Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Chagall yn y Louvre. Cawsant eu cyfareddu'n llwyr gan ffenestri wedi eu llunio ganddo ar gyfer synagog yn Jeriwsalem ac wedi eu trosi i wydr gan Simon o Reims. Edmygedd eu merch o waith Marc Chagall symbylodd Syr Henry i gomisiynu ffenestr goffa i'w rhoi yn nwyrain yr eglwys. Roedd y ffaith i Marc Chagall dderbyn y comisiwn ynddo'i hun yn ddigwyddiad o bwys oherwydd mai hwn oedd y comisiwn cyntaf iddo ewyllysio ei dderbyn yn Lloegr. Wrth sylweddoli hynny, gofynnodd Syr Henry iddo wneud yr holl ffenestri ac fe gyfrannodd eraill arian i gyflawni'r gwaith. Gosodwyd saith ffenestr yng nghorff yr eglwys yn Hydref 1974 a phedair arall wedyn yn y gangell yn 1985 nes gwneud yr eglwys hon yn un o ddwy eglwys, yn ôl yr hanes, trwy'r byd lle mae'r ffenestri lliw wedi eu llunio gan un artist modern byd enwog. Mewn geiriau eraill ni all rhywun osgoi'r syniad o gyfanwaith. Ond i fynd yn ôl at y ffenestr ddwyreiniol sy'n ganolbwynt i'r cyfan, cysylltir y ddamwain a'r brofedigaeth â dioddefaint Iesu Grist ar y Groes. Mae'n gasgliad o ddigwyddiadau ynddynt eu hunain a chyfleir symudiad trwyddynt eto y mae'n gyfanwaith. Er bod Iesu Grist yn hongian ar y Groes, y mae'n cael ei gyflwyno yn wr ieuanc apelgar i bobl ieuanc.Y mae Marc Chagall yn gallu cyfuno'r llawen a'r trist mewn ffordd unigryw. Yn union fel y mae'r lliwiau yn y ffenestri yn toddi i'w gilydd mewn modd neilltuol. Yng ngwaelod y ffenestr cawn y ferch ieuanc yn ymchwydd y dwr, gyda'r fam ar y llaw chwith yn coleddu ei dau blentyn ac yn y gwaelod i'r dde ceir ffigwr yn mynegi galar y teulu a chyfeillion. Ond o gynddaredd y môr gwelir merch ieuanc yn cael ei chodi i ddyfroedd llonyddach. Ceir ysgol yn esgyn hyd at yr Iesu ar y Groes gydag angel i'w croesawu. Y mae dwy o'r merched wedi cyrraedd y brig ac y mae hithau wedi cymryd y cam cyntaf ar yr ysgol.Sumbol a lawenydd yw'r ceffyl yn prancio wrth weld y merched yn esgyn o'r dyfroedd.Ond rhaid cofio fod Marc Chagall yn hoff iawn o roi ffigurau sumbolaidd o'r Beibl yn ei waith fel y dengys y ffenestri eraill lIe cawn adar, blodau, cylchoedd o leuad, creaduriaid y môr, asynnod a saint ac yn y blaen. Ni ellir eu gweld yn glir ond o rai cyfeiriadau a phan fydd yr haul yn llewyrchu trwyddynt. Daw hynny a ni at un pwynt cyffredinol ynghlwm â'r ffenestri eraill.Ar yr ochr chwith wrth edrych i lawr yr eglwys ceir ffenestri o las tywyll ar ffurf arbennig, sy'n ôl un awgrym yn golygu gwarchodaeth rhag peryglon o'r tu allan. Yna ar yr ochr dde y ffenestri melyn euraidd, lIe gall yr haul daflu llawenydd a gobaith trwyddynt i'r ddynoliaeth. Y mae'r lliwiau yma ynddynt eu hunain yn arwyddocaol ac argraffiadol.Gofynnais i'r ficer y Parch. Jeremy Ive, wrth ofyn am ganiatâd i ddefnyddio'r lluniau, beth oedd eu dylanwad ar yr addolwr, a'i ateb oedd eu bod yn gymorth i gyfeirio rhywun at y trosgynnol neu'r tu hwnt. Gan mai diben pennaf y gyfres hon yw Goleuo'r Gair, ga'i orffen gyda grym goleuni. Cafwyd cyfres fer o raglenni ar y teledu'n ddiweddar o dan y teitl Artthatshook the world Y rhaglen gyntaf oedd llun porthladd diwydiannol digon dilewyrch mewn niwl yr oedd Claude Monet yn gyfarwydd â fo. Ond un bore pan aeth heibio, yr oedd y wawr newydd dorri, a llewyrch yr haul ar y dwr a'r porthladd wedi ei weddnewid. Dyma fan cychwyn arlunwyr argraff. Dyna fu Monet wedyn.Ni ddylem gyfyngu'r synhwyrau ond ceisio eu symbylu ac felly mewn addoliad.