Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Clwyd Ar lawr ffrwythlon Dyffryn Clodfawr Clwyd" heb fod nepell o faes Eistedd- fod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2001 mae'r pedair eglwys sy'n ffurfio ein gofalaeth ni sef Capel y Waen, Bodffari; Capel y Pentre, Llanrhaeadr; Capel y Dyffryn, Llandyrnog; a chapel Gellifor. Maent yn eglwysi gwahanol iawn o ran ffurf a natur, ond serch hynny yn cydweithio yn hapus iawn fel gofalaeth. Sialens i unrhyw gymdeithas neu fudiad ydi apelio at rai o bob oed a'u cynnwys yn ei gweithgarwch ymateb i her yr unfed ganrif ar hugain tra'n parhau i warchod pethau gorau ein hetifeddiaeth fel Cristnogion o Gymry. Tydi pob arbrawf ddim wedi llwyddo a tydi pawb ddim wedi eu plesio, ond bydd cyfle i bawb leisio ei farn mewn cyfarfod eglwysig blynyddol pryd byddwn yn arfarnu gwaith y flwyddyn a aeth heibio ac yn cynllunio ymlaen am y flwyddyn sydd i ddod. Er ein bod yn chwilio yn barhaus am ffyrdd newydd a gwahanol o weinidogaethu, mae bugeilio yn dal i fod yn agos at frig ein rhestr blaenoriaethau nid yn unig yn yr ystyr o Weinidog yn ymweld â'i aelodau, ond hefyd yn y gofal a'r cariad mae'r aelodau yn ddangos at ei gilydd. Tystia nifer sydd wedi bod trwy gyfnod o argyfwng neu brofedigaeth fod hyn wedi bod yn gymorth mawr iddynt i ddod i delerau a'u trallod ac ymdaflu unwaith eto i weithgarwch yr ofalaeth. PATRWM YR ADDOLI Mewn gofalaeth ble mae bron i chwarter yr aelodau o dan bymtheg oed mae'n naturiol ddigon fod plant yn cael lIe blaenllaw ym mywyd yr eglwysi. Mewn tair o'r eglwysi mae'n arferiad bellach fod y plant yn cymryd y rhannau arweiniol yn yr oedfa, gan feithrin eu hyder i gymryd rhan yn gyhoeddus a datblygu'r arfer o ddod i addoliad gyda'n gilydd fel teuluoedd. Ar y Sul cyn y Nadolig daw plant yr ofalaeth i gyd at ei gilydd 85 ohonynt mewn nifer i gyflwyno hanes y geni ar lafar ac ar gân. Y mae trefn a natur yr addoliad yn amrywio o eglwys i eglwys o fewn yr ofalaeth. Cyfnod i addoli yw oedfa ac mae'n rhaid i'r addoliad hwnnw fod yn fyw, yn gyffrous, ac yn frwdfrydig. Mae'n rhaid i'r Efengyl fod yn ganolog a thrwy ddehongliadau gwahanol, fe geisiwn gyflwyno'r neges yn gyfoes i gadw diddordeb ac ymrwymiad at waith yr Eglwys. Mae ystwytho a gwyro oddi wrth draddodiad wedi talu ffordd yng Ngellifor. Roedd yn achos pryder i ni fod y teuluoedd ifanc yn dod yn gryno i'r Ysgol Sul yn y bore ond yn gyndyn o droi allan yr eildro i oedfa yn y prynhawn. Y canlyniad oedd fod cynulleidfa'r p'nawn yn denau iawn ac nad oedd plant na ieuenctid yn cael cyfle i arfer dod i oedfa. Cychwynnwyd arbrawf o gynnal yr oedfa a'r Ysgol Sul ar y cyd am 11:15 y bore ac erbyn hyn fe ddaw ar gyfartaledd rhyw hanner cant o gynulleidfa gan gynnwys y plant sy'n sicr yn fwy teilwng o eglwys sydd wedi derbyn naw teulu newydd yn ystod y tair blynedd diwethaf. Yng nghapel y Dyffryn, y mae'r oedfa drafod wedi ennill ei phlwy. Bydd y Gweinidog yn cyflwyno'r maes yn ystod ei bregeth ac yna bydd y gynulleidfa gyfan yn rhannu yn grwpiau i drin a thrafod pob un yn ei dro yn cael cyfle i arwain y drafodaeth. Penderfynwyd eleni peidio â chwilio am genad ar wyth o'r Suliau a gofyn i deuluoedd yr eglwys fod yng ngofal yr Oedfa. Mae bron i bum mlynedd bellach ers ffurfio Côr yr Ofalaeth tua hanner cant o aelodau sy'n dod at ei gilydd ar nos Sul i ymarfer. Cawn gyfle i glywed ffrwyth eu llafur ddwywaith y flwyddyn, ar y nos Sul cyn y Nadolig yn ein hoedfa garolau, ac ar nos Sul y Pasg. Mae elw cyngherddau'r côr yn gymorth i gynnal peiriant dyblygu'r ofalaeth y llawforwyn orau gafodd unrhyw weinidog erioed (ar wahân i'w wraig!!) Yr Ysbrydol a'r Materol Yn ogystal â'r arlwy ysbrydol mae'r arlwy faterol yn bwysig, gan inni sylweddoli ers amser bellach mai "nid ar fara yn unig bydd byw dyn". Mae pob un o'r eglwysi yn cynnal cinio cynnil unwaith y mis ar y cyd efo'r Eglwys yng Nghymru cinio o gawl,