr eu consyrn am gyflwr cymdeithas. Eu nod oedd bod yn berthnasol i'r oes, a hanfod gwir grefydd iddynt hwy oedd moesoldeb. Drwy ddylanwad unigolion moesol ar y byd y gweddnewidid cymdeithas, a sylfeinid y weledigaeth hon ar wirionedd deublyg tadolaeth Duw a brawdoliaeth dynion. Rhoddir sylw manwl i'r diwinyddion hyn gan eu cymharu â'i gilydd, a deuwn yng nghwrs yr astudiaeth i'w canfod fel pobl yn ogystal â diwinyddion. Ond, er gwaethaf eu gofal a'u diffuantrwydd, yr oedd sylfeini athronyddol diwinyddiaeth y rhyddfrydwyr yn annigonol, a chyfraniad mawr y gyfrol hon yw beirniadaeth Pope o ryddfrydiaeth ddiwinyddol ynghyd â'-i'awgrymiadau ynglýn â'r hyn sydd ei angen i ffurfio efengyl gymdeithasol wirioneddol. Beirniada'r rhyddfrydwyr am roi lle eilradd i Iesu ac anwybyddu neges yr efengyl, dibrisio'r eglwys a hybu unigolyddiaeth, rhoi lle mwy canolog i gyflwr y byd na gwirioneddau'r Testament Newydd ac arddel dyneiddiaeth ar draul Cristnogaeth. Eto'i gyd, pwysleisia mai eu consyrn pennaf oedd llefaru gair a fyddai'n berthnasol i'w cyfnod, ac y dylid canmol eu hymdrech i holi ynghylch anghenion eu cymdeithas. Y mae'r bennod ar argyfwng ffydd yn amlinellu'r her a ddygodd uniongrededd newydd Karl Barth a'i ddilynwyr i arddelwyr rhyddfrydiaeth, ac olrheinir ynddi safbwynt tra gwahanol W.D. Davies a J.E. Daniel a'u pwyslais ar ddatguddiad, Crist y gwaredwr ac ymwybyddiaeth o bechod. Ar un olwg y mae'r bennod hon yn ymddangos fel atodiad i'r brif drafodaeth ond y mae'n werthfawr, er hynny, gan ei bod yn dangos pa mor anghydnaws â'i