Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EMAUS: Ffordd y Ffydd Cyfarfod i lansio deunydd hyfforddiant cydenwadol newydd ar gyfer yr eglwysi yng Nghymru "Lansiwyd Cwrs Hyfforddi Emaus yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar y 7fed o Fehefin eleni. Dyma fenter newydd sy'n cael ei noddi gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru mewn cydweithrediad gyda Chyngor Ysgolion Sul a Cyhoeddiadau'r Gair. Yr oedd cynrychiolwyr o'r enwadau yn bresennol a chafwyd cyfarfod llwyddiannus i gyflwyno'r cyfrolau i sylw'r genedl. Agorwyd y cyfan gyda defosiwn gan y Dr Densil Morgan a dilynwyd ef gan Dr Fiona Liddel a bwysleisiodd bwysigrwydd y gwaith o hyfforddi ar gyfer yr holl eglwysi. Mae angen, meddai magu to newydd o arweinwyr yn ogystal â meithrin a datblygu ffydd pobl ei heglwysi. Cyflwynwyd copïau o'r ddwy ffeil i gynrhychiolwyr yr enwadau sy'n noddi'r fenter gan y Parchg Aled Davies a chafwyd ychydig o hanes y broses o'i addasu i'r Gymraeg. Cyfeiriodd at waith y ddau gyfieithydd, Mrs Margaret Cynfi a'r diweddar Barchedig Byron Evans. Cyflwynwyd copi o'r gwaith hefyd i olygydd y gwaith, sef y Parchg Athro Euros Wyn Jones. Rhoddodd yr olaf anogaeth i'r rhai oedd yn bresennol i ddefnyddio'r cwrs yn yr eglwysi gan hyderu y gwelir adnewyddiad yn ffydd a thystiolaeth yr eglwysi. Mynegwyd y diolchiadau gan Lywydd Cytûn, Y Parchedig Peter Dewi Richards. Cwrs newydd a chyffrous i eglwysi hyfforddi ac adeiladu eu haelodau yn y ffydd yw Emaus. Cyhoeddwyd ef yn wreiddiol yn y Saesneg gan Cymdeithas y Beibl a Church House Publishing nôl yn 1997, a chychwynnwyd ar y gwaith o'i addasu i'r Gymraeg hefyd y pryd hynny. Ffrwyth pedair blynedd o waith felly oedd cyhoeddi'r cwrs, sy'n cynnwys 30 uned o weithgarwch ar gyfer hyfforddiant a thrafodaeth ymhlith aelodau ein heglwysi. Mae'n addas i weinidog neu arweinydd arall oddi mewn i eglwys ei ddefnyddio gyda'u pobl. Darperir nodiadau i'r athro ac i'r disgyblion, ynghyd â deunydd addoliad i'w ddefnyddio ymhob cyfarfod. Mae cyfle hefyd i ffotocopïo taflenni ar gyferygrwp. Lawnsir dwy ffeil gynhwysfawr i ddechrau, sef Tyfu fel Cristion, a YFfordd Grístíonogol o fyw. Dyma gynnwys y cyntaf: ·:· Tyfu mewn gweddi ·:· Tyfu yn yr Ysgrythurau ·:· Bod yn Eglwys ·:· Tyfu mewn addoliad ·:· Bywyd, marwolaeth a'r gobaith Cristionogol Yn yr ail ceir y themâu hyn: Darluniau Byw ·:· Goresgyn y Drwg ·:· Hunaniaeth Galwad i fywyd Dyma raglen waith adeiladol i'r eglwysi am nifer o flynyddoedd a gallwch ddewis a dethol fel y mynnwch pa uned i'w dilyn. Mae modd hyd yn oed i eglwysi a ddaliwyd gan anobaith gael eu newid wrth iddynt hwythau droedio Ffordd Emaus a dod i adnabyddiaeth newydd o'r Iesu byw! Cost y ddau lyfryn yw £ 17.50 yr un, a gellir llungopïo'r deunydd yn ôl y galw. Maent ar gael gan y tri enwad neu yn uniongyrchol gan y cyhoeddwyr, Cyhoeddiadau'rGair, drwy ffonio 01248382947. Pwysleisiwyd hefyd bod yna swyddogion ar gael gan yr enwadau a fyddai yn barod i drefnu cyrsiau ac i drafod dulliau o hyfforddi yn yr eglwys leol.