Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddoriaeth a Christnogaeth « 3: Cerddoriaeth y Deml Y Salmau Mae'n siwr fod gennym ein ffefrynnau o blith y Salmau. Rhaid i mi gyfaddef fod gen i rai beth bynnag. Gwyddom hefyd fod nifer ohonynt yn cael eu darllen yn amlach mewn gwasanaethau nag eraill. A oedd hynny yn wir am y defnydd a wnaed o'r Salmau yng ngherddoriaeth y deml? Yn siwr yr oedd iddynt le pwysig a chanolog yn litwrgi'r deml, a cheir nifer o gyfeiriadau atynt sy'n goleuo rhywfaint ar y modd y defnyddiwyd hwy a sut yr oeddent yn swnio. Mae rhestr o salmau addas i bob dydd o'r wythos yn y Talmwd. Salm 24 ar y dydd cyntaf; Salm 48 ar yr ail ddydd; Salm 82 ar y trydydd dydd; Salm 94 ar y pedwerydd; Salm 81 ar y pumed; Salm 93 ar y chweched, a Salm 92 ar y Sabath. Casglwyd Llyfr y Salmau at ei gilydd dros gyfnod yn sicr, a thebyg i'w ffurf presennol gael ei sefydlu ymhell ar ôl Alltud Babilon ac ail adeiladu y deml. Dynoda rhai o'r teitlau, megis 'salm Asaff' neu 'I feibion Cora' restr canu (repertoire) urdd etifeddol arbennig o gantorion; mae eraill yn dynodi yr amgylchiadau y defnyddiwyd hwy, ac eraill wedyn yn ôl yr arbenigwyr yn rhoi enw'r fformiwla melodig a ddefnyddiwyd yn gyfeiliant iddynt. Mae'r Talmwd yn nodi teitlau nifer o'r salmau sy'n awgrymu fod y Lefiaid yn canu i gyfeiliant offerynnau llinynnol yn aml, ond nid eu chwarae fel y drefn arferol, ond tynnu'r llinynnau (pluck). Rheolwyd y ffurf cerddorol gan adrannau litwrgaidd y rhannwyd y salmau iddynt. Un awgrym a roddir ydyw pan oedd toriad yn y canu fod utgorn yn cael ei seinio. Weithiau dynodwyd y toriadau hyn gan y gair Sela, a gyfieithiwyd yn aml fel 'seibiant'! Bydd gosodiad manwl-gywir cerddorol y salmau yn siwr o fod yn fater dyfalu bob amser, ond cynigir ambell ateb gan ffurf yr adnodau. Yn y He cyntaf y mae cyfochredd adnabyddus barddoniaeth Hebraeg yn awgrymu'n gan Emrys Evans bendant gyfartaledd cerddorol. Dyma ddwy enghraifft adnabyddus — 'Y nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw a'r ffurfafen sy'n mynegi gwaith ei ddwylaw ef. Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf? Yr Arglwydd yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf..?' Datblygwyd nifer o atebiadau (responses) cerddorol i'r ffurf barddonol mewn addoliad Iddewig. Mae'r gair 'anah' sy'n golygu yn ôl rhai 'ymateb' yn bwysig iawn yma. Fe'i defnyddiwyd i ddisgrifio'r gerddoriaeth yn nathliadau buddugoliaeth Dafydd ac y mae ar gael o hyd mewn cysylltiad â chanu antiffonal yr Iddewon. Helaethir gryn dipyn yn y Talmwd ar gysyniad yr 'atebion'. Disgrifir posibiliadau fel hyn; er enghraifft, unawdydd yn canu alaw gyfan yr adnod, a'r cantorion eraill yn ateb'wrth ail adrodd hanner cyntaf yr adnod; neu'r unawdydd a'r cantorion yn canu rhannau o adnod bob yn ail; neu y cwbwl yn canu cytgan ar ôl bob adnod. Wedyn, posibilrwydd arall, er mwyn dysgu yn iawn, buasai hanner adnodau yr unawdydd yn cael eu hail adrodd gan y gweddill. Yr hyn ddylid sylwi arno yn yr holl drefniadau hyn yw nad oes unrhyw ran i'r gynulleidfa o gwbwl. Y côr, y cantorion yn unig, sy'n cyflawni'r gwaith i gyd. Nid yw barddoniaeth Hebraeg yn odli, ac nid oes iddo fydr cyson fel sydd gan emyn-dôn fodern neu farddoniaeth clasurol. Y mae pwysleisiadau neu acenion gwan a chryf, ond nid ydynt yn gaeth eu nifer. (Mae nifer o gyfieithiadau modern fel Beibl Jeriwsalem er enghraifft yn ceisio cyfleu rhywfaint o hyn). Rheolwyd y rhythm cerddorol gan y geiriau ac nid gan y tarawiadau cyson, a byddai'n rhaid i'r ffurf melodaidd fod yn medru ffitio adnodau nad oeddent yn rheolaidd eu hyd. 'Roedd yr enwau sydd uwchlaw rhai salmau, sef enwau tonau mae'n debyg, yn siwr o gynnwys pâr o syniadau melodig byrion, un i ran cyntaf adnod, ac un i'r ail ran, heb fod yn annhebyg i siant Gregoraidd. Un peth sy'n ddigon sicr, unsain fyddai'r canu. Hyd yn oed o'u cyfieithu, mae natur y salmau wedi cynhyrchu patrymau cyson o osodiadau cerddorol tros gyfnod o bron dair mil o flynyddoedd! Blaengân, siant Anglicanaidd, neu osodiadau diweddar Joseph Celineau, maent i gyd yn adleisio patrymau yr Hebraeg gwreiddiol, a hynny ar ambell newydd ffurf neu gyfnewidiad rhyfygus yn y canu salmau modern. Dyna a ddyfynnir beth bynnag gan Overath yn Saored Music and Liturgy Reform after Vatican2. Awgryma hyn fod ffurf neu adeiladwaith prydferthwch y salmau Hebreig yn rhy werthfawr i gael eu hanwybyddu gan gerddorion, a dalient i gyfoethogi cerddoriaeth Iddewig a Christionogol.