Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bara, a theisen am y pris rhesymol o £ 1-50 a rhan o'r elw yn mynd at Gymorth Cristnogol. Yna ar yr ail ddydd Iau o bob mis y mae pawb sy'n berchen ar lyfr pensiwn (neu o fewn cyrraedd rhesymol) rhyw wythdeg ohonom i gyd yn cael mynd i westy lleol y Bryn Morfydd i gael cinio. Bydd y rhai fydd yn dal yn effro wedi'r cinio yn cael cyfle i wrando ar siaradwr neu blant o ysgol leol yn cynnal cyngerdd byr. Yr Wythnos Fawr Credwn fod ein hwythnos weithgareddau a gynhelir yn ystod yr Wythnos Fawr wedi dod â ni i gyd at ein gilydd fel eglwysi gwahanol o fewn yr ofalaeth ac fel rhai o bob oed. Bydd yr wythnos yn cychwyn gyda gwasanaeth plant yr ofalaeth ar Sul y Blodau. Bydd y plant wedi bod yn brysur yn yr Ysgol Sul a'r clybiau plant yn ystod y tymor yn paratoi crefftau ar gyfer eu gwerthu mewn bore coffi yn ystod yr wythnos. Byddant hefyd yn cael diwrnod o weithgareddau amrywiol dan arweiniad medrus gweithiwr ieuenctid yr henaduriaeth. Cyflwynir holl elw gweithgareddau plant yr wythnos at waith UNICEF. Yn ystod misoedd y gaeaf bydd rhai o'r merched wedi bod yn ddiwyd yn pwytho a bydd eu gwaith yn cael ei arddangos yn ystod yr Wythnos Fawr ar y cyd ag arddangosfa o flodau. Wedi mwynhau'r wledd i'r llygaid bydd cyfle i fwynhau cinio ysgafn neu baned a chacen yn y festri. Er ei bod yn wythnos hynod o brysur bwriad y cyfan yw dod i adnabod ein gilydd yn well wrth i ni dyfu yn ein hadnabyddiaeth o'n Gwaredwr. Uchafbwynt yr wythnos yw ein gwasanaeth unedig fore Sul y Pasg sy'n gosod y Crist atgyfodedig yn ben ar y gweithgarwch i gyd. Eleni bydd holl elw yr wythnos yn mynd at apêl daeargryn yr India ac rydym yn hyderus y gallwn anfon swm sylweddol yn ol ein harfer. Y llynedd, yn ogystal â chwblhau ein taliadau cyfundebol yn llawn, danfonwyd dros £ 2000 i elusennau lleol a byd-eang, sy'n dangos yn eglur fod drysau ein heglwysi yn agor allan i estyn cymorth i'r gymdeithas o'n hamgylch. Beth am y dyfodol? Fel yn hanes pawb mae'n debyg mae'n gymysgedd o ofn a gobaith. Rydym yn dal i bryderu ein bod ni'n colli pobl ifanc yn eu harddegau o'n hoedfaon, felly bwriadwn gychwyn gweithdy addoliad yn ystod y flwyddyn yma er mwyn cynnwys eu syniadau hwy yn Cyngor Ysgolion Sul Cyhoeddiadau'r Gair Cofiwch alw draw i'r stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbycn Dewis da o lyfrau ac adnoddau newydd yn cynnwys: Esboniadau newydd a gwerslyfrau ysgol Sul ar gyfer mis Medi Cyflenwad o CANEUON FFYDD ar gael Dewis helaeth o lyfrau yn cynnwys llyfrau darllen, gweddïau a gwasanaethau, Cardiau cyfarch a cardiau Nadolig newydd Siacedi a châs lledr ar gyfer Caneuon Ffydd a'r Beibl Cymraeg Newydd Yr holl ddeunydd hefyd ar gael o SIOP Y GAIR ym Mangor Ar agor Llun Gwener 9-5 neu drwy'r post e-bost Ffôn: 01248 382947 e-bost: aled.davies@bangor.ac.uk ein gwasanaethau. Gofalaeth fechan ydym ni o ran nifer ond mae yma ganran uchel o deuluoedd ifanc. Yr ydym yn raddol yn sylweddoli fod dyddiau gweinidogaeth yr un person yn dod i ben. Mae'n rhaid i ni felly ystyried sut gallwn ni ymateb i'r sefyllfa honno trwy addysgu ein cynulleidfaodd i ddefnyddio yr adnoddau a'r doniau sydd yn eu plith a dod yn hunangyhaliol a hyderus i gynnal Eglwys i'r dyfodol.