Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSBRYD BYWYD Arweinydd: Y mae Ysbryd Duw yn ein plith: Pawb: Y mae yma i'n bywhau. Arweinydd: A Не y mae Ysbryd yr Arglwydd y mae rhyddid a thangnefedd. Canu (yn dawel a myfyrgar): Arweinydd: A hyn a fydd yn y dyddiau olaf, medd Duw: tywalltaf o'm Hysbryd Pawb: Y mae cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau trwy'r Ysbryd Glân Arweinydd: Ysbryd Duw a'n lluniodd ac anadl yr Hollalluog sy'n ein cadw'n fyw. Pawb: Os yw ein bywyd yn yr Ysbryd, ynddo hefyd bydded ein buchedd. Arweinydd: Y mae'r Arglwydd yn adfywio'r rhai isel eu hysbryd ac yn bywhau Pawb: Os ydym yn sefyll yn gadarn yn yr Arglwydd, y mae'n rhoi i ni fywyd. Canu eto y trydydd pennill o'r emyn 258: Arweinydd: Ysbryd Sanctaidd Duw, Darllen: Y mae Paul yn gwahaniaethu rhwng bywyd y cnawd, sef bywyd y sawl sy'n byw Emyn: 'Bywha dy waith, O! Arglwydd mawr.' Deunydd ar gyfer addoliad grwp (boed yn gynulleidfa fechan, yn grwp defosiwn neu'n gyfarfod gweddi) (Distawrwydd) 'Ddiddanydd anfonedig nef' (Ll.E. 258) ar bob dyn. y mae ef wedi ei roi i ni. calon y rhai cystuddiol. 'Cyfranna i'n heneidiau trist fel y daethost yn y dechrau i anadlu bywyd yn y cread, tyrd i'n bywhau ninnau yn awr. Deffro'n heneidiau â'th awel, llanw'n calonnau â'th gariad, grymusa'n ffydd, a rho i ni hyder a gorfoledd y bywyd sydd fywyd yn wir; er mwyn Iesu Grist. Amen. iddo'i hun ac i bethau bydol, materol, yn unig, a bywyd yn yr Ysbryd, sef bywyd y rhai sydd wedi derbyn y Crist atgyfodedig i'w calonnau. Yr Ysbryd a gyfododd Crist oddi wrth y meirw yw'r Ysbryd sy'n rhoi bywyd newydd yn barhaus i'r rhai sy'n byw yng Nghrist. Rhufeilliaid 8: 3-13. TE DEUM Arweinydd: Arglwydd bywyd, yr wyt ti yn agor dy freichiau i'n cofleidio yn dy gariad, ac i'n bywhau â'th Ysbryd Glân. Tyrd atom yn awr i adfywio'n ffydd, ac i blannu ynom awydd newydd i weddïo ac i dyfu ym mywyd Crist. Pawb: Ysbryd bywyd, anadla ar ein heneidiau llesg. Arweinydd: Gweddïwn dros y rhai sy'n teimlo'u ffydd yn wan a'u gofidiau yn eu llethu; y rhai sydd wedi pellhau oddi wrthyt ac yn ymbalfalu am ystyr a chyfeiriad i'w bywydau: Pawb: Ysbryd bywyd, tywys hwy i'r bywyd newydd sydd yn Iesu Grist. Arweinydd: Gweddïwn dros y rhai sy'n dy wasanaethu yn dy Eglwys ac yn tystio i Ti ym mywyd y byd, yn enwedig y rhai sy'n wynebu gwrthwynebiad a difaterwch ac yn digalonni yn y gwaith: Pawb: Ysbryd bywyd, rho iddynt wroldeb a nerth i ddyfalbarhau. Arweinydd: Gweddïwn dros y rhai sy'n dioddef tlodi a newyn, y rhai sydd ynghanol peryglon rhyfel a therfysg, a'r rhai sy'n ysglyfaeth i ormes a chreulondeb. Pawb: Ysbryd bywyd, arfoga ni i weithio dros heddwch a chyfiawnder yn y byd. Arweinydd: Gweddïwn dros y rhai sy'n wael mewn ysbytai neu yn eu cartrefi, yn enwedig y rhai y mae eu bywyd yn y byd hwn yn dod i'w derfyn, a'u hanwyliaid sy'n gofalu amdanynt. Pawb: Ysbryd bywyd, arwain hwy trwy y diwedd i ogoniant y bywyd tragwyddol. Arweinydd: Ysbryd Sanctaidd Duw, tyrd atom i orlifo'n bywydau â'th gariad, â'th ddoniau, ac â'th dangnefedd. Amen. Elfed ap N. Roberts.