Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyfres y Mudiadau Dyma ein Gwaith Uganda: y syched mawr Pan ddaw dwr yn rhad drwy'r tap, does dim rhaid i ni ofidio. Ond sut mae ymodopi heb ddwr yn y cartref? Gwraig weddw hanner cant oed yw Yustine Bakaine, ac mae hi'n byw ym mhentref Kagarama, de orllewin Uganda. "Mae'n cymryd dwy neu dair awr i fynd i nôl y dwr, ac mae'n rhaid i mi ei gario i gyd adref. Dwi'n cael fy ngorfodi i ddefnyddio unrhyw ddwr budr y gallaf ddod o hyd iddo, a dwi'n siwr mai dyna pam y bydda i'n mynd ynsâl." Ond mae yna lygedyn o obaith i Yustine. Mi fûm i yn Esgobaeth Kigezi yn ne Orllewin Uganda ym mis Mai y llynedd a gweld drosof fy hunan orfoledd y rhai oedd wedi cael dwr glan yn agos i'w cartrefi am y tro cyntaf erioed. Does dim prinder dwr yn ne orllewin Uganda. Cael at y dwr yw'r broblem. Gan ei bod yn ardal mor fynyddig mae'n rhaid i bobl gerdded ymhell i fyny ac i lawr y bryniau i gyrraedd y dwr. Mae nhw'n dweud bod pobl Affrica'n treulio 40 biliwn o oriau yn nôl dwr, ac mae'r dwr fel arfer rhwng milltir a hanner a thair milltir o'u cartref. Nid yn Affrica yn unig mae dwr glân allan o gyrraedd pobl. Bydd un o bob tri o bobl y byd yn wynebu prinder dwr erbyn y flwyddyn 2025 yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Tearfund. Erbyn hyn mae'r byd yn defnyddio chwe gwaith cymaint o ddwr ag ydoedd gan mlynedd yn ôl. A'r gwledydd tlawd sy'n rhedeg yn sych. Mae yna gogtel o achosion yn dod at ei gilydd i beri prinder: ·:· yr effaith tý gwydr (sy'n rhoi mwy na digon o law i ni tra'n peri mwy o sychder yn nifer o'r gwledydd tlawd) 8. Tear Fund pobl yn mudo i'r trefi a'r dinasoedd mawrion. Fedr dinasoedd fel Nairobi ddim ymdopi â'r cynnydd enfawr yn y galw am ddwr ffermio dwys mae cwmnïau mawrion sy'n tyfu cnydau fel coffi a thybaco mewn gwledydd fel Kenya a Malawi yn sugno dwr oddi wrth y bobl leol fel nad oes ganddyn nhw ddigon o ddwr i gynhyrchu bwyd ar gyfer y farchnad leol. Nid anialwch sych yw ardal Kigezi yn Uganda. Mae hi'n bwrw glaw yno am tua naw mis y flwyddyn. Mewn ardal fynyddig fel hon, mynd â dwr glân at y bobl leol yw'r broblem. Felly byw yn brin o ddwr glân mae tri chwarter trigolion Esgobaeth Kigezi. Mae gwneud hebddo'n golygu golchi llestri'n llai aml, ymolchi'n llai aml ac yfed dwr budr neu ddefnyddio dwr wedi ei lygru i baratoi bwyd. Gan mai dwr budr gan amlaf sy'n cario clefydau, aiff pobl yn sâl yn aml, a bydd llawer o blant yn cael dolur rhydd, a rhai hyd yn oed yn marw. Bydd plant yn colli ysgol, a'u rhieni'n colli diwrnod o waith, neu fethu gweithio ar y tir i dyfu bwyd. Yn ei dro mae hynny'n creu cadwyn o gynni. Heb ysgol dyw plant ddim yn dysgu darllen a chyfri, ac heb addysg gyflawn y tu cefn iddynt, bydd bywyd yn galetach wedi iddynt brifio. Heb waith, heb arian. Heb fwyd, heb egni a iechyd i weithio a chario dwr. Dyna pam fod Esgobaeth Kigezi yn benderfynol o ddod â dwr glan i holl drigolion y cylch. Ac mae nhw eisioes wedi llwyddo i gyrraedd chwarter y 400,000 sy'n byw yn yr Esgobaeth. Sut mae nhw wedi llwyddo? Drwy ddefnyddio technoleg syml fel casglu dwr glaw a gosod pibell a thap i gario'r dwr o'r ffynnon a gofalu fod y pentrefwyr lleol yn cyfranogi yn y gwaith. Y tanwydd sy'n gyrru'r cyfan yw ffydd a grym gweddi yr awydd i ddangos i'r plwyfolion fod Duw yn malio amdanynt. Mae'r neges honno'n glir ar ochr y Land Rover sy'n