Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

chrefydd. Mae hyn yn heresi ac yn tramgwyddo'r hyn y mae'r ffydd Gristnogol yn ei gredu am y Duw sy'n Dad, yn Fab ac yn Ysbryd Glan. Gan i ddyn gael ei greu ar ddelw Duw gwelaf fod gweithgaredd gwleidyddol yn deillio o'r gymdeithas ddwyfol honno sydd i'w chanfod yn y Drindod. O gymryd diwinyddiaeth y Drindod o ddifrif mae'n rhaid i mi ystyried oblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol y gred honno sy'n gweld cyfartaledd a chydbwysedd yn deillio'n sylfaenol o'r Drindod. Mae'n rhaid i mi ddatgan, ar sail yr hyn a welaf o ddydd i ddydd, nad yw Cymru yn mwynhau'r hyn a ddylai yn nhermau cyfartaledd. Yn hyn o beth, nid yw ein gwlad yn nodweddu hanfodion yr hyn a ddatgelir ac a gyhoeddir yn y dwyfol. Ceir anghyfartaledd sylfaenol rhwng sefydliadau Cymru a llysoedd grym San Steffan. Gwelir gwahaniaethau sylfaenol hefyd rhwng cymunedau a phobloedd yng Nghymru ei hun. Mae map tirwedd tlodi'r Cymry yn Gwasg Bryntirion www.mudiad-efengylaidd.org C 01656 655886 Cofiwch alw i'n gweld yn Eisteddfod Dinbych. Cyfle i roi eich pwys i lawr a chael paned a sgwrs weld deunydd ar gyfer plant, calendr a llawer o Iyfrau Llyfrau ar fin ymddangos: Golau Gwlad: Cristnogaeth yng Nghymru: 200-2000 gan Gwyn Davles Llyfr unigryw ar hanes Cristnogaeth yng Nghymru sy'n cyflwyno darlun cyflawn, manylion ar agweddau ac unigolion, dyfyniadau a lluniau iu, nifer o ffotograffau lliw llawn a geirfa eang. Mae Dr Gwyn Davies yn addysgwr profiadol gyda'r gallu i gyflwyno hanes yn fywiog mewn arddull syml. Dyma Iyfr i athrawon, myfyrwyr a'r darllenydd cyffredin. ISBN: 185049 180 1 Pris: £ 5.95 Cerddi ac Ysgrifau gan Mair Eluned Davies Golygydd: John Emyr Amrywiaeth o ddeunydd yn cynnwys adran fywgraffyddol, cerddi, emynau ac ysgrifau. Syniadau cyffrous a dawn i'w mynegi mewn ffordd ffres ynghyd â nifer o luniau du a gwyn gwreiddiol gan Rhiain Davies, merch yr awdures. Llyfr clawr caled i'w drysori. ISBN: 1. 8509 182 8 Pris: 13.95 Belbl y Bobl Bach gan Carine Mackenzie Addaslad Cymraeg gan Llio Adams 69 o storÏau mewn arddull syml ar gyfer plant (4 7 oed) gyda llun lliw I bob stori. Cwestiwn am bob stori a chyfeiriadau beiblaidd I bob un. Llyfr i'r cartref a'r ysgol. ISBN: 1 85049 183 6 Pris: £ 2.95! gymhleth. Teg, er enghraifft, yw dweud bod wardiau cyfoethocaf Cymru i'w canfod yng Nghaerdydd. Mae rhai o wardiau mwyaf difreintiedig Cymru i'w canfod yng Nghaerdydd. Mentraf hefyd ddweud taw yn y maes penodol hwn y dylid trafod stori'r Cynulliad, a thros y degawd nesaf, fesur ei lwyddiant. Disgwylir felly mewn ffydd am nodweddion cymdeithas sy'n fwy cyflawn a chyfartal. Er gofid, cafwyd arwyddion cynnar y bydd y Cynulliad yn cael trafferth i gyflawni hyn. Ond, mae'n ddyddiau cynnar ac fe gafwyd datblygiadau o bwys. Yn groes i'r myth, fe gafwyd llwyddiannau aruthrol ym mhlentyndod y Cynulliad. Un o'i lwyddiannau mawr oedd iddo ddiogelu £ 421 miliwn o'r Trysorlys ar gyfer ardaloedd Amcan Un. Oherwydd y pwysau gwleidyddol o Gymru, rhoddwyd dros £ 600 miliwn ychwanegol i ardaloedd tlodion Lloegr hefyd. Fel cenedl, gallwn fod yn falch o'r cyfraniad hwn, ond, prin iawn fu'r canmol. Prin fu'r canmol hefyd ynghylch gwaith arloesol Cymru parthed y Comisiynydd Plant a sut i weinyddu addysg ôl-16. Gwelodd yr Adran Addysg yn dda i ddefnyddio diwygiadau Cymru fel cynsail ar gyfer Lloegr. Mewn ffyddlondeb i'w Dduw, gall y proffwyd herio'r myth bod cyfundrefn wleidyddol arbennig sy'n methu, yn dda: mewn ffyddlondeb i'w Dduw, gall y proffwyd herio'r myth nad yw cyfundrefn wleidyddol sy'n llwyddo, yn cyflawni unrhyw beth. Ceir lle i'r llais a glywir yn Life of Brian. Bu'r proffwydi yn y fan hon o'r blaen.