Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Peter Lord, Diwylliant Gweledol Cymru: Delweddu'r Genedl, Gwasg Prifysgol Cymru, 2000, tt.416, £ 30. Un o'r beirniadaethau mawr a anelwyd at grefydd Cymru yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif oedd ei bod, oherwydd ei phwyslais mawr ar y Gair, wedi anwybyddu'r synhwyrau eraill ac o'r herwydd wedi troi'n llwydaidd a chrin. Cenedl philistaidd oedd Cymru, a'r hyn oedd wedi ei throi'n philistaidd oedd ei phiwritaniaeth. 'You Welsh', meddai'r nofelydd Eingl- Gymreig Rhys Davies yn 1927, 'a race of mystical poets who have gone awry in some way. Alien and aloof in your consciousness of ancient austerity and closing your eyes to the new sensual world'. I'r nofelydd, roedd crefydd a'r hunaniaeth cenedlaethol fwy neu lai yn un, ac er mwyn gwarchod yr un, a phob dynoliaeth yn ei sgîl, roedd gofyn ymryddhau oddi wrth y llall. 'Your brilliant children leave you because of the hopeless stagnation of your miser- able Nonconformist towns; the religion of your chapels is a blight on the flow- ering souls of your young'. I'r sawl na fynnent ymwrthod â chrefydd yn gyfan gwbl yr unig ddewis oedd troi at y ffurfiau hynny o Gristionogaeth a roes bwyslais ar liw, llun a'r synhwyrau gweledol, boed yn Babyddiaeth neu yn Uchel- Anglicaniaeth. Doedd hi ddim yn gyd- ddigwyddiad fod pobl fel Saunders Lewis, a droes yn Babydd, a Gwenallt, a fu am beth amser yn Uchel- Eglwyswr, wedi cael mewn ADOLYGIADAU (TR WASG sacramentaliaeth gadarnhad i'w hestheteg yn ogystal â maeth i'w heneidiau a ffordd i oresgyn llwydni manicheaidd piwritaniaeth. Neu dyna oedd y dybiaeth am yn hir, beth bynnag. Yr hyn a wnaeth Peter Lord yn rhai o'i gyfrolau cynharach oedd dangos fod y ddeuoliaeth rhwng y llygad a'r glust, neu'r llun a'r Gair, yn fwy o ragfarn nac o ffrwyth ymchwil fanwl a gwrthrychol a bod y berthynas rhwng crefydd a'r diwylliant gweledol yn fwy cymhleth o lawer nag a dybiwyd ynghynt. Gyda William Roos, Hugh Hughes ac yn ddiweddarach yn y ganrif T.H.Thomas 'Arlunydd Pen-y-garn' ac Ap Caledfryn yn mynegi trwy ddelwedd a llun werthoedd piwritanaidd (yn yr ystyr orau) y dosbarth capelaidd, dangoswyd nad philistiaid o reidrwydd oedd crefyddwyr y Gair hyd yn oed ac nad porthi chwant y llygad a wnaethant ond gogoneddu Duw trwy weithiau celf Un thema yn unig yw'r thema hon yn y gyfrol ysblennydd hon. Nid llyfr ar grefydd mohono ond llyfr ar Gymru, ar yr hunaniaeth cenedlaethol ar hyd y canrifoedd a sut y mynegwyd hynny yn weledol, mewn paent, pren, maen, ffotograff a ffilm. Ond gan fod crefydd wedi bod yn ffactor mor ganolog yn y stori hyd at yn ddiweddar iawn, ceir bod delweddaeth Gristionogol yn brigo i'r wyneb yn gyson ac yn gadarn iawn. Gan gychwyn gyda'r Dadeni Dysg a'r protestaneiddio Anglicanaidd clasurol a ddaeth yn ei sgîl, eir heibio i adferiad y frenhiniaeth yn 1660 a'r gwerthfawrogi newydd o'r tirlun a ddaeth i'r golwg yn y ddeunawfed ganrif, ac i mewn wedyn i gyfnod y diwydiannu helaeth a esgorodd ar Gymru newydd Oes Victoria, mae'r awdur yn disgrifio ac yn dadansoddi fel y bu i'r Cymry fynegi eu hunaniaeth trwy eu hartistri. Mae'r stori yn un gyfareddol a chyffrous, yn llawn gwybodaeth fuddiol ac mae'r awdur a'r wasg wedi bod yn afradlon hael gyda'u defnydd o ddarluniau. Bydd darllenwyr Crístion ar eu helw yn fawr o brynu'r gyfrol a deall sut y bu i'n cyndadau weld eu hunain yn natblygiad hanes eu gwlad a sylweddoli o'r newydd sut yr ymrithiodd crefydd yn ddelw ac yn llun oddi mewn i'r hir hanes hwnnw. Llyfr i'w fwynhau a'i drysori yw hwn, ac yn un i'w droi ato yn gyson. Pleser pur. D. Densil Morgan Bangor Rhys, Robert: Dawn Dweud, Daniel Owen. Gwasg Prifysgol Cymru, 2000. tt227. Pris EIO.99 Gellid dadlau mai gwendid y nofel Gymraeg y dyddiau hyn yw ei hamharodrwydd, a hynny am amryfal resymau cymhleth cymdeithasegol a diwylliannol, i ddadansoddi'r gymdeithas Gymraeg gyfoes yn ei chyfanrwydd. Mae hyn yn drueni oherwydd y nofel rhagor unrhyw gyfrwng llenyddol arall sy'n gallu taflu goleuni ar hynt cyfnod arbennig mewn hanes. Os ydym eisiau deall dyheadau ac ofnau pobl y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Lloegr rhaid troi at nofelau George Eliot a Thomas Hardy. Os ydym eisiau deall yr un cyfnod yng Nghymru rhaid troi at nofelau Daniel Owen. O safbwynt astudio'i yrfa a'i gynnyrch llenyddol, y broblem yw fod cymaint o'r deunydd perthnasol bellach ar chwâl neu allan o brint. 'Roedd gwir angen dod â'r holl ddeunydd perthnasol at ei gilydd yn un gyfrol. Mae Robert Rhys wedi llwyddo i