Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cenhadu Heddiw Y Gymdeithas Unedig er Lledaenu'r Efengyl Dathlu Tri Chanmlwyddiant Dyna sy'n digwydd eleni i un o gymdeithasau cenhadol hynaf y byd. Mor bell yn ôl â 1701 sefydlwyd yr SPG (Society for the Propogation of the Gospel in Foreign Parts) sydd erbyn hyn wedi uno gyda chymdeithasau cenhadol eraill i ffurfio'r USPG (United Society for the Propogation of the Gospel). Y Parchedig Ddr Thomas Bray oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i sefydlu'r SPG. Wrth iddo ymweld â Maryland yn niwedd yr ail ganrif ar bymtheg darganfu'r Eglwys yn America mor wan yn ysbrydol a di-drefn fel iddo sicrhau Siarter gan y Brenin William III i sefydlu'r SPG fel cymdeithas i anfon offeiriaid ac athrawon i America. Eu swyddogaeth oedd gweinidogaethu i'r trefedigaethwyr a chyhoeddi'r Efengyl i'r caethweision a'r brodorion Americanaidd. Yn ystod y ddeunawfed ganrif ehangodd gorwelion y Gymdeithas yn ddaearyddol yn gyflym, yn gyntaf i India'r Gorllewin a Nova Scotia ac yna i Ganada, Awstralia, Seland Newydd a Gorllewin Affrica; mewn gair i bobman y symudodd Prydeinwyr i drefedigaethu. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg anfonodd yr SPG genhadon i'r India, De Affrica a mannau eraill ac yn gynyddol bu'r gwaith ymhlith y brodorion ac nid y trefedigaethwyr. Yn ogystal â gwaith bugeiliol ac addysgol daethpwyd i sylweddoli bod gwaith meddygol yn ffordd effeithiol o ddangos cariad Duw tuag at bawb. U.M.C.A. Un o'r cymdeithasau eraill a ddaeth ynghyd wrth sefydlu'r USPG oedd yr UMCA, sef The Universities Mission to Central Affrica, a sefydlwyd fel canlyniad uniongyrchol i ddychweliad David Livingstone o Affrica ym 1857. Y pryd hynny rhoddodd her i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt i weithredu yn wyneb erchyllterau y caethwasiaeth y bu'n dyst ohono. Adeiladwyd yr eglwys gadeiriol yn Zanzibar ar dir a fu'n farchnad i gaethweision a saif yr allor ar yr union fan y bu'r blocyn lle'u gwerthwyd. Ceisiodd yr UMCA sefydlu'r Eglwys yng nghanolbarth Affrica a bu dynion a merched ifanc yn flaenllaw yn y gwaith arloesol hwn. Bu patrwm a ffordd o weithredu arbennig ynghlwm wrth yr UMCA, sef meibion a merched sengl yn byw a gweithio dan reol bywyd mewn ufudd- dod i'r esgob. Yr oedd, fel y dywedodd esgob diweddarach, Frank Thorn, 'fel cymuned grefyddol ond heb un cartref arbennig' {mother house) Ni dderbyniai genhadon yr UMCA gyflog, dim ond lwfans misol. Yn wreiddiol roeddent yn byw mewn cymunedau bychain o amgylch canolfannau esgobaethol, ysgolion ac ysbytai. Un o brif gyfraniadau'r gymdeithas yn feddygol oedd gyda'r frwydr yn erbyn y gwahanglwyf. Cambridge Mission to Delhi Cymdeithas arall a ddaeth yn rhan o'r USPG, a hynny mor ddiweddar ag 1968, oedd y Cambridge Mission to Delhi. Fel yr awgryma'r enw, o brifysgol y daeth y symbyliad i sefydlu'r gymdeithas hon hefyd, ac yn gan Bethan Scotford benodol gyda gweledigaeth B F Westcott i gynnal deialog dwys a pharchus gyda thraddodiad crefyddol yr India. Gwnaethpwyd llawer o waith y gymdeithas drwy Frawdoliaeth yr Esgyniad a Chymuned Sant Steffan i ferched. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwaith mwyaf arloesol y Gymdeithas yw trwy weinidogaeth fentrus y Frawdoliaeth gyda'r rhai mwyaf defreintiedig yn Delhi. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, y profiad o wahanu India a Phaástan a'r symudiad tuag annibyniaeth mewn cynifer o wledydd Affricanaidd bu newid ym mhatrwm cenhadu. Datblygodd eglwysi annibynnol eu strwythurau eu hunain tra gwelwyd llai o ddiddordeb mewn gwaith cenhadol yn eglwysi Prydain ac Iwerddon. Fel ymateb i'r her hwn teimlodd yr SPG a'r UMCA eu bod yn cael eu harwain i uno gan sefydlu un gymdeithas genhadol Anglicanaidd. Yn ddiweddarach daeth cymdeithasau cenhadol eraill yn rhan o'r un gymdeithas hefyd. Gweithio mewn Partneriaeth Ers ei sefydlu teimlodd yr USPG ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth gydag adrannau eraill o'r eglwys fyd- eang, gan hyrwyddo symudiad mewn pobloedd, adnoddau a syniadau o amgylch eglwysi ledled daear. Aiff cenhadon dramor i rannu eu sgiliau a'u bywydau, darperir arian i hyrwyddo gwaith eglwysi a threfnir i gyfnewid rhaglenni addysgol. Gydol eu hanes ar wahân i'w gilydd bu'r cymdeithasau yn flaengar yn y frwydr yn erbyn anghyfiawnder ac anghydraddoldeb ac mae'r Gymdeithas Unedig yn parhau gyda'r pwyslais hwn. Bu'n gweithio gyda ac ar ran yr eglwys a phobl De Affrica yn y frwydr yng nghyfnod apartheid. Yn fwy diweddar bu'n rhan o ymgyrch Jiwbilî 2000 i ddileu dyledion gwledydd tlotaf y byd. Am dri chant o flynyddoedd cyhoeddodd y Gymdeithas Efengyl Crist yn ei chyfanrwydd ac mae wedi ymrwymo i barhau'r gwaith hwn i mewn i ganrif newydd. Yma yng Nghymru cynhelir o leiaf un achlysur o bwys ym mhob esgobaeth i ddathlu penblwydd y gymdeithas. Eisoes cynhaliwyd gwasanaethau yn Wrecsam, Mynwy a Llandaf ac yn ystod y misoedd nesaf cynhelir oedfaon yn y rhan fwyaf o eglwysi cadeiriol. Yn y Gadeirlan ym Mangor cynhelir oedfa brynhawn Sul 24 Mehefin pan bregethir gan y Gwir Barchedig Khotso Makhulu. Yn llyfrgell Penarlag ym mis Mai lawnsiwd llyfr 'Three Cen- turies of Mission' sy'n adrodd hanes arloesol yr USPG. Yn sicr mae gennym le i ddathlu, i ddiolch ac i ymrwymo i barhau gyda'r gwaith.