Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Darllen. Mathew 27:15-26 Ar yr wyl yr oedd y rhaglaw yn arfer rhyddhau i'r dyrfa un carcharor o'u dewis hwy. A'r pryd hwnnw yr oedd carcharor adnabyddus yn y ddalfa, o'r enw Iesu Barabbas. Felly, wedi iddynt ymgynnull. gofynnodd Pilat iddynt, "Pwy a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi, Iesu Barabbas ynteu Iesu a elwir y Meseia?" Oherwydd gwyddai mai o genfigen y traddodasant ef. A thra oedd Pilat yn eistedd ar y brawdle anfonodd ei wraig neges ato, yn dweud, "Paid ag ymyrryd â'r dyn cyfiawn yna, oherwydd cefais lawer o ofid mewn breuddwyd neithiwr o'i achos ef." Ond perswadiodd y prif offeiriaid a'r henuriaid y tyrfaoedd i ofyn am ryddhau Barabbas a rhoi Iesu i farwolaeth. Atebodd y rhaglaw gan ofyn iddynt, "Prun o'r ddau a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi?" "Barabbas," meddent hwy. "Beth, ynteu, a wnaf â Iesu a elwir y Meseia?" gofynnodd Pilat iddynt. Atebasant i gyd, "Croeshoelier ef." "Ond pa ddrwg a wnaeth ef?" meddai yntau. Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, "Croeshoelier ef." Pan welodd Pilat nad oedd dim yn tycio ond yn hytrach bod cynnwrf yn codi, cymerodd ddwr, a golchodd ei ddwylo o flaen y dyrfa, a dweud, "Yr wyf fi'n ddieuog o waed y dyn hwn; chwi fydd yn gyfrifol." Ac atebodd yr holl bobl, "Boed ei waed arnom ni ac ar ein plant." Yna rhyddhaodd Pilat iddynt Barabbas, a thraddododd Iesu, ar ôl ei fflangellu, i'w groeshoelio. Myfyrdod Rhybuddiais ef i gadw'n glir. 'Gad lonydd' meddwn, 'Cadw draw. Wedi'r cyfan, ti yw'r llywodraethwr, ti sydd wrth y llyw. Gad y mater i'r Iddewon, anfon ef at Herod, gad i eraill wneud y gwaith budr am unwaith. Nid dy broblem di mohoni!' Ond, beth wnaeth ef? Gwneud cawl go iawn o bethau, dyna a wnaeth! Do fe drïodd, ni allaf wadu hynny; fe geisiodd olchi ei ddwylo o'r busnes i gyd. Ni welais mohono erioed wedi cynhyrfu gymaint, ac mor ansicr ohono'i hun. Ac i fod yn deg, fe gymerodd fy nghyngor i ryw raddau; gyrru'r dyn at Herod, fel yr awgrymais. Ond fe adawodd iddo anfon Iesu yn ôl, dyna sy'n ddirgelwch i mi gadawodd y llwynog cyfrwys yn rhydd a gadel ei hunan yn y picil. Dyna ddynion i chi, bob tamaid! Wedi hynny roedd pethau ar y goriwaered. 'Dewiswch chi,' meddai wrth y dorf 'DoesDelygidAofe! trwy lygaid rhai o gymeriadau'r Testament Newydd Rhybuddiais ef i gadw'n glir Mytrdodau ar berson Cnst Gwraig Peilat 'Barabbas, neu Iesu?' Gwych! Sylweddolodd y dyrfa yr hyn a geisiodd ei wneud ac yr oeddent yn benderfynol na chawsai'r trechaf arnynt. 'Rhyddha i ni Barabbas,' meddent, gallech hyd yn oed glywed rhyw dinc chwerthin yn eu lleisiau. Felly, yno y safodd, heb unman i droi, neb i droi ato, a'r penderfyniad yn ei ddwylo ef, ac ef yn unig. Hyd yn oed wedyn nid oedd hi ar ben arno, dylai fod wedi herio'r dyrfa, gwrando ar ei gydwybod nid ei fod wedi gwneud hynny erioed cofiwch chi. Ond pan ddaeth yr awgrym fod amheuaeth ynglýn â'i deyrngarwch, a bod ei swydd yn y fantol, dyna hi wedyn. Ond edrychwch arno nawr. Credais fod fy nerfau i yn ddrwg, ond dim i'w gymharu ag ef. Ni all anghofio'r dyn, nos na dydd, dim eiliad o heddwch. Y mae wedi ei boenydio gan gywilydd. Wel, fe geisiais ei rybuddio; Ni allwn wneud mwy. Gwnaeth ei benderfyniad ac yn awr y mae'n rhaid iddo fyw gyda'r penderfyniad hwnnw. Weithiau ni allaf ond meddwl wrth edrych i'w lygaid a gweld y boen ym myw'r llygaid hynny, pwy fu'n barnu'r diwrnod hwnnw. Ai Pontius a gondemniodd Iesu? Neu ai ef, Pontius, a gondemniwyd? Gweddi Arglwydd Iesu, gwnaethom, bawb ohonom gamgymeriadau- camgymeriadau sy'n pwyso'n drwm ar ein cydwybod. Gallwn eu gwadu, a cheisio rhedeg i ffwrdd oddi wrthynt, golchi ein dwylo ohonynt, ond er ceisio ni allwn ddianc. Dysg i ni beidio rhedeg oddi wrth y pethau sy'n hunllef i ni, ond eu cydnabod yn agored ger dy fron, fel y gallwn ddarganfod 'yr hedd na wyr y byd amdano' gan Olaf Davies Yn seiliedig ar No OrdinaryMan gan Nick Fawcett