Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yny Cynulliad ®mm Herio'r Myth Yn y ffilm enwog honno o eiddo Monty Python, the Life of Brian, ceir trafodaeth ymhlith nifer o'r cymeriadau ynghylch yr hyn a wnaeth y Rhufeiniaid drostyn nhw a'u gwlad. Cafwyd argyhoeddiad ar ran y werin nad oedd y Rhufeiniaid a'u hymerodraeth fawreddog wedi gwneud unrhyw beth o bwys iddyn nhw. Yn y cefndir, clywyd llais bach yn crybwyll gwelliannau amlwg fel ffyrdd syth, pontydd a chyfundrefnau cyfreithiol gwell. Ar brydiau, bu dweud stori'r Cynulliad wrth eraill yn teimlo fel cerdded yn esgidiau'r cymeriad hwnnw. Ceir nifer o resymau am hyn. Natur a gofynion y swydd sy'n peri i mi godi llais yn y lle cyntaf. Ers agor y Cynulliad cefais fy nisgrifio fel sawl peth. Gwelodd newyddiadurwr arbennig yn dda i gyfeirio ataf fel 'God's spin doctor'. Aeth eraill yn y byd gwleidyddol a'r cyfryngau i'm trafod fellobïwr confensiynol. Gwnaed hyn er gwaetha'r ffaith i'r eglwysi fynnu nad wyf i lobïo. Gallaf alluogi eraill i lobïo, ond nid wyf yn rhinwedd fy swydd, i wneud hynny drostyn nhw. Gorwedd gorchwyl syml iawn wrth hanfod fy ngwaith. Gofynnir i mi ddweud wrth y gymuned eglwysig yng Nghymru beth mae'r Cynulliad yn ei wneud. Erbyn hyn, mae'r weinidogaeth hon yn cyffwrdd ar bob agwedd ar fywyd Cymru. Amcan diwinyddol y cyfan, mi dybiwn i, yw galluogi'r eglwysi nid yn unig i ddiogelu eu buddiannau mewn cyswllt gwleidyddol newydd, ond i weithredu ac i ddatgan barn mewn modd sy'n broffwydol. Llwyddwyd i wneud hyn eisoes mewn sawl maes: troeon difrifol yr argyfwng gwledig, helyntion BA a Corus, ac yn fwy diweddar, buddiannau'r trueiniaid hynny sy'n ceisio lloches ym Ffydd AArtb fy Newaîtb Mhrydain ac sy n cael eu hunain yng ngharchar Caerdydd. Er bod y gwaith y byddaf yn ei gyflawni o ddydd i ddydd yn ymwneud â chymunedau ffydd, fel rhywun a gafodd ei ordeinio'n offeiriad, mae'n rhaid i mi drafod a gweld fy swydd yn nhermau galwedigaeth. Gofynnir hefyd i mi wynebu cwestiwn amlwg: Onid bod yn fugeiliol yw priod waith offeiriad? Cynigiais fy enw ar gyfer y swydd arbennig hon gan gredu taw hynny yr oedd Duw am i mi ei wneud. Disgynnais dan yr un argyhoeddiad wrth gynnig fy hun i'r offeiriadaeth yn y lle cyntaf, wrth geisio am nifer o ofalaethau dros gyfnod o ugain mlynedd, ac wrth fentro'n benodol i ffurfio gweinidogaeth bro cydenwadol ym Motwnnog. Nid encilio o'r weinidogaeth blwyfol dan gysgod rhyw gyfaddawd neu anniddigrwydd wnes i wrth ymgymryd â'r swydd arbennig hon, ond derbyn yr her i gymryd fy offeiriadaeth a'i harddel mewn cyswllt cwbl newydd y byd gwleidyddol. I mi, byddai aros yn y weinidogaeth blwyfol yn wyneb argyhoeddiad o'r fath wedi cynrychioli gweithred o anufudd-dod. Wrth gerdded yn ddiweddar gydag Edwina Hart, un o weinidogion y Cynulliad, drwy ddrysau haearnaidd carchar Caerdydd i ymweld â'r rhai gan Aled Edwards sydd wedi eu gosod yno am geisio lloches, cefais yr argyhoeddiad fy mod yn yr union fan yr oedd Duw am i mi fod. Teimlais hefyd, hyd yn oed mewn carchar, fy mod yn cyflawni'r hyn yr oedd Duw am i mi ei wneud. Gan gofio geiriau trawiadol Crist yn Efengyl Mathew, rhoddwyd cyfle i mi fel offeiriad i ymweld ag un o'r rhai bychain hyn, Crist ei hun, mewn cell. Ceir mwy i'r offeiriadaeth na'r hyn a ystyrir yn fugeiliol. Yn ôl yr hen Lyfr Gweddi, disgwylir i offeiriaid fod yn 'genhadon, yn wylwyr ac yn oruchwylwyr yr Arglwydd'. Gofelir nid yn unig dros y rhai sy'n perthyn i gorlan arbennig ond dros y rhai a aeth ar ddisberod yn y 'byd drygionus hwn' Nid syniad newydd yw cymryd yr offeiriadaeth i gyswllt bydol. Erbyn hyn, ceir lIe cynyddol mi gredaf i fynd â gweinidogaeth neu offeiriadaeth i'r byd. Ofer braidd yw disgwyl i'r byd ddodi'reglwys. Mae'r swydd yn cynnig cyflog i mi, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef, mae dweud stori gynnar datganoli hefyd yn llafur cariad. Roeddwn o blaid sefydlu'r Cynulliad yn 1997, ac ar ôl gwylio'r sefydliad ar waith yn ddyddiol am gyfnod o ddwy flynedd, rwyf yn fwy argyhoeddedig heddiw nag yr oeddwn bryd hynny taw da o beth oedd i Gymru ei dderbyn. Wedi dweud hyn, peth hynod o beryglus yw i'r Cristion ymrwymo ei hun yn ddi-gwestiwn wrth unrhyw gyfundrefn wleidyddol. Mae'r Cynulliad fel pob corff cyhoeddus arall yn llwyddo i gyflawni pethau da. Gall wneud yr hyn sy'n ddrwg hefyd. Ceir lle i'r Cynulliad wella. Mae'r proffwyd yn canmol, yn ceryddu ac yn trafod gwellhad a gwaredigaeth. I mi, mater o ffydd yw ymwneud a gwleidyddiaeth. Dywedir yn aml nad oes modd cyplysu gwleidyddiaeth a