Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Destament hefyd yn awgrymu fod yr hyn sy'n digwydd i blant yn ffon fesur gywir ynglyn â'r hyn sy'n werthfawr ac yn cyfrif i'r gymdeithas. Mae marwolaeth a chamdriniaeth plant bach yn cael ei gyflwyno fel trasiedi o'r radd flaenaf yn Nahum 3:10, ac wedyn yn Sachareia 8:5, mae'r hapusrwydd a'r llawenydd sy'n gysylltiedig â bywyd ifanc yn cael ei gyflwyno fel arwydd fod Duw wedi ymweld â'i bobl. Yma gwelwn ddarlun prydferth o blant yn chwarae a'r swn hapus hwnnw yn llenwi'r strydoedd. Roedd lles plant ac ieuenctid yn bwysig i Genedl Israel oherwydd fod Duw yn Dduw sydd yn cwmpasu pob oed. Gwelwn hyn yn Deuteronomium 6: 6, Y mae'r geiriau hyn yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw i fod yn dy galon. Yr wyt i'w hadrodd i'th blant. Yn yr un modd safodd lesu yn erbyn tueddiadau, traddodiadau a rhagfarnau ei gyfnod drwy ddatgan hawl plant ohonynt eu hunain i ddatblygu eu perthynas ysbrydol arbennig â Duw, gan wneud datganiadau chwyldroadol ynglyn ag ysbrydolrwydd plant bach fel ym Mathew 18: 2-3 Galwodd lesu blentyn ato a'i osod yn eu canol hwy, a dywedodd, 'Yn wir 'rwy'n dweud wrthych, heb gymryd eich troi a dod fel plant, nid ewch fyth i mewn i deyrnas nefoedd' Yn ôl Mathew 18, felly, y sawl sy'n ymdebygu i blentyn bach sy'n cael ei gymharu â'r rhinweddau rheiny sy'n gysylltiedig â theyrnas Dduw. Mae rhinweddau amlwg a naturiol yn perthyn i blant, sy'n golygu fod eu dyfodiad at Dduw yn hwylusach rhywsut. Mae eu diymadferthedd a'rffaith eu bod yn ddibynnol yn esiampl ysbrydol i oedolion. Wrth gwrs nid yw lesu na'r Beibl yn gogneddu plentyndod ar draul unrhyw gyfnod arall o'n hoes oherwydd mae gwir brofiad ysbrydol yn perthyn i bob oed. Cyn belled â bod datblygiad corfforol yn y cwestiwn mae datblygiadau naturiol. Nid yw hyn mor berthnasol yn y byd ysbrydol. Gall dealltwriaeth y plentyn a'r person ifanc o Dduw fod yn wahanol ond nid yn israddol EGLWYS HEDDIW Mae Duw y Beibl yn Dduw pob oed heb gyfyngiadau oed arno. Nid yw wedi ei gyfyngu i ddiniweidrwydd plant, brwdfrydedd ieuenctid nac ychwaith i aeddfedrwydd oedolion na llesgedd hen bobl. Mae'n cwmpasu'r cyfan. Yn yr hen fyd felly, os mai rhywbeth i dyfu allan ohono ydyw plentyndod a'r bywyd ifanc, a yw hanes pobl Dduw yn y Beibl yn wahanol i hyn ac yn cynnwys cyfeiriadau at blentyndod a'r arddegau fel cyfnod arbennig? Ydyw yn fy marn i. Mae'r ddau gategori ifanc a hen yn y ddau Destament ac mae Duw o hyd yn anfon yr ifanc i gyhoeddi ar ei ran. Nid eglwys y dyfodol ydyw'r ifanc ond eglwys heddiw am fod Duw yn Dduw pob oed. Mae'r Beibi yn cadarnhau y gwerth a rydd Duw ar fywyd ifanc a'r disgwyliadau sydd ganddo ohonynt. Yn Salm 139: 13-16 gwelwn fod Duw yn cychwyn ei waith ynom cyn ein geni hyd yn oed ac hefyd yn achos Jeremeia roedd i'r delio cynnar hwnnw arwyddocad ar gyfer gweinidogaeth i'r dyfodol, (Jeremeia 1: 5). Roedd hyn yn wir hefyd am Samuel ( 1 Samuel 2: 21). Fe gysegrwyd Samson i waith arbennig cyn ei eni (Barnwyr 13: 24). Llanwyd loan Fedyddiwr â'r Ysbryd Glân hyd yn oed ag yntau o hyd yng nghroth ei fam (Luc 1: 41). Ond y cynsail amlycaf o'r cwbl ynglyn â Duw yn defnyddio bywyd ifanc fel tystiolaeth o'i ras ydyw'r hyn a ddarllenwn yn Luc 2: 11 "ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd waredwr, yr hwn yw'r Meseia, yr Arglwydd, Ag yntau ond ychydig oriau o oed roedd yr angylion yn cyhoeddi Iesu yn waredwr byd. Nid eglwys y dyfodol ydyw'r ifanc ond eglwys heddiw am fod Duw yn Dduw pob oed ac yn Dduw pob cyfnod. Mae'r Beibl yn cadarnhau y gwerth a rydd Duw ar fywyd ifanc a'r disgwyliadau sydd ganddo ohonynt. Oes mae'n rhaid cyfarwyddo â dulliau cyfathrebu heddiw a'u defnyddio i eithaf eu potensial a hynny er mwyn cyflwyno'r Ffydd i bobl heddiw. Mae hynny'n cynnwys plant a phobl ifanc. Mae gennym fandad clir yn y Beibl ar gyfer y gwaith hwn. Dyma ein cyfle ni ynghyd â'n cyfrifoldeb ni. Os na wnawn ni, Gymry Cymraeg, y gymwynas hon â'n pobl pwy arall wnaiff? FFORDD 0 FYW ASTUDIAETHAU AR STIWARDIAETH GRISTNOGOL Beth am drefnu grwp i'w drafod yn ystod y Gaeaf? Pris £ 4.50 Telerau gostyngol am archebion o 6 chopi neu fwy. Ar gael hefyd yn Saesneg WAY OF LIFE