Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLAIS YR IFANC Y Mudiad Charismatig a'r Eglwysi Prydeinig Heddiw (Rhan 2) Y sylw cyntaf y gwna'r mwyafrif o ymwelwyr i eglwys charismatig yw fod yna lawer iawn o ganu, lan hyd at hanner awr, ar ddechrau'r gwasanaeth, a'i fod yn ymddangos yn weddol anffurfiol. Geiriau syml ar y cyfan sydd i ganeuon charismatig, a rhinwedd y caneuon gorau, er enghraifft y rhai a gyfansoddwyd gan aelodau o'r eglwysi Vineyard, a dyfodd yng Nghalifornia dan arweinyddiaeth John Wimber, yw eu bod yn galluogi'r addolwyr i ffocysu ar un neu ddwy o nodweddion person Crist, neu un elfen o'i waith ac o waith yr Ysbryd heddiw, e.e. Jesus, Be the Centre, Be my soul, Be my guide, Jesus. Cwyn a glywir weithiau yw fod y caneuon yn rhy syml a ddim yn dysgu unrhyw ddiwinyddiaeth i'r gynulleidfa fel y gwna'r hen emynau efengylaidd, ond dylsem sylweddoli fod geirfa rhai emynau mor hen- ffasiwn fel eu bod yn amhosibl eu deall heb radd mewn diwinyddiaeth! Hefyd gall fod pobl yn teimlo'n chwithig mewn addoliad charismatig, hyd yn oed o'r fath mwyaf 'sidet', oherwydd fod yr anerchiad at Dduw yn hynod o bersonol, yn ymylu ar yr erotig weithiau, ac mae'n wir i ddweud fod tuedd at awyrgylch sentimental. Er hynny, pwyslais cyffredinol ar y posibilrwydd o fod yn agos at Grist yn ei gyflawnder fel ffrind, brawd, carwr, brenin, sydd yma, fel yn y Beibl a'r traddodiad Cristnogol, ac mewn oes ble mae pobl yn gorfod rhoi eu sylw i gymaint o bethau ar yr un pryd, mae ffocysu ar un neu ddwy elfen o'r Efengyl ar y tro yn bwysig. Dyma wedi'r cwbl mae'r chants byrion o Taize yn eu gwneud. Dim ond ar ôl gweld yr Efengyl yn y ffordd hon y des i ddeall arwyddocâd ysbrydoledd erotig Ann Griffiths a Williams Pantycelyn: mae'n siwr fod nifer fawr o bobl ddim yn deall erbyn heddiw taw'r un ymdeimlad o agosrwydd at Dduw oedd yng nghalonnau'r rhain, a ddirmygwyd gyda'r rhelyw o'r Methodistiaid fel 'enthu- siasts', ag sydd yng nghalonnau nifer fawr o addolwyr. Agweddau Eraill Agweddau pwysig eraill charismatig yw'r pwyslais newydd ar y weinidogaeth iacháu, y frwydr ysbrydol, proffwydoliaeth a phlannu eglwysi newydd. Nid oes lIe yn yr erthygl hon i drafod y rhain, ond mae cnwd bychan o lyfrau cyfoes ardderchog sy'n manylu arnynt ac yn eu hasesu. Efallai fod angen gofal mawr wrth asesu mudiad mor ifanc. gan Carys Moseley Rhaid sylweddoli fod tueddiadau anysbrydol yn medru copïo gwaith yr Ysbryd fel cysgod, gan roi darlun negyddol o'r ffydd, e.e. obsesiwn ag ysbrydion drwg, 'proffwydo' sy'n ddim mwy na siarad y dwli cynta' sy'n dod i'r meddwl, gweld y byd cyfan fellle hollol ddrwg yn hytrach na lIe sathredig. Ffurf ar paranoia yw'r rhain oll, awch ofergoelus am weld achos personol y tu ôl i bopeth, gan anghofio fod Duw yn ei sofraniaeth yn caniatáu rhyddid i'w greadigaeth. Yr hyn sydd yn rhaid i ni ei sylweddoli ydy fod y capeli Cymraeg a'r pentecostals yn rhannu'r un traddodiad pwiritanaidd, ymneilltuol a chynulleidfaol neu bresbyteraidd, h.y. ni allwn fforddio anwybyddu'r traddodiad pentecostal a'i labelu yn 'fundamentalaidd' jyst am taw dyna rydyn ni wedi ei wneud am y can mlynedd diwethaf. Ceir fod y mwyafrif o'r ohebiaeth yn y wasg ynglyn â'r mudiad charismatig yn ddirmygus ac yn arwynebol, yn canolbwyntio ar sgandal ond heb gynnig dadansoddiad Cristnogol a fyddai'n ceisio gwella'r niwed a dangos ffordd ymlaen ar ôl edifarhau, ond mae gormod o bobl yn dal i gredu popeth mae'r wasg yn ei ddweud ynglŷn â mudiadau crefyddol nad sydd o'r enwadau 'parchus' oherwydd mae'n haws osgoi'r eglwysi charismatig a'u labelu fel sectau yn llawn pobl dwp neu wallgo. Dylsem ofyn i'n hunain pam fod ein heglwysi ni mor wag, a pham fod yr eglwysi efengylaidd charismatig mor llawn ledled y wlad, a ledled y byd? Lledu fel Tân Gwyllt Cristnogaeth pentecostal ac efengylaidd yw'r pwyslais crefyddol sy'n tyfu gyflymaf yn ein byd ni heddiw, yn enwedig yn Ne America ac Affrica; perthyn chwarter y Cristnogion yn y byd heddiw i eglwys charismatig neu pentecostal. Rhaid cydnabod o ddifrif fod y feddylfryd ryddfrydol seciwlar, nad yw'r goruwchnaturiol yn gallu neu i fod i weithio o fewn hanes, wedi effeithio'n ddirfawr ar ein heglwysi, ein colegau a'n hadrannau diwinyddol a'n prifysgolion yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae'n hawdd iawn i bobl addysgiedig dwyllo eu hunain i feddwl nad yw'r mwyafrif o bobl yn cymryd diddordeb mewn profiad ysbrydol neu gwestiynau ynglyn ag ysbrydoledd. Gan fod y feddylfryd hon mor drwyadl yn y prifysgolion a'r colegau, mae wedi treiddio i mewn i'r cyfryngau a'r wasg hefyd. Bu anthropolegwyr erioed ar y cyfan yn gweld crefydd parhâd ar dud 17