Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gilydd oedd agwedd dau do 0 ddiwinyddion. Yn olaf ymae'n rhaid tynnu sylw at gasgliad trist Robert Pope fod diwinyddiaeth Gymreig wedi dechrau colli ei hawch yn nauddegau'r ugeinfed ganrif. Goddiweddwyd y diwinyddion rhyddfrydol gan ddatblygiadau athronyddol a gwleidyddol, a chyda diflaniad Miall Edwards a'i gyfeillion chwythodd diwinyddiaeth Gymreig ei phlwc. Nid yw Robert Pope yn ceisio mesur dylanwad rhyddfrydiaeth ddiwinyddol a'r pwyslais cymdeithasol ar agwedd meddwl aelodau cyffredin capeli Cymru rhwng 1906 a 1939, ac nid teg fyddai disgwyl iddo wneud hynny mewn cyfrol fel hon. Buddiol, er hynny, yw dwyn i gof eiriau G. Wynne Griffith yn y cyswllt hwn, a chofio fod sawl un wedi dal gafael ar yr eglwys a'r efengyl yn wyneb rhyddfrydiaeth, a hynny drwy 'deyrngarwch ysbryd a thorïaeth emosiwn' Elwyn Richards, Aberystwyth Y Peiriant Memynau The Meme Machine, Susan Blackmore, Oxford University Press 1999. tt 264, £ 18.99 Paham y dylid cyflwyno'r llyfr anghrefyddol hwn i ddarllenwyr Cristion, a'u hannog i'w ddarllen ac, yn ddigon posibl, i'w fwynhau? Am fod yma, mi dybiaf, un o'r ymdrechion gorau, a phwysicaf, ers blynyddoedd i gyflwyno meddylfryd a dehongliad newydd am ein bywyd a'n bod. Os nad yw'r Eglwys yn cytuno â'r esboniad hwn am wreiddiau bod am ein hymwybyddiaeth o'n hunain, am ewyllys rydd, am bersonoliaeth ac "enaid" yna rhaid iddi roi ei dadl mewn iaith yr un mor sionc ac mewn dull yr un mor onest a dwys ag yn y Ilyfr hwn. Beth felly yw "Meme Machine"? Chi. A fi. Pob enaid byw. "Each of us is a massive collection of memes running on the physical machinery of a human body and brain." (t236.) A beth yw "meme"? Yn fras, syniad; ac yn fwy manwl, syniad a all gael ei drosglwyddo i bobl eraill, a'i efelychu ganddynt ffydd yn yr Atgyfodiad, er enghraifft; neu'r arfer o sgwennu adolygiadau mewn cylchgronau; neu'r drefn Sol-ffa, neu'r confensiwn o yrru ar y chwith. Bathwyd y gair meme yn Gymraeg, memyn, mae'n debyg mor bell yn ôl â 1974, gan Richard Dawkins, Rhydychen, i geisio dangos bod syniadau (memynau) yn gallu bod, ac yn gallu cystadlu i oroesi a chael eu hamlhau, mewn modd cyfatebol i genynau corfforol. Eithr ni fu hwn am yn hir yn fawr mwy nag atodiad i'w drafodaeth ar y genyn The Selfish Gene, ac ati a bu'n bosibl i ddigon o "grefyddwyr" anwybyddu'r peth fel trafodaeth dechnegol ym maes arbenigol bywydeg academaidd. Camp Blackmore sy'n ddarlithydd seicoleg ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste yw mynnu defnyddio'r syniad o'r memyn i osod trafodaeth o'r corff ac o'r meddwl yn yr un cae, ac o dan yr un dehongliad. "For them [cymdeithasegwyr] the biological world and the social world are explained in entirely different ways and must remain divorced. Only when we can see a human being as a product of both natural [genynnau] and memetic selection can we bring all aspects of our lives together within one theoretical framework. "(t235.) Peidied neb â meddwl bod hyn oll yn rhyw wyddoniaeth sech, nac yn bell o fyd ein capeli a'n heglwysi. Fel arall; dyma awdur sy'n mynd i'r afael â phrofiadau dwys dynol cyfriniaeth; yr awen farddol a'r profiad o greu; cariad a hunan-aberth; yr angerdd i addoli; y dwymyn genhadol yn cydnabod ac yn dathlu'r rhain i gyd, ac yn eu gweu nhw oll i'w dehongliad. Cefais fy hunan mewn sawl oedfa yn sylwi ar ba memynau mewn pregeth oedd yn llwyddiannus, a pha rai'n aflwyddianus i'w hoes a'u cyd- destun. Sylweddolais wrth ei morio hi gyda'r Hen Bant ac Ann Griffiths mai canu memynau yw canu emynau a deall y broses yn well o'r herwydd. Gwrandewais ar wersi a dadleuon yr Ysgol Sut i oedolion ac i blant fel ei gilydd gyda dealltwriaeth newydd o weld yno memynau'n cystadlu gyda'i gilydd i oroesi i'r dyfodol. Darllenwch y llyfr hwn, a mentrwch ar y dasg o asio'r ffordd newydd hon o weld ac o ddehongli'r byd gyda'r gorau o'n ffordd draddodiadol. Dafydd Evan Morris, Cei Connah Ennill Cymru i Grist gan Gwyn Williams' Gwasg Bryntirion. Pris £ 3.25. Anerchiadau a draddodwyd yng Nghynhadledd Jiwbili Mudiad Efengylaidd Cymru yn Aberystwyth, Awst 1998, a gynhwysir yn y gyfrol hon. Ynddynt y mae'r awdur yn annog y Cristion i ennill Cymru i Grist mewn pedwar maes, y meddwl, pregethu, cariad a dioddef. Felly y rhennir y penodau. Seilir y sgyrsiau ar ddyfyniad Sais o hanesydd, nas enwir, a ddywed yn rhywle, nas gwyddom, mai'r rheswm dros gynnydd yr Eglwys Fore oedd i'r Cristnogion cynnar roi'r flaenoriaeth i'r pedwar maes yma. "They out-thought, they out-preached, they out-loved and they out-suffered." Gosodir cenhadaeth y Cristion ar seiliau Beiblaidd cadarn a hoffais sylw cyfoethog Gwyn Williams ar bregethu "y mae'n rhaid i ni gael ein hargyhoeddi bod gennym y neges mwyaf rhyfeddol, mwyaf grymus, mwyaf effeithiol, mwyaf godidog a welodd y byd erioed. Mae Duw ei hun yn hon." Cefais flas ar ddarllen y gyfrol fach daclus hon er i ambell i sylw fy anesmwytho megis hwnnw a geir yn y bennod ar 'Ennill y Maes ym Myd Cariad, mae'r pendil yn symud fwy i'r canol. Mae gennym ddiddordeb bellach nid yn unig yn eneidiau pobl ond dros eu anghenion materol yn ogystal. Serch hynny, gobeithio nad aiff y pendil ormod y ffordd arall. Credaf fod rhywbeth mawr o'i i le ar ein cyfundrefnau crefyddol os oes rhaid inni bryderu rhag i'r pendil droi'n ormodol i gyfeiriad gweithgareddau dyngarol yn enw lesu Grist. Y mae'r awdur, yn sicr, yn cynnig her i bawb sy'n cymryd Efengyl Iesu Grist o ddifrif, ac fe'ch gadawaf gyda dyfyniad arall o'r gyfrol, "Y mae'n rhaid i chwi fynd o'r gynhadledd hon i feddwl yn well na'r byd a pha well anogaeth i bob un ohonom ar gychwyn canrif a mileniwm newydd. Gwenda Richards, Porthmadog