Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cludo'r gweithwyr dwr o un pentref i'r llall; 'Dŵrrydd fywyd. Iesu rydd fywyd tragwyddol.' Ffeithiau dwr ·:· Yn Uganda dyw pobl ond yn defnyddio 9.3 litr o ddwr yr un y dydd. Does ond pedair gwlad arall yn Affrica'n defnyddio llai na hynny. Yng Nghymru byddwn yn defnyddio cymaint â hynny bob tro yr awn i'r ty bach. Dylai pawb ddefnyddio tua 45 litr o ddwr y dydd ar gyfer yfed, glanweithdra, a pharatoi bwyd. Mae 55 o wledydd, sef bron i un biliwn o bobl yn brin o'r targed hwn. Yng Ngorllewin Ewrop defnyddiwn dros 200 litr yr un yn ddyddiol Mae pobl Ewrop yn gwario mwy ar hufen ia bob dydd nag y byddai'n costio i ddarparu dwr glân a glanweithdra i bobl y gwledydd tlawd. Ffynonellau: The World's Water; Island Press; OFWAT; Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig Beth allwn ni ei wneud? Beth am gynnal gwasanaeth diolchgarwch ar thema dwr? Gallech ddefnyddio pecyn gweithgareddau Splash Outgan Tearfund. Codi treth dwr arnoch chi eich hunan! Ie, bob tro y byddwch yn defnyddio dwr gartref i ymolchi, llenwi'r tegell, golchi'r car neu yn y ty bach, gwnewch gofnod, a phenderfynwch faint yr ydych am ei roi tuag at ddwr glân i bobl dlawd bob tro y byddwch yn defnyddio dwr. Fe allech wneud hyn am un diwrnod neu am wythnos gyfan. Gorau oll os oes eraill yn eich eglwys yn gwneud yr un peth. Yna gallwch ddod â'r arian i gyd at ei gilydd. Fe allai hynny eich arwain i drafod sut y bu i'r ymarfer newid y ffordd yr oeddech yn defnyddio dwr. Cynaeafu dŵr. Dyma weithgaredd arall i'ch eglwys neu grwp ieuenctid. Clustnodwch wythnos pan fydd pawb yn ymrwymo i gasglu dwr glaw mewn bwced neu bot jam. Yna pan ddewch at eich gilydd gallwch dywallt y dwr i un bwced fawr (neu danc pysgod efallai). Gall hyn eich sbarduno i ddiolch i Dduw am gael dwr mor rhad, a chofio am y rhai sy'n brin ohono. Mudiad dyngarol efengylaidd yw Tearfund, yn gweithio i ddod â gobaith a chymorth i bobl dlawd mewn 90 0 wledydd. Cafwyd E32.5 miliwn o incwm yn 2000/2001. Mae Tearfund yn aelod o'r Pwyllgor Argyfyngau, ar y cyd â mudiadau eraill. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr ymgyrch Jiwbili 2000 i ymgyrchu i ddileu'r dyledion na ellid eu talu nôl gan wledydd tlotaf y byd. I gael rhagor o wybodaeth am Tearfund, cysylltwch â swyddfa Tearfund yng Nghymru: 01970 626006; cymru@tearf und org www. tearfund. org Siôn Meredith Rheolwr Tearfund yng Nghymru Y BEIBL CYMRAEG NEWYDD CYFRES 0 ESBONIADAU Llythyrau at y Galatiaid a'r Philipiaid GAN J. TUDNO WILLIAMS £ 5.50 1 a 2 Samuel GAN GWILYM H. JONES £ 6.50 AR GAELDDECHRAU MEHEFIN Meysydd astudiaeth YSGOUON SULOEDOUON 2001/2002 Bydd pecyn am bris arbennig ar gael i aelodau'r YsgoI SuI gan Gyngor Ysgolion SuI Cymru. Hefyd ar gael EFENGYL MARC gan D.P. DAVIES HOSEAAMICHAgan ERYL WYNN DAVIES £ 5.95 yr un Cyhoeddir gan WASG PANTYCELYN ar ran PWYLLGOR Y BEIBL CYMRAEG NEWYDD.