Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AR DANNAU CREDINWYR Molwn Di am hewl ein trafael, Arglwydd Dduw, ar hyd ein hoes, Yn dy olwg, yn dy afael Dan gysgodion bryn y Groes: Hewl y clir arweiniad moesol A gysegrwyd ganddo Ef, Iesu, ein Gwaredwr oesol, Gwir Eneiniog dae'r a Nef. Cerdd y DAFYDD OWEN Un o blant Dinbych, a fu'n weinidog yng nghylchoedd Yr Wyddgrug, Abersoch a Brynaman, yna'n athro Cymraeg yn Ysgolion Prestatyn a 'Glan Clwyd' a Chyfieithydd Sir Clwyd, gan barhau, bob amser, i ofalu am eglwysi. Prifardd Coron Bangor (1943), Cadair Hwlffordd (1972), a 'Choron Arian y Prifeirdd' yn Eisteddfod y Dathlu yng Nghaerwys yn 1968. Lluniwyd y gerdd wedi marwolaeth ei frawd,Y Parchedig Ddoethor W.T.Owen, Llundain, yn ddiweddar iawn. AR DANNAU CREDINWYR 'Nid oes dinas barhaus gennym yma', (Hebreaid 13: 14) Molwn Di am haul dy gariad, Arglwydd Dduw, yn wefr ddi-lyth, A'r drugaredd ddiamhariad A rydd barch i'n dewis byth. Eiddot Ti bob clod a goledd F' enaid ar yr ymdaith hon, A phob moliant a gorfoledd Yn oes oesoedd ger dy fron. Mis Dafydd Owen Molwn Di am hwyl cyd-deithwyr, Arglwydd Dduw, ffyddlondeb maith Y di-wamal, lawen weithwyr Sydd â'u calon yn dy waith: Plant y cydwybodau cyson, A ddwg iaith dy ras i'n clyw Y di-rysedd, diymryson A rydd gymaint blas i'n byw.